Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Archifau Sefydliadau Llenyddol, Cylchgronau a Chyhoeddwyr


Ffotograff o Cynan fel Archdderwydd gyda Gorsedd y Beirdd yn Eisteddfod Aberystwyth 1952 gan Geoff Charles
Ffotograff o Cynan fel Archdderwydd gyda Gorsedd y Beirdd yn Eisteddfod Aberystwyth 1952 gan Geoff Charles

Mae archifau llenyddol yn goroesi nid yn unig am fod y llenorion yn eu diogelu ond am eu bod yn rhan o archifau eu cyfeillion, eu golygyddion neu gyrff cyhoeddus a chyhoeddwyr. 

 

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn gorff pwysig yn nhraddodiad llenyddol Cymru ac mae cyfansoddiadau a beirniadaethau Eisteddfodol o 1886 ymlaen yn y Llyfrgell.

 

Mae gennym bapurau Cyngor Celfyddydau Cymru er ei sefydlu yn 1967 sy’n cynnwys casgliad pwysig o archifau llenorion Cymreig. 

 

Mae archif enfawr BBC Cymru yn cynnwys sgriptiau dramâu megis sgript gyntaf ‘Pobl y Cwm’, a sgyrsiau gan awduron amlwg o 1932 ymlaen.

 

Ceir hefyd archifau nifer o gyhoeddwyr a chylchgronau llenyddol.

 

 

Rhestr ddethol A-Z

 

Dyma rai o'r awduron amlycaf yn ein casgliadau, ond nid yw popeth yn y rhestr hon a dylid chwilio’r catalogau am fanylion pellach. Gellir cael mynediad i’r archifau hynny sydd wedi eu catalogio drwy chwilio ar gatalogau arlein y Llyfrgell (archifau a gatalogwyd cyn 1999, archifau a gatalogwyd ar ôl 1999).

 

  • Anglo-Welsh Review
  • Sgriptiau BBC Cymru / Wales Scripts
  • Bwrdd Ffilmiau Cymraeg
  • Canolfan Llenyddiaeth Plant Cymru      
  • Cymdeithas Lyfrau Ceredigion
  • Cyngor Celfyddydau Cymru / Welsh Arts Council 
  • Cwmni Theatr Hwyl a Fflag
  • Dock Leaves
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru – Cofnodion y Swyddfa Ganolog
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru - Cyfansoddiadau a Beirniadaethau
  • Gwasg Gee
Ffotograff o stondin Hughes a'i fab gan Geoff Charles
Ffotograff o stondin Hughes a'i fab gan Geoff Charles
  • Gwasg Gregynog
  • Hughes a'i Fab, Wrecsam
  • Made in Wales Stage Company
  • Planet
  • Poetry Wales
  • Theatr Garthewin
  • Wales (Keidrych Rhys)
  • Y Faner
  • Y Gymdeithas Gerdd Dafod a Barddas
  • Y Llenor
  • Yr Academi Gymreig / Welsh Academy

 

Archifau Llenyddol Modern

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 18-06-2009