Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Digital Mirror

Drych Digidol
Siop H. W. Lloyd, 72 Stryd Fawr, Y Bala.
Siop H. W. Lloyd, 72 Stryd Fawr, Y Bala.

Casgliad H W Lloyd, Y Bala

 

Mae casgliad H W Lloyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnwys dros 400 o negatifau o'r cyfnod rhwng 1900 a 1925. Credir mai H W Lloyd oedd y ffotograffydd ac yn ôl y sticer ar gefn un o'r delweddau, fferyllydd ydoedd yn 72, Stryd Fawr, Y Bala. Gwydr yw'r rhan fwyaf o'r negatifau ond gwnaed rhai o ffilm gwreiddiol. Mae'r casgliad yn cynnwys amrywiaeth o ffotograffau, o garcharorion rhyfel Almaenig i'r Sasiwn, ac o olygfeydd gwledig tawel i ddadorchuddio cofeb rhyfel. Mae hefyd yn cynnwys grwpiau o ddelweddau o ddigwyddiadau unigol neu rai a gynhaliwyd yn rheolaidd.

 

Nodwyd dyfodiad 300 o garcharorion rhyfel Almaenig yng Ngwersyll Frongoch ar 24 Mawrth, 1915 yn y Cambrian News yr wythnos honno. Credir i'r delweddau o garcharorion rhyfel yng nghasgliad H W Lloyd gael eu troi'n gardiau post i'w hanfon adref. Ceir ffotograffau o gynyrchiadau theatrig y milwyr a ffotograffau ohonynt yn eu lifrai milwrol. Ymddengys bod y cynyrchiadau theatrig yn amrywio o sioeau adloniant, dramâu a pherfformiadau cerddorfaol.


Yn ystod y cyfnod hwn roedd digwyddiadau'n ymwneud â bywyd crefyddol trigolion yr ardal hon yn gyffredin iawn a chynhelid gorymdeithiau adeg Sasiwn Y Bala. Ceir delweddau o sawl un o'r digwyddiadau hyn ond ymddengys mai gorymdaith 1901 ddenodd y dorf fwyaf ac fe'i mynychwyd gan nifer fawr o blant. Roedd y rhaglen genhadol yn weithgar yn ogystal gydag arddangosfeydd i ddangos y cynnydd a wnaed dramor.

 

 

Gellir gweld ddetholiadau o ddelweddau o'r casgliad:

Bala a'r bobl leol

Y Sasiwn ac Arddangosfeydd

Carcharorion Frongoch

Mae modd gweld y casgliad cyflawn trwy Gatalog LlGC (nodwch 'H. W. Lloyd photographic collection' yn y blwch chwilio a dewiswch 'teitl').

 

Gellir cael hyd i ragor o wybodaeth yn ymwneud â'r digwyddiadau arbennig hyn yn:
Archif y Cambrian News yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru;
Gwasanaeth Archifau Gwynedd (ar gyfer Archifdy Meirionnydd): www.gwynedd.gov.uk/gwy_doc.asp
O'r Bywgraffiad Cymreig Ar-lein:
TE Ellis: yba.llgc.org.uk/en/s-ELLI-EDW-1859.html
Thomas Charles: yba.llgc.org.uk/en/s-CHAR-THO-1755.html
Y Fyddin: www.army.mod.uk
Kaiserliche Morol: en.wikipedia.org/wiki/Kaiserliche_Marine
Luftstreitkräfte: en.wikipedia.org/wiki/Luftstreitkr%C3%A4fte

 

Rhes o ddynion, cyn-filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf o bosib, yn gorymdeithio drwy'r Bala dan arweiniad swyddogion y fyddin i ddadorchuddio cofgolofn rhyfel.
Rhes o ddynion, cyn-filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf o bosib, yn gorymdeithio drwy'r Bala dan arweiniad swyddogion y fyddin i ddadorchuddio cofgolofn rhyfel.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 28-03-2012