Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Ffotograffau o Batagonia


Y tŷ cyntaf i gael ei adeiladu yn y Gaiman
Y tŷ cyntaf i gael ei adeiladu yn y Gaiman

Nid delweddau o Gymru yn unig a gynhwysir yn y Casgliad Cenedlaethol o Ffotograffau Cymreig. Mae hefyd yn cynnwys ffotograffau sy’n berthnasol i Gymru, megis y rheini o anheddau Cymreig ym Mhatagonia, yr Ariannin. Mae llawer o’r ffotograffau hyn yn dal ysbryd arloesol yr ymfudwyr a’r amgylchiadau caled y dioddefont yn y blynyddoedd cynnar.

 

 

Yr Ymfudwyr Cymreig

 

Mae hi bellach dros 140 mlynedd ers i’r ymfudwyr Cymreig cyntaf lanio ym Mhatagonia. Roedd bywyd yn galed yn y blynyddoedd cynnar. Heb gymorth y brodorion lleol ni fyddent wedi goroesi.  Erbyn yr 1880au roedd y wladfa wedi hen sefydlu ac yn destun dipyn o chwilfrydedd yn ôl yng Nghymru. Mae nifer fawr o ffotograffwyr wedi cofnodi bywyd yn y rhan anghysbell yma o Dde America. Gyda’i gilydd mae yna bellach 24 albwm sy’n cynnwys ffotograffau o’r ymfudwyr Cymreig a’u disgynyddion yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

 

 

Graigwen, Bryncrwn, Gaiman ca.1890
Graigwen, Bryncrwn, Gaiman ca.1890

Edward Jones Williams

 

Mae rhai o’r golygfeydd mwyaf diddorol o Batagonia wedi eu cofnodi gan Edward Jones Williams (c.1858-1932), a oedd yn gweithio fel peiriannydd sifil yn yr ardal. Ymwelodd â Phatagonia gyntaf yn 1881 a gweithiodd ar gamlesi dyfrhau yn nyffryn Camwy. Yn ddiweddarach bu’n gyfrifol am fapio taith Rheilffordd Ganolog Chubut. Roedd y rheilffordd yn rhedeg o Puerto Madryn i’r aneddiadau pellach. Parhaodd i fod yn rheolwr gweithredol y rheilffordd hyd at 1907.

 

 

Y Parch D D Walters gyda’r Band of Hope, Gaiman, 1909
Y Parch D D Walters gyda’r Band of Hope, Gaiman, 1909

Y Parch D D Walters

 

Treuliodd y Parch D D Walters (1874-1968) 16 mlynedd ym Mhatagonia. Mae ei gasgliad o ffotograffau yn canolbwyntio ar agweddau o fywyd crefyddol, yn arbennig y Band of Hope, y bu’n gyfrifol am ei sefydlu. Cofir amdano hefyd yn prynu ceffyl o’r enw Krujer er mwyn ei helpu i fynd o un lle i’r llall. Roedd cyn-berchennog Krujer wedi ei hyfforddi i aros y tu allan i bob tafarn roedden nhw’n mynd heibio iddi. Camp nad oedd wrth fodd pregethwr dirwestol!

 

 

Cafodd canmlwyddiant sefydlu’r wladfa yn 1965 ei ddathlu’n helaeth a chafwyd casgliadau o ffotograffau gan T Elwyn Griffiths a Dwynwen Belsey yn cofnodi’r digwyddiadau.

 

 

Syr Kyffin Williams

 

Dair blynedd yn ddiweddarach, dyfarnwyd cymrodoriaeth i’r arlunydd

Syr Kyffin Williams gan Ymddiriedolaeth Winston Churchill i ymweld â Phatagonia. Treuliodd nifer o fisoedd yn teithio drwy’r ardal yn darlunio ac yn tynnu lluniau ffotograff o’r bobl a’r llefydd a welai. Gyda’i gilydd tynnodd bron i  700 o dryloywluniau lliw. Byddai nifer o’r rhain yn cael eu defnyddio fel sylfaen ar gyfer sgets a phaentiadau mwy diweddar. Mae detholiad helaeth o’r golygfeydd hyn o Batagonia hefyd i’w gweld yn y Casgliad Cenedlaethol  o Ffotograffau Cymreig y Llyfrgell.

 

Yn ddiweddarach ymwelodd y ffotograffwyr Haydn Denman a Carlos Goldgrub â Phatagonia gan dynnu lluniau helaeth. Mae gweithiau’r ddau i’w gweld hefyd yn y casgliad.

 

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 15-06-2007