Taken from Barddoniaeth Goronwy Owen. Liverpool : I. Foulkes, 1896.

CYWYDD HIRAETH AM FON.

Ateb i Anerch Huw ap Huw'r Bardd i , o Lwydiarth-Esgob, yn Mon, 1756.

[Adwaenir y Cywydd hwn fel un o gynyrchion goreu y Bardd. Sicr fod ynddo frawddegau fyddant byw oesau lawer ; a chryfach efallai nag a geir yn yr un o'i gywyddau eraill.]

DARLLENAIS awdl dra llawn serch,
Wych enwog fardd o'ch annerch.
A didawl eich mawl im' oedd-
Didawl a gormod ydoedd.

Ond gnawd mawl bythawl lle bo,
Rhyddaf i'r gwr a'i haeddo ;
Odidog, mi nid ydwyf,
Rhyw sâl un, rhy isel wyf.
Duw a'm gwnaeth, da im' y gwnel,
Glân Iesu, galon-isel,
Ac ufudd fron, dirion Dad,
Ni oludd fy nwy alwad, ii
O farddwaith od wyf urddawl,
Poed i wau emynau mawl-
Emynau dâl am einioes,
Ac awen i'r Rheniii a'i rhoes.
Gwae ddiles gywyddoliaeth,
Gwae fydd o'i awenydd waeth ;
Dég Ion, os gweinidog wyf,
Digwliv y gweinidogwyf;
Os mawredd yw coledd cail, v
Bagad vivi gofalon bugail ;

Ateb a fydd rhywddydd rhaid
I'r Ion am lawer enaid.
I atebol nid diboen,
Od oes "Barch"vii, dwys yw y boen;
Erglyw, a chymhorth, Arglwydd,
Fy mharchus arswydus swydd ;
Cofier, ar ol pob cyfarch,
Nad i ddyn y perthyn parch;
Nid yw neb ddim ond o nawdd
Y dinam Ion a'i doniawdd;
Tra 'n parcher trwy ein Perchen,
O cheir parch, diolch i'r Pen;
Ein Perchen iawn y parcher,
Pa glod sy'n ormod i Ner?
Parched pob byw ei orchwyl,
Heb gellwair â'i air a'i wyl,
A dynion ei dŷ annedd,
A'i allawr, Ior mawr a'i medd;
Dyna'r parch oll a archaf,
Duw Ion a'i gwyr, dyna gaf.
Deled i'm Ior barch dilyth,
Ond na boed i un dyn byth,
Nag eiddun viii mwy na goddef,
Tra pharcher ein Ner o nef ;
Gwae rodres gwyr rhy hydronix,
Gwae leidr a eirch glod yr Ion ;
Gocheler, Ile clywer clod,
Llaw'n taro lleu-haint Herod.

Ond am Fon hardd, dirion, deg,
Gain dudwedd, fam Gwyndodeg,
Achos nid oes i ochi,
Wlad hael o 'madael â mi;
Cerais fy ngwlad, geinwlad gu-
Cerais, ond ofer caru !
Dilys, Duw yw'n didolydd:
Mawl iddo, a fynno fydd.
Dyweded Ef na'm didol,
Gair o'i nef am gyr yn ol ;

Disgwyl, a da y'm dysger,
Yn araf a wnaf, fy Ner.
Da ddyfydd Duw i ddofion,
Disgwylied, na 'moded Mon ;
Ac odid na cheiff gwedi,
Gan Ion, Lewis Monx a mi:
Neu ddeuwr awen ddiellxi,
I ganu gwawdxii ugain gwell.
Lewis Mon a Goronwy,
Ni bu waeth gynt hebddynt hwy;
A dilys na raid alaeth
I Fon am ei meibion maeth ;
Nac achos poen, nac ochi,
Na chŵyn, tra, parhaoch chwi.

Brodir gnawd ynddi brydydd ;
Heb ganu ni bu, ni bydd.
Syllwch feirdd o Gaswallon
Law-hir, hyd ym Meilir Mon xiii
Mae Gwalchmaibxiv erfai eurfawr ?
P'le mae Einionxv o Fon fawr?
Mae Hywel ap Gwyddeles-
Pen prydydd, lluydd a lles ;
Pen milwr, pwy un moliant ?
Enwog ŵr, ac un o gant,
lawn genaw Owen Gwyneddxvi ,
Gwae'n gwlad a fu gweinio'i gledd.
Bwy unfraint â'r hen Benfras?xvii
Gwae fe fyw, ei lyw a las.
Mae'r Mab Crygxviii oedd fyg pan fu
Ab Gwilymxix yn bygylu?

