Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Dan delerau Deddf Hawlfraint 1911 a Deddf Adnau Cyfreithiol Llyfrgelloedd 2003, byddai’r Llyfrgell yn disgwyl gallu cwmpasu bron yr holl gyhoeddiadau fformat printiedig sydd wedi eu cyhoeddi ers 1911. Gwneir pob ymdrech i sicrhau y caffaelir y prif eitemau a gyhoeddir.
Lleolir cyhoeddiadau swyddogol yn ymwneud â Gweriniaeth Iwerddon cyn 1922 yng nghasgliad cyhoeddiadau swyddogol y DG.
Lle'r oedd y cyhoeddiadau ar gael fel eitemau unigol ac ar ffurf cyfrolau wedi eu rhwymo fel arfer byddai’r Llyfrgell yn derbyn y ddau fformat. Fodd bynnag ers 2010, lle mae fersiynau unigol a chyfrolau rhwymedig ar gael, dim ond y cyfrolau rhwymedig sydd yn cael eu derbyn.
Mae holl Gyhoeddiadau Swyddogol Gweriniaeth Iwerddon sydd wedi eu cyhoeddi ers 1985 wedi eu rhestru yn yr OPAC. Rhestrir cyhoeddiadau cyn 1985 ar microfiche. Caiff rhai cyhoeddiadau arbennig megis cofnodion pwyllgorau eu trin fel cyfnodolion ac nid oes modd eu chwilio yn ôl teitl neu ISBN. Lle mae cyhoeddiadau ar gael yn Saesneg a Gwyddelig, gwneir ymdrech i gael copïau yn y ddwy iaith ar gyfer y casgliad.
Ers 2011 nid yw nifer o Bapurau Seneddol yn cael eu cyhoeddi mewn print, felly ni chant eu casglu gan y llyfrgell.
Gellir archebu eitemau ymlaen llaw a gellir hefyd eu rhoi ar gadw oni bai bod darllenydd arall yn gwneud cais am yr un eitem.
Ceir mynediad i adnoddau ar-lein o dudalen adnoddau ar-lein allanol.