Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Support Us

Support Us

Cymynroddion - Eich gorffennol, eich dyfodol


Ewyllysiau


Sefydlwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru dros ganrif yn ôl gan roddion a chymynroddion pobl Cymru a gredai ym mhwysigrwydd diogelu ein treftadaeth. Fe fu'r bobl hyn yn allweddol i greu un o brif sefydliadau diwylliannol y byd gan ddarparu cartref diogel i nifer fawr o drysorau Cymru.

 

Ers y dechrau rydym wedi casglu deunydd sydd yn ymwneud â Chymru a'r cenhedloedd Celtaidd eraill, ei gadw a'i gyflwyno i bawb, boed hynny trwy ymweld â'r Llyfrgell neu trwy gyfrwng ein gwefan. Cafodd y Llyfrgell ei chydnabod erioed fel canolfan addysg ysgolheigaidd ac rydym yn parhau i fod yn adnodd pwysig i ymchwilwyr ar hyd a lled y byd. Erbyn hyn rydym hefyd yn cynnig addysg gydol oes a gwasanaethau estyn i ysgolion yng Nghymru, er mwyn cyflwyno ac ysbrydoli gwerthfawrogiad o'n casgliadau.

 

Fel elusen mae'r Llyfrgell yn dibynnu ar ystod eang o ffynonellau codi arian i gefnogi a datblygu ein gwasanaethau ac i wireddu ein hymrwymiad i gasglu, cadw ac addysgu. Gall gadael rhodd i ni yn eich Ewyllys, boed fawr neu fach, wneud gwahaniaeth sylweddol a'n cynorthwyo i gadw hanes Cymru yn fyw i genedlaethau'r dyfodol.

Sut mae cefnogi Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

Mae nifer o ffyrdd gwahanol o adael rhodd i'r Llyfrgell yn eich Ewyllys, ac mae'n statws fel elusen gofrestredig yn sicrhau bod unrhyw rodd yn rhydd o daliad treth etifeddu. Y rhoddion mwyaf arferol yw:

 

  • Cymynrodd ariannol - rhodd o swm penodol o arian.
  • Cymynrodd weddilliol - rhodd o ran neu'r cyfan o weddill eich ystâd ar ôl talu taliadau a chymynroddion eraill.
  • Cymynrodd benodol - mae'r Llyfrgell yn derbyn rhodd o eitemau i'n casgliadau.

 

Os ydych yn ystyried gadael eitemau penodol i'r Llyfrgell byddem yn gwerthfawrogi'r cyfle i drafod eich rhodd ymlaen llaw, cyn derbyn eich cymynrodd, er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio gyda'n polisi casgliadau.

 

Gadael rhodd i ni yn eich Ewyllys

 

Argymhellir eich bod yn ymgynghori gyda chyfreithiwr i sicrhau bod eich Ewyllys yn gyfreithiol, yn adlewyrchu'n llawn eich dyheadau a'i bod yn gyfredol. Os penderfynwch adael rhodd i'r Llyfrgell rydym yn argymell defnyddio'r canlynol fel geiriad addas yn eich Ewyllys er mwyn sicrhau ein bod yn derbyn eich rhodd:

 

Rwy'n cymynroddi i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, Ceredigion SY23 3BU, rhif elusen gofrestredig 525775, [y swm o / % o fy ystad weddilliol / eitem benodol] i'w defnyddio yn ôl doethineb y Llyfrgell Genedlaethol. Rwyf yn datgan ymhellach bod derbynneb oddi wrth y Trysorydd neu swyddog priodol arall yn rhyddhad llawn a digonol o'r hodd i fy ysgutorion.

 

Diolch

 

Mae pob rhodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn gwneud gwahaniaeth. Byddem yn gwerthfawrogi pe byddech yn hapus i adael i ni wybod eich dymuniad gan y byddai o gymorth wrth gynllunio at y dyfodol ac i ddiolch i chi am eich rhodd.

 

Gellir ysgrifennu atom yn:

 

Rheolwr Cymynroddion, Swyddfa Codi Arian, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU.

 

Gellir cysylltu gyda'r Rheolwr Cymynroddion trwy e-bost ar cefnogwch-ni@llgc.org.uk neu drwy ffonio 01970 632511.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 04-03-2011