Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Cymeriadau Kerry


Tŷ to gwellt ger Kerry, ca.1920
Tŷ to gwellt ger Kerry, ca.1920

John Wilkes Poundley

 

John Wilkes Poundley (1873-1932) oedd un o’r rhai olaf yn llinach hen deuluoedd Sir Fynwy. Yn ôl traddodiad teuluol daeth y teulu gyda’r Arglwydd Clive pan symudodd i Gastell Powis yn gynnar yn y 19eg ganrif. Roedd ei daid, a oedd hefyd yn dwyn yr enw John Wilkes Poundley (1807-1872), yn  Syrfëwr y Sir.

 

Derbyniodd J W Poundley hyfforddiant fel cyfreithiwr. Gweithiodd yn Wigan cyn sefydlu ei bractis ei hun yn Bishops Castle. Rhoddodd y gorau i hwn yn ddiweddarach er mwyn cynorthwyo ei dad, John Edward Poundley (1839-1916), a oedd yn asiant tir ar gyfer nifer o ystadau lleol gan gynnwys Kerry a Dolfor. Ag yntau’n rhy hen i ymrestru, treuliodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn trefnu cyflenwadau o brennau ar gyfer yr Army Ordnance Corps. 

 

 

Hannah Jones, Kerry, tua.1910-1920
Hannah Jones, Kerry, tua.1910-1920

Fodd bynnag, ei brif ddiddordeb oedd byw bywyd y sgweier gwlad yn hytrach na gwaith swyddfa. Roedd ei ddiddordebau yn cylchdroi o amgylch bywyd cefn gwlad, yn arbennig pysgota a saethu. Ystyrid ef yn bysgotwr cyfrwys ac yn saethwr heb ei ail. Yn dilyn marwolaeth ei dad rhoddodd y gorau i’w weithgareddau proffesiynol. Yn fuan daeth Poundley yn asgwrn cefn cymdeithas Kerry - roedd yn gadeirydd cyngor y Plwyf ac yn Gynghorydd Sir am sawl blwyddyn.

 

 

J W Poundley a’i ffrindiau

 

Cofir J W Poundley am ei ffotograffiaeth, er na ŵyr neb yn iawn beth a’i denodd at dynnu lluniau. Mae’n bosib i’w ddiddordeb gael ei gynnau oherwydd ei ymwneud â J B Willams o Dolforgan, a oedd hefyd yn ffotograffydd amatur brwd. Roedd Poundley hefyd yn ymhyfrydu yng nghwmni nifer o “gymeriadau” a oedd yn byw yn ardal Kerry.

 

 

Fred y joci – Fred de la Rue , Kerry tua1910-1920
Fred y joci – Fred de la Rue , Kerry tua1910-1920

Yn ogystal â bod yn gyfarwydd â nifer o gymeriadau lleol, roedd hefyd yn ymwneud llawer â trampiau a photswyr a oedd yn digwydd bod yn y gymdogaeth. Ymysg y grŵp rhyfedd hwn o unigolion y cafodd ysbrydoliaeth ar gyfer ei weithiau mwyaf diddorol. Ymhyfrydai yn eu cwmni a byddai’n gwrando’n amyneddgar arnynt yn adrodd am eu hynt a’u helynt. Yn aml o ganlyniad i’w natur hynaws byddai ei dŷ yn dod dan warchae gyda’r cyfeillion hyn.

 

 

Cyfres ‘Cymeriadau Kerry’

 

Mae’r gyfres hon, sy’n adnabyddus fel ‘Cymeriadau Kerry’, wedi ei dylanwadu’n drwm gan y mudiad pictorialaidd. Roedd y pictorialwyr yn rhoi pwyslais ar ffotograffiaeth fel dull o greu delweddau gyda nodweddion artistig pur iddynt yn hytrach na fel bod o ddiddordeb dogfennol neu gymdeithasol. O’r ffotograffau hyn gallwn weld pa mor llwyddiannus roedd

J W Poundley yn yr hyn a gyflawnodd yn artistig.

 

 

Dulliau adeiladu anghyffredin ar linell Kerry, 1920
Dulliau adeiladu anghyffredin ar linell Kerry, 1920

Mae ei ffotograffau eraill, dros 160 mewn nifer, o dirluniau o amgylch ei annwyl Kerry. Maent yn cynnwys golygfeydd o’r rheilffordd leol, Castell Powis a thirnodau lleol eraill.

 

Dioddefodd J W Poundley bwl dychrynllyd o froncitis yn 1929 a dywedir na chafodd adferiad llwyr. Bu farw ar Fehefin 30ain 1932 tra’n ymweld â pherthnasau.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 16-03-2010