Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Visit Us

Ymweld a Ni

Sesiynau Gwybodaeth


Trwy’r sesiynau arbennig yma, mae modd dysgu am gasgliadau’r Llyfrgell a sut i wneud y gorau o’r adnoddau a’ch amser yn y Llyfrgell.

 

Sesiynau byr o tua 30 munud o hyd yw rhain yn seiliedig ar eich gofynion chi. Maent yn addas i unigolion neu i grŵp bychan o bobl (hyd at 3 person). Nid oes angen tocyn darllen arnoch cyn bwcio sesiwn, fodd bynnag, gan fod y sesiynau yn cael eu cynnal yn yr Ystafelloedd Darllen, bydd angen tocyn llawn arnoch cyn cael mynediad i’r Ystafell Ddarllen briodol.  

 

Mae manylion ar sut i gael tocyn darllen i’w gweld ar ein gwefan: www.llgc.org.uk/tocyndarllen. Cofiwch adael digon o amser i gasglu eich tocyn cyn i’r sesiwn gychwyn.

 

 

Dewiswch sesiwn

  • Hanes Teulu a Hanes Lleol
  • Adnoddau Electronig
  • Sesiwn Croeso
  • Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru
  • Mapiau, ffotograffau a hanes eiddo
Bwriad y sesiynau un-i-un yw cynorthwyo darllenwyr sydd angen arweiniad ar ble i chwilio ymhellach i'w hanes teulu neu hanes lleol a sut i wneud y gorau o'n casgliadau a'n gwasanaethau. Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniad i'r adnoddau sydd ar gael yn Ystafell Ddarllen y De megis defnyddio Findmypast ag Ancestry Library i chwilio cyfrifiadau o 1841 hyd 1911 a nifer o gronfeydd eraill. Dangosir sut mae'r broses o ddefnyddio tocyn ar gyfer edrych ar gofrestri plwyf a phapurau newydd ar ficroffilm o fewn yr ystafell yn gweithio. Bydd hefyd cyfle i ddangos sut i gael y gorau allan o'n casgliad o ewyllysiau cyn 1858 sydd ar gael ar-lein. Gellir cynnig cymorth hefyd ar sut i ddefnyddio ein catalog i archifau a llawysgrifau sef ISYS.
Bwriad y sesiynau un-i-un yw cynorthwyo defnyddwyr sydd angen arweiniad ar sut i ddefnyddio ein Catalogau ar-lein ac e-Adnoddau yn fwy effeithiol. Bydd y sesiynau yn galluogi defnyddwyr i ddefnyddio'r Aquabrowser a'r catalog llawn yn fwy effeithiol. Ceir cyflwyniad hefyd i'n gwahanol adnoddau electronig allanol megis y 'Times Digital Archive', 'Eighteenth Century Collections Online (ECCO), 'Early English Books Online' (EEBO) a JSTOR.
Bwriad y sesiynau un-i-un yw cynnig arweiniad i gasgliadau mapiau, ffotograffau, printiau a darluniau y Llyfrgell. Mae gan y Llyfrgell gasgliad mapiau sydd yn cynnwys mapiau argraffedig cynnar, mapiau stad a degwm a rhediad cyflawn o'r Arolwg Ordnans. Y mae'r casgliad gweledol yn gartref i ddelweddau o bob math a lle gan gynnwys gwaith unigolion megis John Parker, Moses Griffiths ac Ingleby ac ym myd ffotograffau, John Thomas a Geoff Charles. Cynigir hefyd arweiniad i gasgliadau'r Llyfrgell o bapurau ystadau Cymru. Yn y rhain, gellir olrhain hanes lleoedd ac unigolion cyn cyfnod mapiau. Y mae'n bosib bod mapiau perthnasol yma yn ogystal. Gellir gofyn am gymhorthfa sydd yn canolbwyntio ar un o'r agweddau hyn yn unig os dymunir.
Bwriad y sesiynau un-i-un yma yw cynnig cyflwyniad i bobl sydd yn ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru am y tro cyntaf, ac yn ansicr o beth sydd ar gael yma. Bydd y sesiynau yn ceisio eich cynorthwyo i wneud y defnydd gorau o'r Llyfrgell, ei chasgliadau a'r cyfleusterau sydd ar gael, gyda'r bwriad o'ch helpu i wneud y gorau o'ch amser yma. Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniad i'r adnoddau sydd ar gael yn yr Ystafelloedd Darllen unigol, sut i archebu deunydd, y broses llungopïo, a rheolau cyffredinol y Llyfrgell.
Yn ystod y sesiwn byddwn yn cyflwyno’r archif ac yn trafod y canlynol:
  • Ystod y casgliad a’r gwasanaethau rydym yn darparu
  • Sut mae chwilio’r catalog arlein a gwneud cais am eitem
  • Sut mae gwneud ymholiad – yn bersonol, dros y ffôn, trwy lythyr, e-bost neu Question Point
  • Sut mae gwylio a gwrando ar ddeunydd
  • Ystyriaethau hawlfraint
  • Cyngor ar ymwchil pellach
Gallwn hefyd addasu’r sesiwn yn ôl anghenion unigol.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 14-04-2011