
Porwch yr e-gylchlythyr
Diffyg lle yn Ystafell Ddarllen y Gogledd!

Dros yr wythnosau diwethaf, mae Ystafell Ddarllen y Gogledd wedi bod yn eithriadol o brysur a llawn! I geisio rhyddhau mwy o le, yr ydym wedi tynnu 10 terfynell allan o'r ystafell, fel bod mwy o le at ddefnydd gliniaduron. Hefyd, yr ydym wedi gosod mwy o socedi trydan o dan y byrddau fel bod mwy o ddefnyddywr yn medru defnyddio eu gliniaduron eu hunain.
Mae cynlluniau hefyd i ymestyn pwer i'r oriel gyntaf, fel bod modd defnyddio gliniaduron yn yr ardal yma hefyd.

Cyfrif darllenwyr
Mae'r Llyfrgell wedi gosod dau beiriant cyfrif yn y cyntedd i gyfrif y nifer o ddarllenwyr sy'n ymweld รข'r ystafelloedd darllen yn ddyddiol. Mae'r peiriannau yma yn medru rhoi darlun clir i ni o'r defnydd o'r ystafelloedd, a'r adegoedd prysuraf yn ystod y dydd neu'r wythnos, ac mae hyn yn fantais i ni wrth geisio sicrhau fod gyda ni staff digonol ar yr adegoedd prysuraf.

Gwasanaeth Ymholiadau
Os oes gyda chi ymholiad, medrwch gysylltu gyda Gwasanaeth Ymholiadau'r Llyfrgell mewn sawl ffordd
Cwblhau ein ffurflen ymholiadau ar-lein
Ein ffonio ar 01970 632933
Anfon ffacs at 01970 632551
Cysylltu gyda'r gwasanaeth Sgwrs Sydyn, sydd ar gael rhwng 11.00 - 12.00 bob dydd Mawrth a rhwng 2.00 - 3.00 bob dydd Iau
Ysgrifennu at: Gwasanaeth Ymholiadau, Gwasanaethau i Ddarllenwyr, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU
