Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?

Cam wrth Gam

Arddangosfa Cam wrth Gam, 5 Mawrth 2011 - 2012


‘Pam na wnes i ddechrau ynghynt…’ Dyna gwestiwn llawer o haneswyr teulu wrth ddechrau ar y gamp o hel achau. Unwaith mae rhywun yn cael blas ar y dasg o lunio coeden deulu, gellir dweud ei fod yn gafael ynoch fel cyffur sy’n mynd i’r gwaed.

 

Yn ystod y broses o olrhain eich achau, mae’n bosibl y bydd yn rhaid ichi ymweld â sawl archifdy sirol yn ogystal â Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Y Llyfrgell yw prif ganolfan hel achau Cymru gan ei bod yn gartref i gofnodion helaeth o bob rhan o’r wlad. Ceir sawl categori o ddeunyddiau a fydd yn ddefnyddiol i’r hanesydd teulu o fewn y Llyfrgell, gan gynnwys llyfrau printiedig, darluniau, mapiau a llawysgrifau. Bydd ffynonellau amrywiol megis y cyfrifiad, cofnodion anghydffurfiol a’r mapiau degwm, i enwi dim ond rhai, yn gymorth i ymchwilwyr ar ryw gyfnod yn ystod eu hymchwil.

 

Bwriad yr arddangosfa hon yw rhoi cyflwyniad cam wrth gam ar sut i gychwyn olrhain achau yng Nghymru, gan arddangos rhai o’r prif ffynonellau sy’n cael eu defnyddio’n gyson gan haneswyr teulu.

 

Ymunwch â'n rhestr bostio yn rhad ac am ddim i dderbyn gwybodaeth am ein rhaglen arddangosfeydd, ebostiwch post@llgc.org.uk neu cofrestrwch ar-lein i dderbyn ein egylchlythyr rhad ac am ddim.

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 04-04-2012