Dau gydgwys, gymhwys gymhar,
Un wedd ag ychen yn àr.
Cafed ym Mon dduon ddau,
Un Robinxx edlin odlau,
A Gronwyxxi gerddgar union,
Brydydd o Benmynydd Mon.
Mae Alaw ?xxii Mae Caw?xxiii Mae cant?
Mae miloedd mwy eu moliant ?
Pwy a rif dywod Llifonxxiv ?
Pwy rydd i lawr wŷr mawr Mon ?
Awenyddol iawn oeddynt,
Yn gynar, wedd Ceisar, gyntxxv .

Adroddwch, mae'r Derwyddon,
Urdd mawr, a fu'n harddu Mon ?
I'r bedd yr aethant o'r byd,
O'ch alar, heb ddychwelyd.
Hapus yw Mon o'u hepil,
Ag o'r iawn had, gywrain hil.

Clywaf ariâlxxvi i'm calon
A'm gwyth , grym yni Mon ;
Craffrym, fel cefnllif cref-ffrwd
Uwch eigion, a'r fron yn frwd.
Gorthawxxvii dón, dig 'wrthyd wyf,
Llifiaint, distewch tra llefwyf:
Clyw, Fon, na bo goelion gau,
Nag anwir, fyth o'm genau ;
Gwiried Ion a egorwyf,
Dan Ner, canys Dewin wyf :
" Henffych well, Fon, dirion dir,
Hyfrydwch pob rhyw frodir:
Goludog, ac ail Eden,
Dy sutxxviii , neu Baradwys hen :

Gwiwddestl y'th gynysgaeddwyd,
Hoffder Duw Ner, a dyn wyd ;
Mirain wyt ym mysg moroedd,
A'r dw'r yn gan' tŵr it' oedd.
Eistedd ar orsedd eursail
Yr wyd, ac ni welir ail ;
Ac eurahd wyt bob goror,
Arglwyddes a meistres môr.
Gwyrth y rhot trwod y traidd,
Ynysig unbenesaidd.
Nid oes hefyd, byd al barn,
Gydwedd yt', ynys gadarn,
Am wychder, llawnder, a lles,
Mwnai 'mhob cwr o'th mynwes,
Dyffrynoedd, glynoedd, glanau,
Pob peth yn y toreth tau ;
Bara a chaws, bir a chig,
Pysg, adar, pob pasgedig:
Dy feichiog ddeiliog ddolydd
Ffrwythlon, megis Saron, sydd ;
A phrenau dy ddyffrynoedd,
Crwm lwyth, megis Camel oedd.

" O ! mor dirion, y Fon fau,
Dillad dy ddiadellau !
Cneifion dy ddâ gwynion gant,
Llydain, a'th hardd ddilladant.
Dawnus wyt, then ei sail,
Prydferth heb neb ryw adfail ;
A thudwedd bendith ydwyt,
Mawl dy Ner, aml ei dawn wyt.
Os ti a fawl nefawl Ner,
Dilys y'th felys foler
Dawnol fydd pawb o'th dynion,
A gwynfyd 'y myd ym Mon !
Dy eglwyswyr, deg loywsaint,
A'th leygion yn sywionxxix saint,
Cryfion yn ffrwythau crefydd
Fyddant, a diffuant ffydd.

Yn lle malais, trais, traha,
Byddi'n llawn o bob dawn da,
Purffydd, a chariad perffaith;
Ffydd, yn lle cant mallchwant maith;
Yn lle aflwydd, tramgwydd trwch,
Digon o bob rhyw degwch;
Undeb, a phob rhyw iawnder,
Caru, gogoneddu Ner;
Dy enw a fydd, da iawn fod,
Nef fechan y Naf uchod ;
Rhifir di'n glodfawr hefyd
Ar gyhoedd, gan bobloedd byd ;
Ac o ran maint, braint, a bri,
Rhyfeddod hir a fyddi.

" Bellach f'ysbryd a ballawdd,
Mi'th archaf i Naf a'i nawdd.
Gwilia rhag ofergoelion,
Rhagrith, er fy mendith, Mon.
Poed yt' hedd pan orweddwyf
Ym mron llawr estron lle'r wyf.
Gwae fi na chawn enwi nôd,
Ardd wen i orwedd ynod
Pan ganer trwmp Ion gwiwnef,
Pan gasgler holl nifer nef,
Pan fo Mon a'i thirionwch
O wres fflam yn eirias fflwch,
A'i thórog wythi arian,
A'i phlwm a'i dur yn fflam dân!
Pa les cael lloches o'r llaid ?
Duw rano dŷ i'r enaid?
Gwiw ganaid dŷ gogoniant,
Yn nghaer y ser, yn nghôr Sant:
Ac yno'n llafar ganu,
Eirian eu cerdd i'r Ion cu,
Poed Gwyr Mon, a Goronwy,
Heb allael ymadael mwy:
Cyduned a llefed llu
Monwysion, "Amen, Iesu !"

Was this page useful?