Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae croeso i bawb ymweld â'r Llyfrgell ond os ydych am fwynhau'r profiad o ddefnyddio'r Ystafelloedd Darllen mae'n rhaid cael tocyn darllen dilys.
Wrth gofrestru i ddefnyddio'r Llyfrgell, yr ydych yn cytuno i dderbyn ein Telerau ac Amodau ynglyn a'r defnydd o'r Ystafelloedd Darllen.
Mae gan y Llyfrgell dair ystafell ddarllen. Nid yw'n llyfrgell fenthyg, felly mae'n rhaid ymchwilio'r deunydd yn yr ystafelloedd darllen, neu ar-lein, os yw ar gael felly. Yr ydym yn annog ymwelwyr i archebu deunydd mlaen llaw cyn eu hymweliad (mae hyn yn hanfodol ar gyfer Sadyrnau).
Ystafell Ddarllen y Gogledd: deunydd printiedig gan gynnwys llyfrau, cylchgronau, papurau newydd gwreiddiol
Ystafell Ddarllen y De: deunydd di-brint gan gynnwys archifau, llawysgrifau, meicroffurfiau, ffotograffau, lluniau a mapiau
Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru: deunydd sain a delweddau symudol gan gynnwys ffilmiau, rhaglenni teledu, fideos, recordiadau sain a cherddoriaeth
Dolenni defnyddiol eraill:
Hysbysiadau i Ymwelwyr: i gael y wybodaeth diweddaraf am newidiadau i'r gwasanaethau
Ffurflen Sylwadau: Ydych chi'n fodlon ar y gwasanaeth a gynigiwn i chi? Ydych chi eisiau cyfle i gyflwyno'ch sylwadau? Oes gyda chi awgrymiadau am newidiadau neu welliannau i'r hyn a gynigir? Hoffem glywed eich barn. Medrwch gyflwyno unrhyw sylw, canmoliaeth neu gwyn ar ein ffurflen sylwadau.
Impact: cofrestrwch arlein ar gyfer ein e-lythyr sy'n dangos sut yr ydym yn ymateb i sylwadau ac awgrymiadau gan ein defnyddwyr
e-Adnoddau Allanol: os ydych yn byw yng Nghymru, gall aelodaeth ar-lein gynnig mynediad i gyfoeth o adnoddau electronig
Polisiau