Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
Ceredigion
Cymru
SY23 3BU
Lledred (Latitude) = 52.4145, Hydred (Longitude) = -4.0685
Lledred = 52 gradd, 24.9 munud Gogledd
Hydred = 4 gradd, 4.1 munud Gorllewin
Gyrrwyr Noder: Os fyddwch yn defnyddio system llywio â lloeren efallai bydd angen i chi sicrhau fod y system wedi ei ddiweddaru. Fe all hen systemau gymysgu côd post y Llyfrgell â Ffordd Llanbadarn sydd yn union islaw yr adeilad a Rhiw Penglais. Mae'r Llyfrgell wedi ei arwyddbostio'n glir ar hyd yr holl brif ffyrdd i mewn i Aberystwyth.
Ar yr A487 o Fachynlleth, teithiwch i lawr Rhiw Penglais gan basio Canolfan y Celfyddydau ac adeiladau newydd y Brifysgol. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar y chwith yn union ar ôl Neuadd Breswyl Pantycelyn. Mae'r Llyfrgell 400 metr ar hyd y lôn.
Ar hyd yr A44 o Langurig dewch at oleuadau traffig ym mhentref Llanbadarn. Trowch i'r chwith wrth y golau ac yna'n syth i'r dde tuag at dref Aberystwyth ac ar hyd ffordd breswyl Ffordd Llanbadarn. Byddwch yn pasio Canolfan Hamdden Plascrug. Ar ddiwedd Ffordd Llanbadarn dewch at gyffordd lle mae Tafarn Y Cwps ar y chwith. Trowch i'r dde ac i fyny Rhiw Penglais. Wedi pasio'r fynedfa i Ysbyty Bronglais trowch i'r dde wrth y blwch postio. Mae'r Llyfrgell 400 metr ar hyd y lôn.
Ar hyd yr A487 o Aberaeron dewch at gylchfan ym Mhenparcau. Trowch i'r dde gan ddisgyn ar hyd Rhiw Pen y Bont. Dewch yna at gylchfan arall wrth ymyl siopau Parc y Llyn. Cymerwch y pedwerydd troad gan anelu at bentref Llanbadarn. Cyn dod i mewn i'r pentref trowch i'r chwith ac ar hyd Ffordd Llanbadarn gan basio Canolfan Hamdden Plascrug. Ar ddiwedd Ffordd Llanbadarn dewch at gyffordd lle mae Tafarn Y Cwps ar y chwith. Trowch i'r dde ac i fyny Rhiw Penglais. Wedi pasio'r fynedfa i Ysbyty Bronglais trowch i'r dde wrth y blwch postio. Mae'r Llyfrgell 400 metr ar hyd y lôn.
O 1 Mehefin 2009 codir ffi fechan ar ymwelwyr a darllenwyr am barcio yn y Llyfrgell Genedlaethol (Dydd Llun - Dydd Gwener yn unig).
| Cerbyd | Pris (Llun - Gwener) | Pris (Sadwrn) |
|---|---|---|
| Ceir/beiciau modur | £1 (hyd at 4 awr) | Am ddim |
| £2 (dros 4 awr - ddiwrnod llawn (18:15)) | Am ddim | |
| Cerbydau tywys/carafannau | £2.50 (hyd at 4 awr) | Am ddim |
| £5.00 (dros 4 awr - ddiwrnod llawn (18:15)) | Am ddim | |
| Bws/bysiau mini | Am ddim. Rhaid rhoi gwybod o flaen llaw a defnyddio'’r bylchau penodedig. Cysylltwch â'r Porthorion i drefnu hyn 01970 632 858 neu prifporthor@llgc.org.uk | Am ddim |
Mae’r ffioedd yma’n cynnwys parcio yn unai’r blychau gwyn neu goch.
Eithrir gyrwyr sy’n arddangos bathodyn anabl cywir rhag talu.
Gellir defnyddio derbynebau parcio ar gyfer talu am un pryniant yn y Llyfrgell, yn y Cafe, Siop neu wasanaethau ffotogopïo ar yr un dydd yn unig. Ni ad-delir arian yn erbyn derbynebau parcio.
Mae Gorsaf Aberystwyth wedi ei lleoli ynghanol y dref. Gellir cerdded i'r Llyfrgell mewn chwarter awr neu gellir cael taith fer mewn tacsi o'r tu allan i'r orsaf. Mae trenau i Aberystwyth yn cyrraedd bob dwy awr, a daw'r gwasanaeth drwy Amwythig. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Traveline Cymru.
Lleolir yr Orsaf Fysiau y drws nesaf i'r Orsaf Drenau. Ceir sawl gwasanaeth lleol a sawl cysylltiad â dinasoedd mawrion Lloegr. Os byddwch am deithio o ran arall o Gymru gallwch ddal gwasanaeth y Traws Cambria sy'n cyrraedd unwaith neu ddwywaith y dydd. I gysylltu â'r Traws Cambria, ffoniwch 0871 200 22 33 neu cysylltwch â Traveline Cymru.
Ceir mynedfa i'r anabl yn ogystal â lleoedd parcio cyfleus yn ymyl y fynedfa wrth ochr y Llyfrgell ond mae'n werth ffonio o flaen llaw. Cysylltwch â ni ar +44 (01970) 632 801.
