Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Newyddion - 2010

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Trefniadau Gwyliau Nadolig a Chalan 2010/2011

Mer, 22 Rha 10 09:43:00

Bydd y Llyfrgell yn cau ddydd Gwener 24 Rhagfyr am 3.00 p.m. ac yn ailagor am 9.30 a.m. ddydd Mawrth 4 Ionawr.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Penodiadau i Fwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llu, 20 Rha 10 12:04:00

Mae’n bleser gan Dafydd Wigley, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth, Llywodraeth Cynulliad Cymru, gyhoeddi ailbenodiad dau Ymddiriedolwr, a phenodiad Ymddiriedolwr newydd i wasanaethu ar Fwrdd y Llyfrgell.

Ffotograff Geoff Charles

Nadolig Blogllyd Llawen!

Iau, 16 Rha 10 09:29:00

Rysetiau, gloddesta, atgofion Nadolig o’r 1930au, gwydd lwcus Pencaenewydd, hen gardiau Nadolig ... a ffordd effeithiol o ddanfon rhai eleni! Dyna beth o’r postiadau difyr a sgwennir yn Gymraeg a Saesneg gan staff y Llyfrgell ar ein blog.

Brwydrau Alecsander Fawr

Brwydrau Alecsander Fawr Mewn Lliw

Llu, 06 Rha 10 16:06:00

Mae llawysgrif liwgar am hanes brwydrau Alecsander Fawr, un o ddynion enwocaf hanes, i’w gweld yn ei llawn ogoniant ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Logo AGSSC

Llwyddiant Olympaidd i Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru a Myfyrwyr Coleg Ceredigion.

Mer, 01 Rha 10 09:17:00

Mae project ffilm rhwng Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru a Coleg Ceredigion, Aberystwyth, wedi derbyn Marc Ysbrydoli’r Olympiad Diwylliannol. Mae’r wobr arbennig yma yn adnabod projectau eithriadol ac arloesol sydd wedi’u ysbrydoli gan Gemau Llundain 2012.

Huw Edwards

'Broadcasting and Journalism' Huw Edwards

Maw, 30 Tac 10 15:41:00

Oherwydd amgylchiadau, mae'n rhaid gohirio’r noson a oedd i'w chynnal ar nos Wener 3 Rhagfyr am 7.30 p.m.

Dyn eira LlGC

Gillian Clarke a Carol Ann Duffy – ymlaen

Gwe, 26 Tac 10 14:24:00

Yn sgil y cawodydd eira, mae sawl galwad yn holi a yw’r digwyddiad barddonol gyda’r Bardd Cenedlaethol, Gillian Clarke a’r Bardd Brenhinol, Carol Ann Duffy, ymlaen o hyd am 14.30 awr ddydd Sadwrn 27 Tachwedd.

[Translate to Cymraeg:] Academy Logo

Y Bardd Cenedlaethol a Bardd y Frenhines yn dod i LlGC

Mer, 24 Tac 10 16:21:00

Bydd Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke a Bardd y Frenhines, Carol Ann Duffy, yn rhoi cyflwyniad prin yn y Llyfrgell Genedlaethol ar ddydd Sadwrn 27 Tachwedd 2010.

Dafydd Wigley

Dafydd Wigley yn cael ei ddyrchafu'n arglwydd.

Llu, 22 Tac 10 11:24:00

Hoffai Llyfrgell Genedlaethol Cymru longyfarch Llywydd y Llyfrgell, Dafydd Wigley, ar y cyhoeddiad ei fod am ei ddyrchafu'n arglwydd.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru i golli £1,000,000.

Mer, 17 Tac 10 17:08:00

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn wynebu colli miliwn o bunnoedd yn dilyn cyhoeddiad diweddar Cyllideb Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cywyddau Beirdd Pwysig Arlein

Cywyddau Beirdd Pwysig Arlein

Mer, 10 Tac 10 16:17:00

Mae cyfrol o waith rhai o feirdd amlycaf Cymru y canol oesoedd a gopïwyd gan ŵr o ardal Harlech a symudodd i Ddarowen ym Maldwyn, nawr ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Helo Wrecsam!

Mer, 10 Tac 10 15:29:00

Ar 11 Tachwedd 2010, bydd Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Dafydd Wigley, yn arwain noson o sgyrsiau a chyflwyniadau yn y Guildhall yn Wrecsam. Mae’r digwyddiad yn goron ar gyfres o weithgareddau diweddar gan y Llyfrgell yn Wrecsam ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a nifer o gyrff lleol.

