Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Support Us

Support Us

Rhoddi'n Rheolaidd - Cefnogwch ni


Cadwraeth

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o brif sefydliadau diwylliannol y wlad, ac ers ein sefydlu yn 1907 rydym wedi cadw a chasglu deunydd sydd yn ymwneud â Chymru a'r cenhedloedd Celtaidd eraill. Diogelwn gof y genedl mewn trysorfa o gasgliadau sydd yn cynnwys llyfrau, papurau newydd a chyfnodolion, llawysgrifau prin, ffotograffau, darluniau, mapiau, recordiadau sain a delweddau symudol.

 

 

Diolch am eich cefnogaeth

 

Sefydlwyd y Llyfrgell gan roddion pobl Cymru, er mwyn casglu a gwarchod treftadaeth y genedl. Dyma unigolion a roddodd yn hael er mwyn cefnogi'r Llyfrgell ac wrth ddewis rhoi'n rheolaidd fe fyddwch chi'n parhau'r traddodiad hwnnw. Bydd unhryw rodd, boed fawr neu fychan, yn gwneud cyfraniad sylweddol i waith y Llyfrgell.

 

Mae'r arian ychwanegol a dderbyniwn yn ein galluogi i ddatblygu ein casgliadau a'r gwasanaethau a ddarperir i genhedlaethau'r dyfodol, trwy gyflawni gwaith cadwraeth hanfodol a chynnal ein harddangosfeydd a gwasanaeth addysg blaenllaw.

 

Os hoffech chi cefnogi'n rheolaidd neu trwy gyfrannu unwaith yn unig, cwblhewch y ffurflen yma:

 

 

a dychwelwch os gwelwch yn dda i:

Swyddfa Codi Arian, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU.

 

Am wybodaeth bellach gellir cysylltu trwy e-bost ar cefnogwch-ni@llgc.org.uk neu drwy ffonio 01970 632938.

 

Wrth ein cynorthwyo i wireddu'r uchelgeisiau hyn, byddwch yn gwneud cyfraniad pellgyrhaeddol i Gymru.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 04-03-2011