
Estyn allan yn Abertawe

Mae Isadran Gwasanaethau i Ddarllenwyr wedi bod yn brysur iawn ers mis Medi yn ymgymryd â llawer o waith estyn allan. Gwelwyd ein presenoldeb mewn diwrnodau agored a ffeiriau’r glas ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Y Drindod Dewi Sant, Llambed a Prifysgol Bangor er mwyn denu mwy o fyfyrwyr o bob math i ddefnyddio adnoddau’r Llyfrgell. Yn sgil hyn yr ydym wedi croesawu nifer o grwpiau o fyfyrwyr i’r Llyfrgell i dderbyn cyflwyniadau pellach i’n adnoddau a chasgliadau.
Fel rhan arall o’n gwaith estyn allan yr ydym yn mynychu ffeiriau hanes teulu ac yn y cyfnod diweddar yr ydym wedi bod yng Nghaerfyrddin, Merthyr Tydfil ac yn Abertawe, lle trefnwyd ffair gan y Llyfrgell yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau fel rhan o’r rhaglen Estyn Allan y Llywydd yn yr ardal.
Ein gwaith gyda'r prifysgolion

Dechreuodd y tymor gyda’r ymweliad blynyddol â Ffair y Glas ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roedd hwn yn ddiwrnod prysur i’r pedwar aelod o Isadran Gwasanaethau i Ddarllenwyr, a fu’n hyrwyddo’r Llyfrgell yn gyffredinol, yn ogystal â’r gwasanaethau a gynigir, fel y Sesiynau Gwybodaeth, Adnoddau Electronig Allanol, gwasanaeth diwifr o fewn y Llyfrgell, a’r cymorth sydd ar gael gan staff profiadol yr Ystafelloedd Darllen. Eleni, siaradodd y staff gyda dros ddau gant o fyfyrwyr newydd, gan roi gwybodaeth iddynt am ein gwasanaethau a sut I ymaelodi gyda’r Llyfrgell.
Buom hefyd yn Ffair Ôl-Raddedigion Prifysgolion Aberystwyth a Bangor, ac wedi ein calonogi gan yr ymateb i’n adnoddau ar-lein sydd ar gael drwy wefan y Llyfrgell. Yr ydym yn gwerthfawrogi’n fawr y berthynas agos rhyngom a’r prifysgolion, ac edrychwn ymlaen i fynychu digwyddiadau tebyg y flwyddyn nesaf.
Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cwsmer

Ym mis Gorffennaf eleni, enillodd y Llyfrgell y safon Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cwsmer am y drydedd flwyddyn yn olynol am ei gwasanaeth gwych i'w chwsmeriaid. Mae'r safon yn asesu nifer o feysydd gwahanol yn ymwneud â chyflwyno'n gwasanaethau i'n defnyddwyr, ac yn cydnabod ymrwymiad y Llyfrgell i sicrhau fod ei holl gwsmeriaid yn derbyn gwasanaeth cwsmer rhagorol, boed yn yr adeilad, neu drwy ddefnyddio'n gwasanaethau ar-lein.
Dywedodd yr asesydd:
"It is clear that the Library has a good understanding of the needs of your users and involve them in developing services."
Os oes gyda chi unrhyw awgrymiadau am welliannau i'r gwasanaethau a gynigir, yna cysylltwch â cce@llgc.org.uk
Sylwadau gan ein defnyddwyr

"Llyfrgell ardderchog. Awyrgylch da. Rhaid ei chymeradwyo a diolch i’r staff am eu gwasanaeth. Fedrwn i ddim dod i ben heb lyfrgell o’i math gerllaw."
"Lle arbennig o dda i weithio a chanolbwyntio."