Adeilad y Llyfrgell

Café Pen Dinas yn Ailagor

Gwe, 29 Hyd 10 16:15:00

Bydd Café Pen Dinas y Llyfrgell yn ailagor ar ddydd Llun 1 Tachwedd. Bydd yn gweini prydau poeth ac oer, melysion a diodydd.

Logo AGSSC

Ffilmiau Archif ar Sgrîn Fawr Caerdydd

Gwe, 29 Hyd 10 12:28:00

Bydd siopwyr a cherddwyr yng nghanol y brifddinas yn gallu mwynhau cip olwg ar yr hen Gaerdydd.

Llyfrgell Genedlaethol Cymu

Adolygiad o flwyddyn LlGC 2009-10

Mer, 27 Hyd 10 12:39:00

Dwy filiwn o bunnoedd i ddigido papurau newydd a chylchgronau Cymru G19; ailagor Ystafell Ddarllen y Gogledd ar ei newydd wedd; trefnu dau fis o ddigwyddiadau y tu allan i Aberystwyth - dyma ond rhai o’r uchafbwyntiau a amlinellir yn Adolygiad y Flwyddyn 2009-10, a gellir ei darllen arlein.

Islwyn Roberts

Y Prif Weinidog i Agor Arddangosfa Byd Bach

Llu, 25 Hyd 10 14:45:00

Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fydd yn agor arddangosfa Byd Bach: Teithiau yng Nghymru a Thu Hwnt (www.llgc.org.uk/bydbach) yn swyddogol ar ddydd Mercher 27 Hydref 2010.

Perthyn

Twrio hanes eich teulu

Iau, 14 Hyd 10 12:47:00

Oes gennych chi stori ddifyr yn hanes eich teulu chi? Hoffech chi wybod mwy am eich cyndeidiau? Ydych chi’n awyddus i ddysgu sut i hel achau?

Hywel Dda

Llawysgrif hynafol mewn Ysgol yn Wrecsam

Iau, 14 Hyd 10 11:12:00

Bydd replica o lawysgrif hynafol yn cael ei arddangos i blant ysgol fel rhan o gyfres o weithdai sy’n cael eu cynnal yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam yn ystod hanner cyntaf Hydref 2010.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Café Pen Dinas

Maw, 12 Hyd 10 16:13:00

Bydd Café Pen Dinas yn ail-agor ar ddydd Llun, 1 Tachwedd

Gŵyl Condry

Gŵyl Condry – Gŵyl Undydd o Sgwennu Natur a’r Awyr Agored

Maw, 12 Hyd 10 13:50:00

Ar 16 Hydref 2010 bydd rhai o sgwennwyr natur gorau Prydain ym Machynlleth. Byddant yno ar gyfer gŵyl undydd i ddathlu a chofio gwaith y naturiaethwr a sgwennwr Bill Condry

Lorna Hughes

Penodi Lorna Hughes i Gadair Casgliadau Digidol cyntaf y byd

Llu, 11 Hyd 10 16:04:00

Penodwyd Lorna Hughes, sydd ar hyn o’r bryd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Canolfan e-Ymchwil yn King’s College Llundain, i swydd sy’n torri tir newydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Islwyn Roberts

Ar Drywydd y Bodiwr - Pwy oedd Islwyn Roberts?

Iau, 30 Med 10 14:00:00

Oes yna unrhyw un yn cofio Islwyn Roberts, Llanbedr, Sir Feirionydd, a fodiodd ei ffordd rownd y byd, yn dal arwydd â ‘Pays de Galles’ arno?

Wrecsam

Ffilm Glasur Paul Robeson mewn Dangosiad Prin yn Wrecsam

Mer, 29 Med 10 09:49:00

Yn 'Proud Valley' mae Robeson yn chwarae rhan David Goliath, Americanwr Du sy'n cyrraedd Cymru ac yn ennill parch pobl Gwlad y Gân gyda’i ddawn cerddorol.

W H Davies

Marwolaeth y Super-Tramp, WH Davies, 70 mlynedd yn ôl

Gwe, 24 Med 10 11:51:00

Dydd Sul 26 Medi bydd 70 mlwyddiant marwolaeth W H Davies (1871 - 1940) awdur un o gwpledau enwoga’r iaith Saesneg ac awdur llyfr enwog The Autobiography of a Super-Tramp.

