Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Llun – Gwener 9:30 – 18:00
Dydd Sadwrn 9:30 - 17:00
Bydd ein staff yn y dderbynfa yn hapus i’ch helpu pan fyddwch yn cyrraedd y Llyfrgell, a bydd aelodau’r staff gerllaw drwy’r Llyfrgell os fyddwch chi angen unrhyw gymorth yn ystod eich ymweliad.
Am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch newidiadau i’n gwasanaethau yn yr adeilad ac arlein, gweler ein tudalen hysbysiadau i ymwelwyr.
Mae’r Llyfrgell yn cadw’r hawl i archwilio pob bag wrth roi mynediad i’r Llyfrgell.
Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr ac ymwelwyr sy’n dymuno ymweld â’r Ystafelloedd Darllen adael eu cotiau a’u bagiau yn y loceri sy’n cael eu darparu. Mae angen darn £1 (sy’n cael ei ad-dalu) ar gyfer pob cwpwrdd.
O 1 Mehefin 2009 codir ffi fechan ar ymwelwyr a darllenwyr am barcio yn y Llyfrgell Genedlaethol (Dydd Llun - Dydd Gwener yn unig).
| Cerbyd | Pris (Llun - Gwener) | Pris (Sadwrn) |
|---|---|---|
| Ceir/beiciau modur | £1 (hyd at 4 awr) | Am ddim |
| £2 (dros 4 awr - ddiwrnod llawn (18:15)) | Am ddim | |
| Cerbydau tywys/carafannau | £2.50 (hyd at 4 awr) | Am ddim |
| £5.00 (dros 4 awr - ddiwrnod llawn (18:15)) | Am ddim | |
| Bws/bysiau mini | Am ddim. Rhaid rhoi gwybod o flaen llaw a defnyddio'’r bylchau penodedig. Cysylltwch â'r Porthorion i drefnu hyn 01970 632 848 neu prifporthor@llgc.org.uk | Am ddim |
Mae’r ffioedd yma’n cynnwys parcio yn unai’r blychau gwyn neu goch.
Eithrir gyrwyr sy’n arddangos bathodyn anabl cywir rhag talu.
Gellir defnyddio derbynebau parcio ar gyfer talu am un pryniant yn y Llyfrgell, yn y Cafe, Siop neu wasanaethau ffotogopïo ar yr un dydd yn unig. Ni ad-delir arian yn erbyn derbynebau parcio.

Mae nifer o aelodau’r staff wedi eu cymhwyso mewn cymorth cyntaf. Dylid rhoi gwybod am unrhyw ddamwain neu salwch naill ai i oruchwyliwr un o’r Ystafelloedd Darllen neu i aelod o’r staff diogelwch mewn lifrai yn y Neuadd Ganolog.
Mae’n larwm tân yn seinio’n ddi-dor. Dylai darllenwyr wacáu’r adeilad a dilyn yr arwyddion gwyrdd “Emergency EXIT Brys” er mwyn gwneud eu ffordd tuag at deras allanol blaen y Llyfrgell, gan ddefnyddio’r drysau ar y llawr gwaelod (Lefel -1).
Gwnaed pob ymdrech i wneud y Llyfrgell mor hygyrch â phosibl. Am fwy o wybodaeth ynghylch lleoliad ein safleoedd parcio i’r anabl, lifftiau ac adnoddau hygyrchedd ayb gweler ein tudalen hygyrchedd.
Mae'r Llyfrgell yn cefnogi'r safon Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cwsmer. Mae safon gwasanaethau wedi eu harddangos yn amlwg. Gellir gwneud unrhyw sylwadau neu gwyn ynghylch gwasanaethau i aelod hŷn o’r staff sydd ar ddyletswydd yn y mannau gwasanaeth. Medrwch hefyd gwblhau Cerdyn Sylwadau (ar gael o’r mannau gwasanaeth) neu anfon llythyr at y Llyfrgellydd. Byddwch yn derbyn ateb o fewn 10 diwrnod gwaith.
Dylid gwneud awgrymiadau am gaffaeliadau ar lafar i aelod hŷn o staff sydd ar ddyletswydd, neu drwy lenwi Cerdyn Sylwadau, neu drwy lythyr at y Llyfrgellydd.