Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Project Europeana Libraries


Ers dechrau 2011 mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) wedi bod yn un o'r 19 llyfrgell ymchwil Ewropeaidd blaenllaw sy'n rhan o  Broject Europeana Libraries.  Bwriad y project yw cynnig mynediad di-dâl i 5 miliwn o wrthrychau digidol ar wefannau European Library Europeana erbyn diwedd Rhagfyr 2012. Bydd LlGC, yn unol â'i hymrwymiad i ddigido a chynnig mynediad am ddim i'w chasgliadau digidol, yn darparu dros 100,000 tudalen o ddeunydd testun, tros 5,000 delwedd o'n casgliad o brintiau topograffig Tirlun Cymru, dros 4,000 delwedd o gasgliad ffotograffig John Thomas, a thros 120,000 delwedd o gasgliad ffotograffig Geoff Charles i broject Europeana Libraries.

 

 

Paul Sandby (1725-1809) – The Iron Forge Between Dolgelli and Barmouth in Merioneth Shire, 1776 (PB05150/tir03560)

Mae'r project, a ariennir gan y Comisiwn Ewropeaidd, yn cael ei gyd-drefnu gan yr 'European Library', gyda chymorth gan y Conference of European National Librarians, y Consortium of European Research Libraries, yr Europeana Foundation a'r Association of European Research Libraries.  Wrth ddod â chasgliad amrywiol o ddeunydd digidol ynghyd o lyfrgelloedd ymchwil ar draws Ewrop, gobeithia'r project osod sylfaen i fedru casglu ynghyd gasgliad llawer mwy o adnoddau ar gyfer ymchwilwyr. Mae Europeana Libraries yn galluogi LlGC i osod rhai o'i chasgliadau digidol pwysicaf ynghanol project arloesol ac uchelgeisiol i gydgasglu cynnwys digidol ar draws llyfrgelloedd ymchwil Ewrop. Bydd hyn yn caniatáu i ymchwilwyr gael mynediad at yr holl ddeunydd digidol sydd ar gael i bawb drwy lyfrgelloedd ymchwil Ewrop drwy un porth.

 

 

Tudalen flaen rhifyn cyntaf Y Traethodydd, 1845

Mae'r cynnwys digidol a ddarperir gan LlGC yn cynnig cofnod testunol a gweledol o dirlun, pobl a chymdeithas Cymru o'r 18fed ganrif hyd at ddiwedd yr 20fed ganrif. Cynigir mynediad hollol chwiliadwy i bum cyfnodolyn Cymreig pwysig o'r 19eg ganrifY TraethodyddArchaelogia CambrensisYr HaulY Diwygiwr a Y Greal. Mae'r cyfnodolion yma, sy'n pontio hanner olaf y 19eg ganrif, yn cynnig arolwg eang o hanes a chymdeithas Cymru yn ystod y cyfnod. Mae'r cyfnodolion, sy'n cwmpasu gwleidyddiaeth anghydffurfiol radical Y Diwygiwr, gogwydd ceidwadol yr eglwys sefydledig yn Yr Haul, a Y Greal y Bedyddwyr Cymreig, yn rhoi'r cyfle i'r ymchwilydd ddilyn prif ddadleuon a digwyddiadau Cymru ar ddiwedd y 19eg ganrif drwy amrywiaeth o safbwyntiau gwleidyddol a chrefyddol cyfoes. Gall yr ymchwilydd, yn ogystal, gael mynediad i ystod eang o draethodau yn Y Traethodydd, cyfnodolyn allweddol o'r 19eg ganrif a oedd yn cynnwys ystod eang o bynciau o grefydd i wleidyddiaeth, llenyddiaeth i athroniaeth, ynghyd â'r ymchwil hanesyddol cynnar a theori sy'n gynnwysiedig yn Archaelogia Cambrensis. Gyda'i gilydd, mae'r cyfnodolion hyn yn cynnig cofnod pwysig o gymdeithas, crefydd a gwleidyddiaeth Cymru yn ystod cyfnod cythryblus yn hanes y genedl.

 

 

Mae casgliad Tirlun Cymru yn cynnwys detholiad eang o brintiau topograffig o dirlun Cymru sy'n dyddio rhwng 1750 a 1850. Mae'r casgliad yn cynnwys gweithiau gan nifer o artistiaid a gwneuthurwyr print pwysig megis David Cox, Paul Sandby, Henry Gastineau a Julius Caesar Ibbetson. Mae'r casgliad yn cynnwys delweddau o Gymru benbaladr, ac yn adlewyrchu hud y tirlun Cymreig i artistiaid y cyfnod.

 

 

John Thomas (1838-1905) – Gweithwyr corsydd, Aberffro, ca. 1885 (jth02827)

Dau o gasgliadau ffotograffig pwysicaf LlGC yw casgliad John Thomas a Geoff Charles.  Maent yn gofnod amhrisiadwy o fywyd Cymru drwy lygad lens, gyda ffotograffau John Thomas yn darlunio bywyd Cymreig yn ystod diwedd y 19eg ganrif a ffotograffau Geoff Charles yn darlunio bywyd Cymreig yn ystod yr Ail Ryfel Byd a hanner olaf yr 20fed ganrif.  Mae galwedigaeth y ddau ffotograffydd, John Thomas fel ffotograffydd teithiol, a Geoff Charles fel ffoto-ohebydd, wedi'n gadael â delweddau sy'n cwmpasu llawer o'r genedl Gymreig, a Charles yn arbennig yn dyst i nifer o'r prif ddigwyddiadau hanesyddol yn ail hanner yr 20fed ganrif.  Bydd ymrwymiad LlGC i'r project hefyd yn ein galluogi i osod casgliad digidol mawr o ffotograffau Geoff Charles o'r 1960au a'r 1970au, ar gatalog ar-lein LlGC am y tro cyntaf.

 

 

Geoff Charles (1909-2002) – Ffoaduriaid Asiaidd o Uganda a gartrefwyd mewn cyn wersyll rhyfel yn Nhonfannau, ger Tywyn, Hydref 26, 1972 (gcc52039)

Bydd y project hefyd yn gyfle i gyflwyno'r casgliadau hyn i gynulleidfa ehangach o fewn Ewrop ac yn fyd-eang.  Yn ogystal â'r casgliadau a ddarperir gan LlGC, bydd Europeana Libraries hefyd yn cynnig mynediad i ystod eang ac amrywiol o adnoddau ymchwil, gan gynnwys ffotograffau o'r Rhyfel Cartref yn Sbaen gan Universidad Complutense de Madrid, casgliad enfawr o lawysgrifau Ottoman gan Brifysgol Belgrade, deunydd clywedol, traethodau ymchwil a mynediad i gasgliad Llyfrgell Bodley o lyfrau a chyfnodolion digidol o eiddo cyhoeddus, y casgliad mwyaf o'i fath sydd ar gael yn Ewrop ar hyn o bryd.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 25-01-2012