Wrecsam

Llyfrgell Genedlaethol yn Mynd i Wrecsam

Mer, 22 Med 10 16:58:00

Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn symud i Wrecsam yr hydref hwn!

Y Drych Cristianogawl

Copi o'r Llyfr Cyntaf a Argraffwyd yng Nghymru i’w gyflwyno i'r Pab Bened XVI

Gwe, 17 Med 10 13:56:00

Cyflwynir copi ffacsimili o 'Y Drych Cristianogawl, y llyfr Catholig a’r llyfr cyntaf i’w argraffu ar dir Cymru, i'r Pab Bened XVI yn Eglwys Gadeiriol Westminster yn Llundain ar 18 Medi 2010.

Llyfr Aneurin

Llyfr Aneirin i’w gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol

Gwe, 10 Med 10 14:33:00

Mae’r lawysgrif fyd-enwog, Llyfr Aneirin, i’w gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol diolch i benderfyniad hirdymor a dewr gan Pwyllgor Gwaith Cyngor Caerdydd ar 9 Medi 2010.

Gofal am gasgliadau diolch i'r NHMF

Diolch – Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol

Llu, 06 Med 10 10:41:00

Mae 2010 yn flwyddyn penblwydd Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol yn 30 oed.

Cwsmeriaid Hapus

‘Boddhad Defnyddwyr yn Uchel’ yn LlGC

Iau, 19 Aws 10 14:33:00

Mae ymwelwyr a defnyddwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn derbyn croeso cynnes a gwasanaeth rhagorol. Ac mae hynny’n swyddogol!

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Newidiadau i Ben Dinas

Mer, 11 Aws 10 16:19:00

Bydd Pen Dinas yn cau ar gyfer gwaith adnewyddu angenrheidiol ar 14 Awst.

Baner Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Trefniadau Gŵyl Banc Mis Awst 2010

Iau, 29 Gor 10 13:50:00

Bydd yr arddangosfeydd ar agor rhwng 10:00 a 16:00. Bydd yr Ystafelloedd Darllen ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Cadair Casgliadau Digidol – swydd newydd yn torri tir newydd

Llu, 26 Gor 10 15:53:00

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn chwilio am unigolyn eithriadol o unrhyw gefndir academaidd perthnasol i lenwi swydd newydd ac unigryw sy’n cael ei hariannu gan Brifysgol Cymru a’i lleoli yn y Llyfrgell.

UNESCO

Y Gorau o Archifau’r Llyfrgell a'r Deyrnas Unedig yn cael Statws y Cenhedloedd Unedig

Maw, 13 Gor 10 14:45:00

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn falch i gyhoeddi fod dau o'i chasgliadau eiconig; Casgliad Llawysgrifau Peniarth a ffilm fud, 'The Life Story of Lloyd George', wedi ennill statws rhyngwladol gan gorff y Cenhedloedd Unedig, UNESCO.

'Elegy' gan Dylan Thomas

Cerdd Heb ei Gorffen gan Dylan Thomas a gwaith Jan Morris yn aros yng Nghymru

Iau, 08 Gor 10 10:26:00

Mae cerdd a oedd ar ei hanner pan bu farw’r bardd Dylan Thomas yn America, wedi dod nôl i dir Cymru.

'Lloyd George and Welsh Liberalism'

Lloyd George a Rhyddfrydiaeth Cymru

Iau, 17 Meh 10 16:45:00

 llywodraeth glymblaid, Rhyddfrydol a Cheidwadol yn Llundain a breuddwyd Cymru Fydd o Senedd i Gymru wedi ei sefydlu, gellid teimlo fod profiadau’r gwladweinydd David Lloyd George yn rhai cyfoes iawn. Yn sicr, mae llyfr newydd Lloyd George and Welsh Liberalism gan un o aelodau staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru, J. Graham Jones, yn taflu sawl cymhariaeth ddiddorol ar ddigwyddiadau heddiw ac ar fywyd a gyrfa’r gwleidydd a gollir yn aml gan gyhoeddiadau eraill.

