Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Newyddion - 2011

Dadorchuddio Portread Dafydd Wigley

Dadorchuddio Portread Dafydd Wigley

Gwe, 02 Rha 11 14:44:00

Dadorchuddiwyd portread o Lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Yr Arglwydd Dafydd Wigley, ar ddydd Gwener 2 Rhagfyr 2011.

Y Llyfrgell Genedlaethol yn derbyn cymynrodd Louis Feutren

Maw, 29 Tac 11 16:49:00

Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cytuno i dderbyn cymynrodd a adawyd i’r Llyfrgell gan y diweddar Louis Feutren, sy’n cynnwys casgliad o bapurau a thapiau, a swm o arian.

[Translate to Cymraeg:] National Libraray of Wales

‘Augustus John: A Personal Reminiscence’

Llu, 21 Tac 11 14:09:00

Y cyfarwyddwr teledu nodedig Tristan de Vere Cole fydd y siaradwr gwadd mewn noson arbennig a drefnir dan fantell Penodau

Deian Hopkin

Penodi Llywydd Newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Iau, 03 Tac 11 09:56:00

Mae Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, wedi cyhoeddi bod Syr Deian Hopkin wedi'i benodi'n Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Siân Lloyd

Siân Lloyd - Y Gyflwynwraig Teledu yn Noson y Llywydd

Mer, 02 Tac 11 14:22:00

Siân Lloyd, y gyflwynwraig a’r ddynes tywydd deledu boblogaidd, fydd gwestai arbennig Noson y Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol yn y Drenewydd ar nos Iau 10 Tachwedd 2011.

 Menna Richards

Datganoli Darlledu i Gymru? – Darlith Flynyddol yr Archif Wleidyddol

Gwe, 28 Hyd 11 11:21:00

Sut mae’r berthynas rhwng darlledwyr yng Nghymru a Llundain wedi newid ers Datganoli? A yw hi’n amser i Lywodraeth Cymru gymryd rhagor o gyfrifoldeb dros ddarlledu?

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Gweithdy Cyfeiriadau Newydd mewn Digido

Mer, 26 Hyd 11 14:47:00

Cynhelir diwrnod arbennig i drafod datblygiadadu newydd ym maes digido yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ddydd Gwener 28 Hydref 2011.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Iechyd Da yn Bwysig i’r Llyfrgell

Maw, 25 Hyd 11 11:54:00

Ar 2 Tachwedd 2011 bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal ei thrydedd diwrnod Iechyd a Lles ac yn lansio holiadur straen arlein i staff y sefydliad.

Baner LlGC

Ffotos – J.B. Willans, Sganio’ch hen ffotos … a phwy oedd y Dair Ferch yna?

Gwe, 14 Hyd 11 13:52:00

Fel rhan o’i ymgyrch hyrwyddo ar gyfer digwyddiadau’r Drenewydd, fe ddefnyddiodd y Llyfrgell ffoto hyfryd gan Geoff Charles http://www.myglyw.org.uk/index.php?id=3622&L=1 o dair merch ifanc yn Eisteddfod Genedlaethol y dref yn 1965. Defnyddiwyd y llun mewn posteri, taflenni, hysbysebion a baneri stryd. Ond pwy oedd y tair merch ifanc mewn gwisg Gymreig?

 HAMDDENA

HAMDDENA

Maw, 04 Hyd 11 10:11:00

Rygbi, eisteddfota, ffilmiau, chwarae gwyddbwyll … sut fyddwch chi’n hamddena? A sut mae amser hamdden y Cymry wedi newid dros y degawdau os nad canrifoedd? Dyna bwnc arddangosfa fawr newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n cael ei hagor yn swyddogol gan y delynores fyd-enwog, Catrin Finch ar nos Fercher 12 Hydref 2011.

