Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Y mae'r Archif Wleidyddol Gymreig yn cynnwys cofnodion cenedlaethol a rhai cofnodion lleol ar gyfer pob un o'r pleidiau gwleidyddol sy'n weithredol yng Nghymru.
Cynnwys Archif y Blaid Lafur (Cymru) gyfresi cyflawn o gofnodion sy'n dyddio'n ôl i 1937 ynghyd â ffeiliau gohebiaeth sy'n dyddio o'r 1950au hyd heddiw. Ymhlith cofysgrifau lleol y Blaid Lafur ceir rhai Brycheiniog a Maesyfed, Glynebwy, a Chaerffili.
Derbyniwyd hefyd gofnodion y Blaid Ryddfrydol Gymreig o'i ffurfio yn y 1960au a'r SDP yng Nghymru o 1981. Yn lleol, cofysgrifau pwysicaf y Blaid Ryddfrydol a gedwir yw rhai Ceredigion, Trefaldwyn, a Chaernarfon.
Y mae sawl Cymdeithas Geidwadol ac Unoliaethol Caerdydd, Caernarfon, Conwy, Penfro, a Threfynwy yn fwyaf arbennig, hefyd wedi rhoi eu cofnodion ar adnau. Y mae rhai o'r cofnodion hyn yn mynd yn ôl i ddegawdau cynnar yr 20fed ganrif.
Yr archif mwyaf o blith y pleidiau yw archif Plaid Cymru sy'n dyddio'n ôl i'w sefydlu yn 1925.
I gyfannu'r cofnodion Cymreig, ceir hefyd gopïau ar ficroffilm o gofnodion canolog yr holl brif bleidiau.
Awgrymwyd wrth Lloyd George un tro mai Llyfrgell Genedlaethol Cymru fyddai ei `fawsolëwm llenyddol'. Dros y blynyddoedd y mae'r Llyfrgell wedi derbyn sawl casgliad pwysig o ohebiaeth a phapurau Lloyd George ynghyd â chasgliadau cyffelyb o eiddo nifer fawr o blith y genhedlaeth nodedig honno o wleidyddion Cymreig, dynion megis T E Ellis, J Herbert Lewis, a Samuel T Evans.
Derbyniwyd hefyd bapurau llawer iawn o wleidyddion mwy diweddar, yn eu plith y rheiny o eiddo 5 o'r 6 cyntaf i ddal swydd Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru: James Griffiths, Cledwyn Hughes (Arglwydd Cledwyn o Benrhos), George Thomas (Is-iarll Tonypandy), John Morris a Nicholas Edwards (Arglwydd Crickhowell); a phapurau Clement Davies, Arweinydd y Blaid Ryddfrydol, Yr Arglwydd Elwyn-Jones, yr Arglwydd Ganghellor, 1974-79, Dr Gwynfor Evans, Llywydd Plaid Cymru, a Ms Beata Brookes, ASE Ceidwadol dros Ogledd Cymru, 1979-89.
Hefyd cedwir y casgliad anferthol o ddyddiaduron, gohebiaeth a phapurau Thomas Jones CH, a fu'n Ddirprwy Ysgrifennydd y Cabined o 1916 i 1930 ac yn gyfaill agos i Lloyd George a Stanley Baldwin pan oeddynt yn eu tro yn Brif Weinidog.
Ceir hefyd bapurau nifer o ASau fu'n gwasanaethu'n hir ar y meinciau cefn megis Leo Abse, Emlyn Hooson (Arglwydd Hooson), Ted Rowlands, a Dafydd Wigley.
Tynnwyd sylw pob Aelod Seneddol ynghyd â'r rhai sy'n weithgar yn y maes gwleidyddol yng Nghymru at werth potensial eu papurau a'r gobaith yw y bydd yn arwain at gadw papurau gwleidyddol ar raddfa llawer ehangach nag o'r blaen.
Y mae cofnodion cymdeithas anuniongyrchol wleidyddol yn ffynhonnell bwysig i'r hanesydd gwleidyddol. Cedwir cofnodion cymdeithasau fel Cyngor Cenedlaethol Cymru, Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig (Undeb Cynghrair y Cenhedloedd gynt), 1923-56, a Chymdeithas Awdurdodau Lleol Cymru, 1928-70au, yn y Llyfrgell.
Cedwir hefyd gofysgrifau a phapurau yn ymwneud ag ymgyrchoedd a grwpiau pwyso, fel cofnodion a phapurau Ymgyrch Senedd i Gymru 1953-56, cofnodion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a phapurau sawl grŵp radical a chenedlaetholgar diweddar.