'Cofiwch Dryweryn' gan Claudia Williams

Claudia Williams yn Cofio Tryweryn

Maw, 15 Meh 10 10:58:00

Tryweryn – enw sydd wedi ei hysgrifennu ar sawl mur, ac ar gof y genedl, yw testun arddangosfa gan un o brif artistiaid Cymru, Claudia Williams, rhwng 19 Mehefin – 4 Medi 2010 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Gŵyl Lyfrau Guardian y Gelli

Gŵyl y Gelli – Y Llyfrgell Yno!

Gwe, 28 Mai 10 16:27:00

Bwriwch draw i ŵyl lyfrau y Guardian yn y Gelli Gandryll am flas o waith a chasgliadau’r Llyfrgell.

Urdd Gobaith Cymru

Mabinogi a Mudo yn Eisteddfod yr Urdd

Mer, 26 Mai 10 11:13:00

‘Gadael’ a ‘Dychwelyd’ fydd thema stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Eisteddfod yr Urdd eleni yn Llanerchaeron, Ceredigion.

Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Trefniadau Gŵyl y Gwanwyn 2010

Mer, 12 Mai 10 10:29:00

Bydd yr arddangosfeydd a’r siop ar agor rhwng 10.00 a 16.00 ond bydd yr Ystafelloedd Darllen ar gau.

Pablo Picasso
Nature Morte au Poron, 1948
© Succession Picasso/DACS, London 2010

Llun Picasso yn LlGC ar ddydd Sadwrn 8 Mai

Maw, 27 Ebr 10 13:45:00

Bydd penderfyniad Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ailagor ar y Sadwrn yn destun dathlu dwbl wrth i ymwelwyr hefyd gael y cyfle arbennig i weld un o luniau olew yr artist Pablo Picasso, Bywyd Llonydd gyda Poron.

Banner LlGC

Penodiadau i Fwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Iau, 15 Ebr 10 11:44:00

Mae’n bleser gan Dafydd Wigley, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth, Llywodraeth Cynulliad Cymru, gyhoeddi penodiad dau Ymddiriedolwr i wasanaethu ar Fwrdd y Llyfrgell. Y ddau yw Mr Wyn Penri Jones a Mr Huw Williams.

Logo LLGC

Trefniadau Gwyliau Calan Mai 2010

Iau, 08 Ebr 10 15:15:00

Bydd yr arddangosfeydd a’r siop ar agor rhwng 10.00 a 16.00 o’r gloch ond bydd yr Ystafelloedd Darllen ar gau ar 3 Mai.

Adeilad y Llyfrgell

Trefniadau Pasg 2010

Iau, 01 Ebr 10 10:12:00

Bydd y Llyfrgell ar gau ar Ddydd Gwener y Groglith a Dydd Sadwrn y Pasg, ond bydd yr arddangosfeydd a'r siop ar agor Ddydd Llun y Pasg, Ebrill 5 rhwng 10:00 a 16:00.

Logo Earthhour

Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn helpu Awr Ddaear WWF i dorri record

Maw, 23 Maw 10 15:18:00

Gyda llai na wythnos cyn i Awr Ddaear WWF gael ei chynnal, mae’r fenter fyd-eang wedi tyfu’n fwy nag erioed o’r blaen, gan ragori ar ddigwyddiadau’r holl flynyddoedd blaenorol.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

2020: Golwg hirdymor ar Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Gwe, 19 Maw 10 11:57:00

Mae'r Llyfrgell wedi cyhoeddi '2020: golwg hirdymor ar Lyfrgell Genedlaethol Cymru'

Plentyn amser y Rhyfel

Maes y Gad Lles y Wlad

Iau, 11 Maw 10 14:38:00

Disgyblion o Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, Abertawe ac Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i gyd-fynd â thema’r Ail Ryfel Byd.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Y Llyfrgell i ailagor ar ddydd Sadwrn

Gwe, 05 Maw 10 14:35:00

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd yn ailagor ar ddyddiau Sadwrn o ddydd Sadwrn 8 Mai 2010 ymlaen.

logo Diwrnod y Llyfr

Diwrnod y Llyfr – ffotograffau o’r Indiaid Cochion gan Edward S Curtis

Llu, 01 Maw 10 15:14:00

Mae pob diwrnod o’r flwyddyn yn ‘ddiwrnod y llyfr’ yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ond bydd y diwrnod eleni yn un arbennig wrth gwrs.

