Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Portreadau


Paentiad o Sian Phillips 1995 gan David Griffiths
Paentiad o Sian Phillips 1995 gan David Griffiths © Yr Arlunydd

Mae gan y Llyfrgell y casgliad mwyaf o bortreadau Cymreig cyfoes mewn unrhyw sefydliad cyhoeddus. Mae’r casgliad yn cynnwys tua 15,000 o eitemau mewn cyfryngau amrywiol, a mwy na 50,000 o negatifau a ffotograffau. 

 

Cynrychiolir pobl amlwg ym mywyd cyhoeddus, crefydd, llenyddiaeth ac addysg.

 

  • Mae casgliad cynrychioladol o enwogion Cymreig gan gynnwys portreadau dychmygol o dywysogion cynnar Cymru fel Owain Glyn Dŵr
  • Ymhlith lluniau nodedig ceir portreadau o Hŵfa Môn gan Christopher Williams
  • Nifer helaeth o luniau o David Lloyd George
  • Dr Richard Price gan Benjamin West
  • Portreadau o Bryn Terfel ac Archesgob Caergaint, Rowan Williams, gan David Griffiths

 

 

 

 

‘Hugh Hughes, ei wraig a'i blentyn’ gan Hugh Hughes,
‘Hugh Hughes, ei wraig a'i blentyn’ gan Hugh Hughes,

Mae casgliad bach ond arwyddocaol o bortreadau, neu hunanbortreadau gan arlunwyr modern Cymreig, megis Keith Andrew, Gwen ac Augustus John, David Jones, Charles Tunnicliffe a Kyffin Williams.

 

Mae’r arlunwyr portreadau eraill sy’n gysylltiedig â Chymru yn cynnwys Hugh Hughes, Thomas Rathmell, Wiliam Roos a Christopher Williams.

 

 

Penddelwau

 

Mae gan y Llyfrgell nifer o benddelwau portread, fel:

 

  •       Syr Thomas Parry-Williams gan R L Gapper
  •       Syr Clough Williams-Ellis gan Jonah Jones
  •       David Lloyd George gan Michael Rizzello
  •       Gerallt Lloyd Owen ac Ann Catrin Evans gan John Meirion Morris

 

 

Effemera printiedig a deunyddiau eraill

 

Ynghyd â'r darluniau mae'r casgliad darluniau hefyd yn cynnwys effemera printiedig o bob math. Y prif ddeunydd yw nifer sylweddol o bosteri hanesyddol a chyfoes, ond ceir hefyd docynnau, cardiau cyfarch, llyfrau lloffion, nodau llyfr, blociau argraffu a llawer mwy.

 

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 20-05-2010