Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Yn ystod tymor yr Hydref 2013 bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn cynnal amryw o ddigwyddiadau ym Mlaenau Ffestiniog.
Fel rhan o'i chylch gwaith i sicrhau bod pobl o bob cefndir yn ymwybodol o gasgliadau a gwaith y Llyfrgell, bydd staff yn cydweithio gydag unigolion lleol, clybiau a chymdeithasau i baratoi amserlen gyffrous o ddigwyddiadau.
Noson o ffilmiau Archif
Ar nos Lun, 11 Tachwedd 2013, bydd Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn cynnal noson o ffilmiau archif yng Nghell B, Blaenau Ffestiniog. Bydd hyn yn gyfle unigryw i weld ffilmiau archif o’r ardal ar y sgrin fawr!
Mae’r dangosiad yma yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau sy’n digwydd yn yr ardal, fel rhan o gynllun Estyn Allan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Ym mis Chwefror, 2014 bydd yr Archif yn cyd-weithio â Gai Toms ar broject cyffrous a gwahoddwn chi i fod yn ran o hyn! Bydd cyfle i chi ddysgu mwy am y project, ac i gofrestru eich diddordeb ar y 11eg o Dachwedd.
Dewch yn llu!
Noson i gychwyn am 7:30pm. Tocynnau ar gael am ddim o Siop Lyfrau’r Hen Bost – 01766 831 802. Cysylltwch â Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru am fwy o wybodaeth – 01970 632 828.