Baner Dewi

Dathlu Dydd Gŵyl Dewi 2010

Iau, 25 Chw 10 14:23:00

Mae cyfres o ddigwyddiadau wedi eu trefnu ar gyfer dathlu dydd ein nawddsant ar 1 Mawrth. Dewch draw i fwynhau a gwneud y pethau bychain!

logo Masnach Deg

Wythnos Fasnach Deg - Cyflwyniad ar 22 Chwefror

Iau, 18 Chw 10 14:50:00

Bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn dathlu pythefnos masnach deg rhwng 22 Chwefror a 5 Mawrth 2010, trwy werthu cynnyrch bwyd a chrefft i greu byd tecach a chyflwyniad ar ddydd Llun 22 Chwefror.

Christmas Evans

Gwena! – Portreadau o’r Cymry

Gwe, 05 Chw 10 15:56:00

Cynhelir lansiad arddangosfa Gwena! – Portreadau o’r Cymry ar nos Wener 12 Chwefror 2010 yng nghwmni’r cyflwynydd, canwr a ffarmwr, Dai Jones, Llanilar. Yno hefyd fydd y cartwnydd o Gaerdydd, ‘Picasso’ Griffiths, i dynnu portreadau unrhyw un sy’n dymuno, yn y fan a’r lle.

logo Twitter

Mae’r Llyfrgell yn Trydar!

Llu, 01 Chw 10 15:50:00

Bellach gall dilynwyr y Llyfrgell ar draws y byd ddilyn ei hynt a’i helynt ar Twitter. Gallwch ddilyn y Llyfrgell yn y Gymraeg /llgcymru neu yn Saesneg /nlwales.

Ifor ap Dafydd

Cyfrifiaduron - Achubiaeth neu Fygythiad i'n Harchifau?

Gwe, 29 Ion 10 12:32:00

Nid pwy fydd yma ymhen can mlynedd ond beth fydd yma? Dyna’r cwestiwn mawr sy’n poeni nifer o bobl ym maes archifo a llyfrgelloedd wrth iddynt bryderu fod defnydd awduron a llenorion o gyfrifiaduron ac ebost yn golygu y gallai llawer iawn o waith gwreiddiol fynd ar goll am byth.

Dave Berry

David John Berry 1943 – 2010

Llu, 25 Ion 10 14:56:00

Gyda marwolaeth annhymig Dave Berry ddydd Gwener 22 Ionawr, nid colli cyn gyd-weithwr yn unig wnaeth Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, ond cyfaill triw a’i chefnogwr mwyaf brwd.

Cariad a phriodas o gasgliad Geoff Charles LlGC

Dathlu Dwynwen!

Gwe, 22 Ion 10 10:03:00

Bydd y Llyfrgell yn dathlu diwrnod cariadon Cymru, Dydd Santes Dwynwen, ar ddydd Llun 25 Ionawr. Pam na ddewch chi draw? Bydd anrhegion a chardiau chwaethus Cymreig i ddathlu nawddsant y cariadon ar werth yn ein Siop a danteithion yng nghaffi Pen Dinas.

Kyffin Williams

Blog Cymynrodd Kyffin Williams

Mer, 20 Ion 10 10:33:00

Mae gwaith ac etifeddiaeth y diweddar arlunydd, Syr Kyffin Williams, yn un sy'n ennyn diddordeb ar draws Cymru a thu hwnt. Mewn cydnabyddiaeth o hyn, gall y rhai sy'n hoff o waith Kyffin bellach ddilyn datblygiadau diddorol catalogio ei waith yn y Llyfrgell Genedlaethol ar flog newydd cymynrodd Kyffin Williams.

'The Living'

The Living - ffilm ar Newyn Mawr Stalin yn Wcráin

Mer, 13 Ion 10 13:46:00

Bydd ffilm am y newyn mawr y ceisiodd Stalin ei guddio, ond a ddarganfuwyd ac yna datgelwyd gan newyddiadurwr Cymreig dewr, yn cael ei dangos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru am 13:15 pm Dydd Mawrth 19 Ionawr.

Llyfr Taliesin

Peniarth: Arddangosfa’r Canmlwyddiant yn Llyfrgell Dolgellau

Maw, 05 Ion 10 13:53:00

Gan mlynedd yn ôl, ym 1909, daeth casgliad llawysgrifau o Ystâd Peniarth yn eiddo i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac i nodi’r ffaith, mae rhai o’r llawysgrifau mwyaf pwysig yn cael eu harddangos nôl ym Meirionnydd yn Llyfrgell Dolgellau tan 30 Ionawr 2010.

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 02-02-2011