Ffotos o’r Stryd – Gŵyl Ffoto Lens 18-19 Tachwedd

Ffotos o’r Stryd – Gŵyl Ffoto Lens 18-19 Tachwedd

Iau, 29 Med 11 09:44:00

Ffotograffiaeth fydd y gair ar y stryd yn Aberystwyth ym mis Tachwedd - neu, o leiaf yng ngŵyl Lens wrth i ffotograffwyr amlycaf Cymru yn ymgynnull yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 18 a 19 Tachwedd 2011. Byddant yno i roi cyflwyniadau darluniadol o’u gwaith ffotograffig ar y thema Ffotograffiaeth Stryd.

Pâr yn Rhedeg dros Gŵn Clywed

Pâr yn Rhedeg dros Gŵn Clywed

Iau, 15 Med 11 14:23:00

Bydd Dilwyn Phillips, sy’n borthor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a’i wraig Hazel yn cymryd rhan yn y Great North Run http://www.greatrun.org yn Newcastle yn hwyrach y mis hwn dros Gŵn Clywed i Bobl Fyddar.

[Translate to Cymraeg:] Yann Fouéré

YanYann Fouéré – Lansiad Llyfr y Llydawr a ffodd i Gymru wedi’r Rhyfel

Llu, 12 Med 11 16:20:00

Ar nos Wener 16 Medi 2011 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth lansir cofiant Llydawr di-ildio a orfodwyd i ffoi i Gymru ac yna’r Iwerddon.

Lle maen nhw Nawr?

Lle maen nhw Nawr?

Iau, 08 Med 11 08:51:00

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn awyddus i ganfod hanes tair merch ifanc o Sir Drefaldwyn a ymddangosodd mewn ffotograff o’r 1960au.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Trefniadau Gŵyl Banc Mis Awst 2011

Gwe, 26 Aws 11 11:28:00

Bydd y Llyfrgell ar gau dydd Llun, 29 Awst

Holi Llyfrgellydd

Holi Llyfrgellydd

Iau, 11 Aws 11 14:19:00

Eisiau holi cwestiwn a chael ateb awdurdodol sydyn? Os felly, gall diwrnod arbennig #HoliLlyfrgellydd fod o ddefnydd i chi.

26 Trysor

Llenorion yn datgelu trysorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn 62 gair yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.

Mer, 27 Gor 11 14:11:00

Mae’r cydweithrediad rhwng sgwenwyr grŵp 26, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd wedi paru 26 o ysgrifenwyr – 13 yn y Gymraeg, 13 yn y Saesneg gyda 26 gwrthrych sydd yng nghasgliad y Llyfrgell.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Casgliad o raglenni a ffilmiau cynnar S4C i’w cadw yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru

Mer, 27 Gor 11 10:05:00

Mae casgliad pwysig o raglenni a ffilmiau cynnar S4C yn mynd i gael eu cadw ar gyfer y dyfodol yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Rhannwch eich atgofion ar y Maes.

Rhannwch eich atgofion ar y Maes.

Mer, 27 Gor 11 09:37:00

Bydd yr Eisteddfod a Chasgliad y Werin yn cydweithio yn ystod wythnos yr Eisteddfod er mwyn casglu atgofion Eisteddfodwyr Cymru.

[Translate to Cymraeg:] The National Library of Wales

Cadwyn ddynol i ddathlu Canmlwyddiant Adeilad y Llyfrgell.

Maw, 12 Gor 11 17:49:00

Ar ddydd Gwener 15 Gorffennaf bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cofnodi canmlwyddiant gosod ei charreg sylfaen.

 Dafydd Jenkins

Yr Athro Dafydd Jenkins

Maw, 12 Gor 11 16:37:00

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn falch iawn i gyhoeddi y bydd ei darllennydd hynaf, Yr Athro Dafydd Jenkins sy’n gant oed, yn bresenol i ddathlu canmlwyddiant gosod carreg sylfaen yr adeilad.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Lansio gwasanaeth Sgwrs Sydyn.

Llu, 04 Gor 11 13:53:00

Dydd Llun, 4 Gorffennaf 2011 bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn lansio gwasanaeth newydd ar ei gwefan sef Sgwrs Sydyn. Mae'n wasanaeth newydd fydd yn ateb ymholiadau syml ac yn ddefnyddiol iawn i bobl sydd eisiau ateb sydyn.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Penodi Llywydd ac un Ymddiriedolwr Newydd i’r Llyfrgell Genedlaethol.

