
Gwaith estyn allan Hanes Teulu a Hanes Lleol

Fel rhan o weithgareddau Estyn Allan y Llyfrgell eleni cynhaliwyd Ffair Hanes Teulu a Hanes Lleol yn y Drenewydd ar 15 Hydref. Cafwyd diwrnod llwyddiannus iawn gyda’r gwahanol gymdeithasau o’r ardal yn cael cyfle i wneud cysylltiadau newydd gyda’r cyhoedd a’r Llyfrgell. Bu staff Casgliad y Werin Cymru yn brysur iawn yn sganio archifau a ffotograffau di-ri o’r ardal ddaeth i’r golwg yn ystod yr ymweliad.Dim ond un digwyddiad yw hwn yng nghalendr hyrwyddo hanes teulu a hanes lleol gan y Llyfrgell. Bydd staff Ystafell Ddarllen y De hefyd yn cyfrannu at y Diwrnod Agored ar 28 Ionawr gydag arddangosfa am ardal Aberystwyth a chynnal sesiynau gwybodaeth drwy gydol y dydd ar hanes teulu.Yna ar ddiwedd Chwefror bydd tîm o’r Llyfrgell yn rhan o Who Do You Think You Are? Live 2012, yn Olympia, Llundain sy’n honni i fod yn ddigwyddiad hanes teulu mwyaf yn y byd! Mae’r Llyfrgell wedi bod yn mynychu’r Sioe ers y cychwyn cyntaf, lle mae erbyn hyn tua 15,000 yn ymweld dros y tridiau. Mae hyn yn gyfle gwych i ni fel sefydliad i fanteisio ar gynulleidfa arbennig i hyrwyddo ein gwasanaethau a’n casgliadau. Fel rhan o’r Sioe bydd dau gyflwyniad yn cael eu rhoi un ar chwilio hanes teulu yng Nghymru a’r llall ar gasgliad profeb y Llyfrgell. Manteisir ar y cyfle i gwrdd â defnyddwyr hen a newydd.
Estyn allan i ysgolion a phrifysgolion

Yn dilyn llwyddiant parhaus ein ymweliadau â phrifysgolion yng Nghymru, rydym wedi penderfynu canolbwyntio ar estyn allan i rai o’r ysgolion cyfun yng Nghanolbarth Cymru. Drwy weithio ar y cyd efo Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn rhannu adnoddau a phrofiad, yr ydym yn ymweld â’r ysgolion lleol, ac yn eu croesawu nhw yma i’r Llyfrgell yn Aberystwyth.
Rydym wedi ymweld â sawl ysgol yn ystod mis Medi a Hydref 2011. Yn ystod yr ymweliadau hyn mae'r Gwasanaeth Addysg wedi canolbwyntio ar gyflwyno gwybodaeth am adnoddau'r Llyfrgell, ac yn arbennig sut mae modd defnyddio'r rhain fel rhan o Gymhwyster Bagloriaeth Cymru, tra bod Gwasanaethau i Ddarllenwyr yn codi ymwybyddiaeth am adnoddau electronig, ac yn cofrestru disgyblion fel darllenwyr.
Rydym hefyd yn parhau gyda’n gwaith hyrwyddo trwy fynychu diwrnodau agored ym Mhrifysgol Aberystwyth; mae hwn yn gyfle i gwrdd â darpar fyfyrwyr ac iddynt hwy ddysgu am ein adnoddau a’n casgliadau amrywiol. Mae llawer hyd yn oed yn dweud eu bod yn meddwl dod i astudio yn Aberystwyth oherwydd fod y LlyfrgellGenedlaethol yma.Eleni byddwn hefyd yn bresennol yn ffair ôl-raddedigion ym Mhrifysgol Bangor i hysbysebu’n adnoddau ar-lein, gan fod y rhain ar gael i’r myfyrwyr hynny sydd â chyfeiriad yng Nghymru neu gôd post Cymreig.
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ystyried y gwaith estyn allan yma yn holl bwysig fel ffordd o gyrraedd darpar ddefnyddwyr y Llyfrgell.

Taflenni Gwybodaeth
Mae’r Llyfrgell wrthi’n paratoi cyfres o daflenni yn seiliedig ar ei chasgliadau, fydd yn fan cychwyn ar gyfer ymchwilwyr mewn amryw feysydd.
Mae’r daflen gyntaf, “Ffynonellau ar gyfer olrhain Hanes Tai” newydd ei chyhoeddi, ac mae’n cynnig gwybodaeth amhrisiadwy i’r sawl sy’n dymuno olrhain hanes eiddo.
Ystafell Ddarllen y Gogledd

Mae Ystafell Ddarllen y Gogledd wedi bod ar ei prysuraf ers i ni ddechrau cadw ystadegau defnyddwyr. Cafwyd cynnydd sylweddol yn y nifer o ddarllenwyr sy'n defnyddio’r ystafell ers i ni ei adnewyddu dwy flynedd yn ôl; ac mae’n debyg fod gwrando ar ein darllenwyr wedi dwyn ffrwyth - yr ydym wedi cadw awyrgylch yr ystafell wreiddiol, ond wedi llwyddo ei moderneiddio ar yr un pryd drwy gyflwyno mynediad i’r we ddiwifr, ystafelloedd astudio, gweithfannau arbennig a desgiau pwrpasol ar gyfer gliniaduron.
Mae niferoedd ein defnyddwyr dipyn yn uwch na’r disgwyl ac yr ydym wedi ymateb drwy gynnig mynediad i’r Oriel gyntaf sydd yn cynnwys byrddau ychwanegol ar gyfer darllen.
Os oes gennych unrhyw syniadau ynglyn a sut i wella’r darpariaeth yn Ystafell Ddarllen y Gogledd mae croeso i chi gysylltu â ni.
Sylwadau gan ddefnyddwyr y Llyfrgell

Fel yr ydych wedi sylwi o'r cylchlythyr hwn, mae'r Llyfrgell yn aml yn gofyn i chi, y defnyddiwr, i ddweud wrthym beth yr ydych yn feddwl o'r Llyfrgell, y staff a'r gwasanaethau. Yr ydym yn falch o fedru dweud fod y rhan fwyaf o'r sylwadau yn bositif gydag ambell feirniadaeth adeiladol hefyd. Os hoffech wneud sylw neu awgrymu sut y medrwn wella ein darpariaeth a'n gwasanaethau, plis gadewch i ni wybod.
Medrwch siarad ac aelod o staff, cwblhau'r llyfrau sylwadau sydd yn yr ystafelloedd darllen, neu gwblhau holiadur sydd i'w gael ymhob pwynt gwasanaeth. Yr ydym yn croesawu eich sylwadau a'ch awgrymiadau.
