Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Archifau Llenorion Cymreig


Darlun o David Jones gan Ray Howard-Jones
Darlun o David Jones gan Ray Howard-Jones. © Ystad yr Arlunydd

Ers dros 50 mlynedd mae’r Llyfrgell wedi mynd ati i gasglu papurau llenorion Cymreig (a elwid weithiau yn ‘Eingl-Gymreig’), sef llenorion Cymraeg sy’n ysgrifennu trwy gyfrwng yr iaith Saesneg. Y ffigwr amlycaf wrth gwrs yw Dylan Thomas ac mae gennym gasgliad cynyddol o lythyrau a llawysgrifau ganddo. 

 

Mae gennym gasgliad o bapurau llenyddol Raymond Williams yn cynnwys drafftiau o'r nofelau Border Country a People of the Black Mountains.

 

Ceir archif gynhwysfawr o bapurau’r awdur a’r artist David Jones yn cynnwys drafftiau o In Parenthesis a The Anathemata

 

Hefyd mae gennym lyfrau nodiadau a phapurau Margiad Evans, drafftiau o nofelau a storïau Rhys Davies ac archif gyflawn o nofelau, storïau a llyfrau nodiadau yn llaw Gwyn Thomas.

 

Beth am weld dyddiaduron llenorion megis John Cowper Powys, Idris Davies neu Edward Thomas? Beth am weld llythyrau amrywiol at Keidrych Rhys, golygydd Wales, a llythyrau at Sam Adams yn trafod Poetry Wales?

 

 

Ysgythriad o Alun Lewis gan John Petts
Ysgythriad o Alun Lewis gan John Petts. © Ystad yr Arlunydd

Rhestr ddethol A-Z

 

Dyma rai o'r awduron amlycaf yn ein casgliadau, ond nid yw popeth yn y rhestr hon a dylid chwilio’r catalogau am fanylion pellach. Gellir cael mynediad i’r archifau hynny sydd wedi eu catalogio drwy chwilio ar gatalogau arlein y Llyfrgell (archifau a gatalogwyd cyn 1999, archifau a gatalogwyd ar ôl 1999).

 

  • Dannie Abse
  • Sam Adams
  • Ron Berry
  • Alison Bielski
  • Gertrude Maud Carter
  • Brenda Chamberlain
  • Gillian Clarke
  • William Moreton Condry
  • Eliot Crawshay-Williams
  • Idris Davies
  • Rhys Davies
  • W H Davies
  • Tom Early
  • Caradoc Evans
  • Margiad Evans
Ffotograff o Jack Jones gan Geoff Charles
Ffotograff o Jack Jones gan Geoff Charles
  • Menna Gallie
  • Raymond Garlick
  • William Glynne-Jones
  • Geraint Goodwin
  • Llewelyn Wyn Griffith
  • Bryn Griffiths
  • James Hanley
  • Peter Hellings
  • Ray Howard-Jones
  • Cledwyn Hughes
  • Emyr Humphreys
  • David Jones
  • Glyn Jones
  • Gwyn Jones
  • Jack Jones
  • Alun Lewis
  • Richard Llewellyn
  • Tom Macdonald
  • Robert Morgan
  • Jan Morris
  • Roland Mathias
Braslun o Emlyn Williams gan Mervyn Levy
Braslun o Emlyn Williams gan Mervyn Levy. © Ystad yr Arlunydd
  • Oliver Onions
  • John Ormond
  • Daniel Parry-Jones
  • John Cowper Powys
  • A G Prys-Jones
  • Bernice Rubens
  • Berta Ruck
  • Dylan Thomas
  • Edward Thomas
  • Gwyn Thomas
  • R S Thomas
  • John Tripp
  • Vernon Watkins
  • Harri Webb
  • Emlyn Williams
  • Gwyn Williams
  • Huw Menai Williams
  • Raymond Williams

 

Archifau Llenyddol Modern

 

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 22-09-2010