Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Dan delerau Deddf Hawlfraint 1911 a Deddf Adnau Cyfreithiol Llyfrgelloedd 2003, byddai’r Llyfrgell yn disgwyl gallu cwmpasu bron yr holl gyhoeddiadau fformat printiedig sydd wedi eu cyhoeddi ers 1911. Gwneir pob ymdrech i sicrhau y caffaelir y prif eitemau a gyhoeddir.
Os yw’r eitem wedi ei gyhoeddi yn y Gymraeg neu o ddiddordeb Cymreig, gellir prynu ail gopi i’w ychwanegu at gasgliad Cymreig y llyfrgell. Mae Llywodraeth Cymru yn adneuo dau gopi o bob cyhoeddiad gyda’r Llyfrgell. Lle mae cyhoeddiadau ar gael fel eitemau unigol a chyfrolau rhwymedig, mae’r llyfrgell yn ceisio casglu'r ddau fformat. Mae’r llyfrgell hefyd yn casglu gwefannau Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chyrff cyhoeddus Cymreig eraill.
Caiff cyhoeddiadau swyddogol Llywodraeth Prydain sy’n ymwneud â Chymru eu trin fel rhan o’r casgliad cyhoeddiadau swyddogol Cymreig. Mae’r rhain yn cynnwys cyhoeddiadau Swyddfa Cymru (Y Swyddfa Gymreig gynt), Pwyllgor Materion Cymreig a’r rhai sydd yn ymwneud â meysydd nad ydynt wedi’u datganoli lle mae’r cynnwys o ddiddordeb penodol neu yn ymwneud â Chymru. Lle mae cyhoeddiadau sy’n cael eu trin fel rhan o gyfresi Prydeinig (er enghraifft Papurau Gorchymyn), mae’r copi adnau cyfreithiol yn aros yn y rhediad, ond caiff y copi pwrcas ei gatalogio yn yr OPAC fel monograffau neu flwyddlyfrau.
Mae dehongliad y Llyfrgell o beth yw papur Anseneddol yn eang ac yn gynhwysol iawn. Yn ychwanegol at adrannau’r Llywodraeth ac asiantaethau gweithredol, mae’n cynnwys Cyrff Cyhoeddus, Cyrff Cyhoeddus Anadrannol, Cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau sy’n cael eu hariannu’n gyhoeddus.
Mae holl Gyhoeddiadau Swyddogol Cymreig sydd wedi eu cyhoeddi ers 1985 wedi eu rhestru yn yr OPAC. Rhestrir cyhoeddiadau cyn 1985 ar microfiche. Caiff rhai cyhoeddiadau Senedd y DG yn y casgliad Cymreig eu trin fel cyfnodolion ac nid oes modd eu chwilio yn ôl teitl neu ISBN. Gellir defnyddio catalogau blynyddol neu gatalog ar-lein TSO er mwyn dod o hyn i rif y cyhoeddiad. Mae’r Llyfrgell yn pwrcasu ail gopi o gyhoeddiadau yn y Gymraeg neu sydd o ddiddordeb Cymreig, ac yn eu catalogio fel monograffau yn yr OPAC.
Caiff dogfennau a osodir gerbron y Cynulliad yn cael eu trin fel monograffau a’u catalogio unigol ar yr OPAC.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi trwy TSO, ond oherwydd cytundeb canolog ar gyfer deddfwriaeth, cyhoeddir Mesurau ac Actau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac Offerynnau Statudol Cymreig gan TSO, ac mae cofnodion ar eu cyfer yn eu catalog.
Sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel corff corfforaethol yn 1999, ond gwahanwyd yr ochrau deddfu a gweithredu yn ffurfiol yn 2007, er eu bod wedi gweithio fel cyrff ar wahân am gyfnod cyn hynny. Mae nifer o gyhoeddiadau a gyhoeddwyd yn wreiddiol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru erbyn hyn y cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru (Llywodraeth Cynulliad Cymru hyd 2011)
Gellir archebu eitemau ymlaen llaw a gellir hefyd eu rhoi ar gadw oni bai bod darllenydd arall yn gwneud cais am yr un eitem.