Llu, 27 Meh 11 11:39:00

Mae Llywodraeth Cymru (fydd yn apwyntio’r Llywydd newydd) yn chwilio am unigolyn ymroddedig, brwdfrydig a chryf ei gymhelliant a all gyfrannu at y gwaith parhaus o gryfhau a datblygu Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

VOCAB

VOCAB – Newyddion da i ddysgwyr Cymraeg

Mer, 22 Meh 11 14:11:00

Mae gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru nawr yn cynnig gwasanaeth arloesol sydd o fudd i ddysgwyr y Gymraeg.

Luned Rhys Parri

Artist yn dadlennu doniau Geoff Charles

Mer, 11 Mai 11 13:59:00

Mae Luned Rhys Parri wrth ei bodd â’i phrosiect diweddaraf. A hithau artist preswyl newydd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru mae hi wedi ei phenodi i greu gwaith celf yn seiliedig ar ffotograffau Geoff Charles.

Winifred Coombe Tennant

Winifred Coombe Tennant – Gwraig Ryfeddol

Mer, 11 Mai 11 12:51:00

Cyhoeddiad diweddaraf Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw dyddiadur un o fenywod mwyaf rhyfeddol Cymru’r ugeinfed ganrif, Winifred Coombe Tennant.

 Clive Hicks-Jenkins

Clive Hicks- Jenkins – Ôl Syllol

Mer, 04 Mai 11 09:40:00

Bydd arddangosfa fawr o waith yr artist Clive-Hicks Jenkins yn agor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ar Ddydd Sadwrn 7 Mai 2011.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Pedwar Canmlwyddiant Beibl y Brenin Iago

Maw, 26 Ebr 11 16:41:00

Cyfle i weld un o'r argraffiadau gwreiddiol sydd wedi goroesi o Feibl y Brenin Iago ochr-yn-ochr â chyfieithiad Cymraeg 1588 William Morgan.

Elisbaeth Luard

Cyflwyniad i’r llyfr ‘A Cook’s Year in a Welsh Farmhouse’

Mer, 20 Ebr 11 16:32:00

Yr awdur bwyd arobryn a’r newyddiadurwraig a’r ddarlledwraig lleol Elisabeth Luard fydd y siaradwraig wadd mewn noson arbennig a drefnwyd gan Penodau, cynllun noddwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Logo Archif Sgrin a Sain

Ffilmiau Archif ar Sgrîn Fawr BBC yn Abertawe

Mer, 20 Ebr 11 08:55:00

Gan ddechrau'r wythnos hon dangosir ffilmiau archif o gasgliad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru ar sgrin fawr y BBC a leolir yn Sgwar y Castell.

Jean-Claude Charbonel

Swrrealaeth: Trwy’r Llygad Celtaidd

Iau, 14 Ebr 11 10:04:00

Bydd gwaith dau artist swrreal sef Jean-Claude Charbonel a John Welson yn cael eu harddangos mewn arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o 16 Ebrill 2011 – 2 Gorffennaf 2011.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol yn croesawu ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad ar adnau cyfreithiol di-brint.

Gwe, 08 Ebr 11 10:00:00

Mae’r Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol wedi croesawu ymateb Llywodraeth San Steffan i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar reoliadau a chanllawiau drafft ar adnau cyfreithiol di-brint’ a’i hymrwymiad i greu rheoliadau i ddeunydd di-brint.

