Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Sefydlwyd yr Archif Wleidyddol Gymreig yn 1983 i gydlynu'r gwaith o gasglu tystiolaeth ddogfennol o bob math am wleidyddiaeth Cymru.
Cesglir cofysgrifau a phapurau pleidiau gwleidyddol, gwleidyddion, mudiadau lled-wleidyddol, ymgyrchoedd a charfanau pwyso; taflenni, pamffledi, ac effemera printiedig eraill; posteri a ffotograffau; a thapiau rhaglenni radio a theledu. Ni chyfyngir ei gweithgareddau i un adran o fewn y Llyfrgell.
Am ragor o wybodaeth am yr Archif, cysylltwch â gwasanaeth ymholiadau'r llyfrgell.
Yr aelod staff sydd yn gyfrifol am yr Archif yw;
Robert Phillips
Archifydd Cynorthwyol: Archif Wleidyddol Gymreig
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
Ceredigion
Cymru
SY23 3BU
Ffôn: 01970 632 984
E-bost robert.phillips@llgc.org.uk
Yn 1985 sefydlodd y Llyfrgell Bwyllgor Ymgynghorol yr Archif sy'n cyfarfod unwaith y flwyddyn ar ddydd Gwener cyntaf bob mis Tachwedd. Cynhelir darlith flynyddol yr archif ar yr un dyddiad gyda'r hwyr.
Ymhlith yr aelodau ceir gwleidyddion, haneswyr, darlledwyr ac ysgolheigion gwleidyddiaeth. Mae'r Pwyllgor yn ddolen gyswllt pwysig rhwng yr Archif a'r rhai sydd yn weithgar yng ngwleidyddiaeth Cymru.
Arweiniodd argymhellion y Pwyllgor at gyhoeddi cylchlythyr, sefydlu'r ddarlith flynyddol, a chreu cronfa ddata cyfrifiadurol o ganlyniadau etholiadau. Ceir rhestr o aelodau'r Pwyllgor Ymgynghorol yn y Cylchlythyr.
| Enw | Sefydliad |
| Dr Denis Balsom | |
| Yr Athro Emeritws Deirdre Beddoe | |
| Mr Alex Bevan | TUC Cymru |
| Miss Beata Brookes | |
| Mr Alun Burge | |
| Mr Cynog Dafis | Plaid Cymru |
| Dr Russell Deacon | Democratiaid Rhyddfrydol Cymru |
| Mr Darron Dupre | Unison |
| Dr Andrew Edwards | Prifysgol Bangor |
| Mr Aled Eirug | |
| Mr Rhys Evans | BBC Cymru |
| Mr Gwyn Griffiths | Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
| Mr Sam Hadley | Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
| Mr Dave Hagendyk | Plaid Llafur Cymru |
| Mr Daran Hill | Ymgynghorydd Gwleidyddol |
| Yr Athro Syr Deian Hopkin | |
| Mr Gwyn Jenkins | |
| Yr Athro Angela John | Prifysgol Aberyatwyth |
| Aled Gruffydd Jones | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
| Avril Jones | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
| Yr Athro Richard Wyn Jones | Canolfan Llywodraethiant Cymru |
| Dr. Gwenllian Lansdown Davies | Plaid Cymru |
| Mr. Lyn Lewis Dafis | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
| Mr David Melding AC | Ceidwadwyr Cymreig |
| Yr Arglwydd Kenneth O Morgan | |
| Mr Rob Phillips | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
| Mr Roger Pratt | Ceidwadwyr Cymreig |
| Arglwydd Rowlands | Plaid Llafur Cymru |
| Yr Athro Roger Scully | Canolfan Llywodraethiant Cymru |
| Dr Guto Thomas | BBC Cymru |
| Mr Lee Waters | Sefydliad Materion Cymreig |
| Mr Darren Williams |