Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae’r prif gasgliad yn cynnwys yn bennaf gynlluniau o’r 19eg ganrif o weithfeydd plwm, yn arbennig felly rhai gogledd Ceredigion, a nifer llai o gynlluniau chwareli a oedd yn berthnasol i chwareli llechi yng ngogledd Cymru.
Daeth y cynlluniau mwyngloddio hyn i’r Llyfrgell o amrywiol ffynonellau. Mae’r casgliad craidd hwn wedi cael ei gatalogio yng nghatalog arlein y Llyfrgell.
Yn ogystal mae nifer fawr o gynlluniau mwyngloddio yn y casgliadau mapiau ystadau wedi eu henwi, e.e. Gogerddan, Trawscoed a Nanteos. Mae casgliadau Leonora Davies, J Llewelyn Griffiths a John Jenkins hefyd yn cynnwys cynlluniau pyllau glo. Ychwanegwyd llawer o’r deunydd yma at y catalog arlein.
Mae’r Llyfrgell hefyd yn gartref i gasgliad mawr o gynlluniau peirianwyr gafodd eu trosglwyddo o’r Bwrdd Glo. Trosglwyddwyd peth o’r deunydd hwn i archifdai lleol. Cyrhaeddodd y casgliad gyda mynegai papur, ond nid yw wedi ei restru yn y catalog arlein eto.
Yn ogystal â’r deunydd hwn sy’n cynnwys llawysgrifau yn bennaf mae yna hefyd beth gwaith wedi’i gyhoeddi sy’n berthnasol i fwyngloddio yn y casgliad mapiau.