National Library of Wales
Impact Awst 2012
Promo Image Text

Ble mae dy wreiddiau?


Dyma oedd thema stondin y Llyfrgell eleni yn Sioe Frenhinol Cymru a gynhaliwyd 23-26 Gorffennaf. Ein prif neges eleni oedd hanes teulu a gafodd ei arddangos ar ffurf hanes teulu Llywydd y Sioe, John R Davies o Ferthyr Cynog. Roedd teulu Mr Davies a chysylltiadau yn ôl i ganol y ddeunawfed ganrif â ffermydd Llwynonn, Yscirfechan a Phentwyn yn y plwyf. Yr oedd yn braf iawn yn ystod yr wythnos i groesawu nid yn unig Y Llywydd a’i wraig Menna, ond hefyd ei rieni, brodyr a chwiorydd a chyfnitherod a nifer helaeth o bobl leol arall oedd yn adnabod y teulu ac i glywed eu hanesion.

Yn rhan arall o’r stondin rhoddwyd sylw arbennig i ffotograffau o gasgliad P B Abery oedd yn gweithio fel ffotograffydd yn ardal y Sioe ac yn Sir Faesyfed; arddangoswyd nifer o ffotograffau o’r casgliad ac eto cafwyd ymateb da iawn gan ymwelwyr, nifer ohonynt wedi rhoi mwy o wybodaeth i ni am y lluniau.

Mwy o socedi i Ystafell Ddarllen y Gogledd


Yn dilyn nifer o sylwadau gan ein defnyddwyr am y diffyg socedi trydan yn Ystafell Ddarllen y Gogledd ar gyfer defnyddio gliniaduron, mae’r trydanwyr wedi bod yn brysur dros yr haf yn gosod mwy o socedi o dan y prif fyrddau ar y llawr gwaelod, ac wedi gosod socedi trydan ar yr oriel gyntaf, fel bod modd defnyddio gliniaduron yn yr ardal yma hefyd. Gobeithio y bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i’n defnyddwyr!

Myfyrwyr ar brofiad gwaith yn y Llyfrgell


Mae’r Llyfrgell yn derbyn myfyrwyr ysgol yn rheolaidd ar brofiad gwaith, ac mae isadran Gwasanaethau i Ddarllenwyr yn rhoi cyfle iddynt weithio gyda’r cyhoedd a gweld tu ôl y llenni.

Mae’r myfyrwyr yn cael cyfle i weithio a chysgodi staff y desgiau, sef y staff sy’n rhoi cymorth i’r darllenwyr. Yn Ystafell Ddarllen y De bydd y myfyrwyr yn dysgu am y ffynonellau hanes teulu sydd ar gael ar gyfer ymchwilwyr, a chael gwybod am y casgliadau o lawysgrifau, lluniau a mapiau sydd ar gael yn y Llyfrgell. Mae hyn yn gyfle i'r myfyrwyr weithio gyda a gweld casgliadau unigryw.

Yn Ystafell Ddarllen y Gogledd mi fydd y myfyrwyr yn gweld casgliadau arall ond mewn print y tro hyn, sef casgliadau o hen lyfrau, a llyfrau a chylchgronau modern sy'n cyrraedd trwy'r Ddeddf Hawlfraint, gan fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o lyfrgelloedd hawlfraint y Deyrnas Unedig. Mae’r myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i dreulio amser gyda’r Tîm Gwasanaeth, sef y staff sy’n gyfrifol am nôl yr eitemau sydd wedi eu hrchebu gan ein defnyddwyr. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr i weld ble mae'r casgliadau yn cael eu cadw.  

Yn olaf, caiff y myfyrwyr weithio gyda’r Tim Ymholiadau. Mae'r tim yma yn delio gydag ymholiadau trwy lythyr, e-bost, ffacs a dros y ffôn. Mae hyn rhoi cyfle i'r myfyrwyr i ymchwilio ein casgliadau i chwilio am wybodaeth er mwyn ateb ymholiad, ac i anfon y wybodaeth at y cwsmer.

Felly os ydych â diddordeb dod i weithio gyda’r tîm am gyfnod o brofiad gwaith, cysylltwch ag Adran Personel y Llyfrgell am ragor o wybodaeth ar 01970 632531

 

Canolfannau Gwybodaeth Patent (PATLIB)


 

Crewyd Canolfannau Gwybodaeth Patent, neu Lyfrgelloedd Patent (PATLIBs) i alluogi defnyddwyr i gael mynediad lleol i wybodaeth yn ymwneud â phatentau, nodau masnach, dyluniadau a hawlfraint.

Mae gan y canolfannau staff profiadol sydd yn medru cynnig help ymarferol ar nifer o Hawliau Eiddo Deallusol (IPR)

Mae Canolfan PATLIB Cymru yn swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno, ond mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Ganolfan i gynnal gweithdai ymarferol bob deufis yn y Llyfrgell Genedlaethol ble mae cynghorwyr yn medru darparu gwybodaeth gyfredol a chyngor yn ymwneud â’r pynciau uchod.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Dafydd Tudur yn y Llyfrgell Genedlaethol : dat@llgc.org.uk, 01970 632564

 

Jeli yn y Llyfrgell Genedlaethol!


Ar 4ydd Hydref, 2012, mi fydd yna ddiwrnod ar gyfer pobl sydd yn gweithio o adref yn cael ei gynnal yn y Llyfrgell Genedlaethol, sef "Jeli Aberystwyth" – diwrnod i weithio, sgwrsio a chydweithio mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar ac i gwrdd â phobl o’r un meddylfryd.

Yn ystod y “jeli” mi fydd cyfle i fwcio gweithdy gyda PATLIB CYmru sydd yn gwneud y gorau o syniadau Cymreig drwy alluogi mynediad i wybodaeth Eiddo Deallusol.

Medrwch gofrestru ar gyfer y diwrnod drwy ymweld â www.inventorium.org/events

Sylwadau gan ein defnyddwyr


Lle gwych i weithio, pawb yn gyfeillgar ac yn barod i gynorthwyo.

Lle difyrraf Cymru!

Cyfeillgar a charedig iawn

Diweddarwyd: 02-08-2012