Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw llyfrgell hawlfraint Cymru. Gall hawlio copi o unrhyw lyfr neu gyfnodolyn a gyhoeddir ym Mhrydain. O ganlyniad mae casgliad mawr o lyfrau sy'n ymwneud â gwleidyddiaeth ar gael i'w ddefnyddio gan ymchwilwyr. Ceir hefyd gyfresi hirion o bapurau newydd a chyfnodolion.
Mae taflenni, pamffledi ac effemera eraill - rhan o'r hyn a elwir gan lyfrgellwyr yn "llenyddiaeth lwyd" - yn fwy anodd i'w casglu. Ychydig o lyfrgelloedd, er enghraifft, a all ymffrostio mewn cyfres gyflawn o daflenni etholiadau cyffredinol ond dyma nod yr Archif Wleidyddol Gymreig ers 1983. Yn ystod ymgyrch etholiad cyffredinol 1983 datblygwyd cysylltiadau ym mhob etholaeth ac o ganlyniad casglwyd bron pob anerchiad gwleidyddol yn ogystal â thaflenni perthnasol. Ymgymerwyd â chynllun tebyg ym mhob ymgyrch etholiad cyffredinol oddi ar hynny a buont yr un mor llwyddiannus.
Y mae'r taflenni a gasglwyd ar gyfer Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999 wedi cael eu digideiddio.
Mae’r Archif yn dal i gasglu pamffledi a thaflenni gwleidyddol o gyfnodau cynharach a llwyddwyd i brynu copi microffilm o effemera prin sydd ar gadw mewn llyfrgelloedd eraill.
Yn 1980 sefydlwyd uned glyweled y Llyfrgell, a adwaenir yn awr fel Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru. Un o'i phrif swyddogaethau yw recordio rhaglenni teledu a radio sy'n ymwneud â Chymru. Bellach mae wedi hel casgliad niferus o dapiau sain a fideo sy'n cynnwys amrediad eang o raglenni newyddion a materion cyfoes.
Cedwir casgliad helaeth o bosteri a ffotograffau yn y Llyfrgell a allai fod o ddiddordeb i'r hanesydd.