Menna Elfyn

Merch Perygl - Gomer yn cyhoeddi detholiad o waith Menna Elfyn

Maw, 05 Ebr 11 16:40:00

Yr wythnos hon, bydd Gwasg Gomer yn cyhoeddi cyfrol bwysig o waith Menna Elfyn, un o feirdd pwysicaf y Gymru fodern.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Etholiad Cymru - Galw Pobl Llanelli ac Islwyn

Llu, 04 Ebr 11 16:26:00

Mae’n adeg etholiadol yng Nghymru gydag etholiad ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol ar 5 Mai. Eleni, fel pob cyfnod etholiadol arall, bydd yr Archif Wleidyddol Gymreig, sy’n rhan o’r Llyfrgell Genedlaethol, yn mynd ati i gasglu set gyflawn o'r taflenni a'r effemera a gylchredir. Serch hynny, mae’r Archif angen eich help.

D.C Harries

Byw ar y Tir

Maw, 22 Maw 11 11:22:00

Bydd gwaith rhai o ffotograffwyr mwyaf blaenllaw Cymru yn cael eu gweld mewn arddangosfa yn Oriel Mwldan, Aberteifi o 2 Ebrill 2011 – 14 Mai 2011.

Logo WWF

Awr Ddaear WWF

Iau, 17 Maw 11 14:06:00

Y Llyfrgell yn diffodd ei goleuadau i gefnogi ymgyrch Awr Ddaear WWF.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Trefniadau Gwyliau’r Pasg a Chalan Mai 2011

Gwe, 04 Maw 11 14:49:00

Bydd y Llyfrgell ar gau rhwng (ac yn cynnwys) 22 Ebrill a 25 Ebrill a hefyd rhwng (ac yn cynnwys) 29 Ebrill a 2 Mai.

Banner Dewi Sant

Gwnewch y Pethau Bychain!

Gwe, 25 Chw 11 10:33:00

Dewch draw i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar 1 Mawrth i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Llawysgrif

Beth wisgai Cymraes 400 mlynedd yn ôl?

Gwe, 18 Chw 11 14:27:00

Beth oedd ein cyn-neiniau’n wisgo pedair can mlynedd yn ôl? Gwyddom am ddillad y bonedd o’r amryw bortreadau ohonynt ond beth wisgai merched y werin bobl? Diolch i lawysgrif ddi-nod yr olwg ond gwerthfawr ei chynnwys o ardal Wicwer, Llanelwy yn Sir Ddinbych, yng nghasgliad y Llyfrgell, fe gawn gipolwg prin ar y pwnc diddorol yma.

Cyfreithiau Hywel Dda

Llyfr Cyfreithiau Hywel Dda yn y Gymraeg

Iau, 10 Chw 11 14:29:00

Ceir sawl copi o gyfreithiau’r Cymry, Cyfraith Hywel Dda, yn y Llyfrgell ond mae un arbennig o ddiddorol newydd ei ddigido a’i rhoi ar-lein.

Kyffin Williams

Kyffin Williams: Y Wladfa

Mer, 02 Chw 11 15:01:00

O 5 Chwefror 2011 hyd at 4 Medi 2011 bydd arddangosfa o waith Syr Kyffin Williams ar y Wladfa i’w weld yn Oriel Môn. Caiff yr arddangosfa ei hagor yn swyddogol ar nos Wener, Chwefror 4, 2011 gan frodor o Batagonia, Elvey MacDonald.

Rhodri Morgan

Dau Bortread o Rhodri Morgan

Gwe, 28 Ion 11 14:11:00

Cofnodir cyfraniad Rhodri Morgan i fywyd Cymru yn Niwrnod Agored y Llyfrgell Genedlaethol ar ddydd Sadwrn 29 Ionawr pan ddadorchuddir portread arbennig ohono.

Library Open Day

Diwrnod Agored Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2011

Maw, 18 Ion 11 14:30:00

Eleni eto fe fydd y Llyfrgell Genedlaethol yn agor ei drysau led y pen i wahodd pawb i ymuno yn ein Diwrnod Agored blynyddol ar ddydd Sadwrn 29 Ionawr.

Banner LlGC

Aelodau Allanol o’r Pwyllgor Archwilio

Maw, 11 Ion 11 12:25:00

A oes diddordeb gennych mewn gwasanaethu fel Aelod Allanol ar Bwyllgor Archwilio pwysig?

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 28-11-2011