Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

About NLW

Am LlGC

Rhaglen Ymchwil ar gyfer Casgliadau Digidol yn LlGC


Sefydlwyd rhaglen ymchwil Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer casgliadau digidol yn 2011 er mwyn rhoi sylw i gasgliadau digidol LlGC, datblygu sylfaen dystiolaeth ar eu cyfer, y defnydd a wneir ohonynt, eu gwerth a’u heffaith. Mae dau brif faes y canolbwyntir arnynt ar gyfer y rhaglen hon:

  1. Datblygu dealltwriaeth o’r modd y defnyddir ein cynnwys digidol presennol, ac yna ei ddefnyddio fel sail i nodi ffyrdd y gall y cynnwys gael ei wella a’i wneud yn fwy gwerthfawr i’w ddefnyddio ar gyfer ymchwil, addysgu, neu ymgysylltu â’r gymuned;
  2. Adeiladu prosiectau sy’n datblygu cynnwys digidol newydd sy’n rhoi sylw i ymchwil penodol neu anghenion addysg, mewn partneriaeth ag academyddion a phrif randdeiliaid eraill.

 

Er mwyn gweithredu hyn, roedd y rhaglen wedi datblygu partneriaethau gydag ysgolheigion yng Nghymru a thu hwnt, i ddatblygu dulliau arloesol o ddefnyddio’r cynnwys digidol a grëwyd gan LlGC trwy ddefnyddio dulliau TGCh a dulliau ymchwil, a chyfathrebu’r ymchwil hwn; a datblygu prosiectau digido dan arweiniad ysgolheigion sydd, ar draws y disgyblaethau, wedi nodi pa adnoddau y dylid eu digido er mwyn cael effaith drawsnewidiol ar eu maes.

Cysylltiadau

  1. Staff
  2. Prosiectau
  3. Myfyrwyr ôl-raddedig
  4. Meysydd Ymchwil
  5. Dosbarthu ac allgyrraedd

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 28-09-2012