National Library of Wales
Impact August 2011
Promo Image Text
 

Cyfrifiad 1911


Erbyn hyn mae pawb wedi cwblhau cyfrifiad 2011, a gyda'r rheol 100 mlynedd yn dal mewn grym, ni fydd y canlyniadau o'r cyfrifiad yma ar gael tan 2111.  Golyga'r rheol 100 mlynedd wrth gwrs fod canlyniadau cyfrifiad 1911 newydd gael eu rhyddhau i'r cyhoedd.  Mae'r Llyfrgell yn cynnig mynediad am ddim i'r cyfrifiad trwy findmypast.  Gall darllenwyr ddefnyddio findmypast ar unrhyw gyfrifiadur sydd yn yr Ystafelloedd Darllen.

Mae'r gwybodaeth am ddiwydiant neu wasanaeth y mae'r gweithiwr yn gysylltiedig ag ef, pa mor hir mae'r cwpl wedi bod yn briod, a faint o blant sydd wedi eu geni iddynt, nifer sydd dal yn fyw, ynghyd â'r nifer sydd wedi marw, yn wybodaeth ychwanegol sydd yn y cyfrifiad hwn am y tro cyntaf.

Mae chwilio hanes eich teulu felly wedi dod ychydig yn haws.

 

 

Bwcio Cymorthfeydd Arlein


Ar ôl derbyn adborth oddi wrth ein defnyddwyr, rydym wedi paratoi ffordd newydd, haws o gofrestru ar gyfer sesiynau gwybodaeth.  Mae'r Llyfrgell yn cynnig sesiynau sydd yn rhyw 30 munud o hyd fel arfer, ar y pynciau canlynol:

Catalogau ar-lein ac e-adnoddau

Hanes teulu a hanes lleol

Ffotograffau, mapiau a hanes eiddo

Os ydych am fynychu un neu fwy o'r sesiynau uchod, ewch i www.llgc.org.uk/cymorthfeydd lle medrwch ddewis sesiwn ar amser sydd yn gyfleus i chi.

 

 

 

 

Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cwsmer


Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cwsmer

Mae’r Llyfrgell wedi llwyddo i gynnal y safon a enillwyd yn Gorffennaf 2010 fel Canolfan Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cwsmer. Yn dilyn ymweliad gan yr asesydd ar 15ed Gorffennaf, dyfarnwyd y safon i’r Llyfrgell am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae’r asesiad yn barnu perfformiad y Llyfrgell a’i staff mewn nifer o wahanol feysydd yn ymwneud â gwasanaethu’r cwsmer, a gwnaeth yr asesydd ganmol y Llyfrgell am y nifer o ddatblygiadau i’r gwasanaethau sydd wedi cymeryd lle ers asesiad 2010, sy’n cyfoethogi’n bellach profiad y cwsmer.

 

 

 

 

 

 

Sgwrs Sydyn


Aeth gwasanaeth Sgwrs Sydyn y Llyfrgell yn fyw ar ddydd Llun 4, Gorffennaf.  Mae’r gwasanaeth yn gweithio fel unrhyw wasanaeth Sgwrs Sydyn arall ac felly dylai fod yn gyfarwydd i’r rheiny sydd wedi arfer ‘sgwrsio’n sydyn’ ond mae hefyd yn ddigon syml i’r rheiny sydd yn llai cyfarwydd â ‘sgwrsio’ i’w ddefnyddio.

Fe’i cynigir rhwng 11.00-12.00 ar ddydd Mawrth a 2.00-3.00 ar ddydd Iau, ar hyn o bryd, ac yn cael ei wasanaethu gan aelodau o’r tîm ymholiadau sy’n barod iawn i geisio cynorthwyo ymholwyr gyda’u cwestiynau.  Wrth i staff gyfarwyddo â’r gwasanaeth newydd byddai’n dda o beth i ehangu rhywfaint ar yr oriau hynny os yn bosib.

Trwy gynnig y gwasanaeth newydd yma rydym yn ychwanegu at y ffyrdd sydd gan ddefnyddwyr i gysylltu gyda’r Llyfrgell o bell.  Mae’n gam arall felly at wneud y Llyfrgell yn fwy cyraeddadwy.  Gall hefyd ddenu to newydd o ddefnyddwyr trwy gynnig ffordd amgen, llai traddodiadol o gysylltu â ni.  Mae’n gam at ymestyn y gwasanaeth ymholiadau ymhellach gan ddatblygu ar yr holl waith mae’r tîm yn ei wneud.

Yr ydym yn mawr obeithio y gwnaiff ein ymholwyr fanteisio ar y gwasanaeth newydd yma a gwneud defnydd ohono.

 

 

Sylwadau gan ddefnyddwyr o'r Llyfrgell


Fel yr ydych wedi sylwi o'r cylchlythyr hwn, mae'r Llyfrgell yn aml yn gofyn i chi, y defnyddiwr, i ddweud wrthym beth yr ydych yn feddwl o'r Llyfrgell, y staff a'r gwasanaethau.  Yr ydym yn falch o ferdru dweud fod y rhan fwyaf o'r sylwadau yn bositif gydag ambell feirniadaeth adeiladol hefyd, fodd bynnag, yn achlysurol rydym yn cael ein canmol yn aruchel:

"Mae'r Llyfrgell hon yn gorfod bod yn y 10 uchaf - os nad y gorau - yn y Byd.  Casgliadau helaeth, cyfforddus, croesawgar a chyfeillgar - profiad llyfrgell anhygoel."

Beth am ymweld a'r Llyfrgell eich hunan, i weld os ydych chi'n cytuno, a plis gadewch i ni wybod beth yw eich barn!

Diweddarwyd: 17-08-2011