Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Wythnosolyn Cyntaf Cymru


The Cambrian
The Cambrian

Ym 1804 ymddangosodd y newyddiadur wythnosol cyntaf yng Nghymru pan gyhoeddwyd The Cambrian yn Abertawe.

 

Roedd Abertawe yn ganolfan addas ar gyfer menter o'r fath gan ei bod yn datblygu'n dref brysur o ran masnach a diwydiant a chanddi gysylltiadau ar fôr a thir i ddosbarthu'r papur. Cyfyngwyd cylchrediad The Cambrian i'r lleiafrif bychan a fedrai ddarllen Saesneg ym mhrif drefi de Cymru. Profodd y fenter yn llwyddiant, ac fe'i dilynwyd yn y man gan wythnosolion eraill megis The North Wales Gazette a sefydlwyd ym Mangor ym 1808, a'r Carmarthen Journal a sefydlwyd yng Nghaerfyrddin ym 1810.

 

 

 

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 10-03-2007