Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru - Lleoliad priodas ysblennydd yng Ngheredigion.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o lyfrgelloedd mawr y byd, ac yn un o adeiladau mwyaf eiconig ein cenedl. Adeiladwyd hi ar ddechrau’r 20fed ganrif ar safle urddasol uwchlaw tref glan môr Aberystwyth. O’r Llyfrgell ceir golygfeydd gwych o’r dref, y castell a Bae Ceredigion, ac mae’r adeilad godidog hwn yn lleoliad heb ei ail ar gyfer un o ddiwrnodau pwysicaf eich bywyd.
Mae Priodasau 2012 yn cynnwys gwybodaeth pellach am y wasanaeth.
Os am gael apwyntiad neu os bod gennych ymholiad, cysylltwch gyda ein Cydlynydd Priodasau ar 01970 632 801 neu ebostiwch priodas@llgc.org.uk.
Byddwn yn cynnal ein Ffair Briodasau flynyddol ar y 24 o Fawrth 2013