Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mawr yw'r goleuni a ddaeth i'r byd, a mawr y cynyddodd ac y chwanegodd pob celfyddyd a gwybodaeth ysbrydol a chorfforol ymhob iaith, ymhob gwlad ac ymhob teyrnas er pan ddychmygwyd celfyddyd printio. Eithr mor ddiystyr fyddai iaith y Cymro, a chyn belled yr esgeulusid, ag na allodd y print ddwyn ffrwyth yn y byd i'w gyfrif i'r Cymro yn ei iaith ei hun hyd yn hyn o ddydd, neu ychydig cyn hyn, y gosodes William Salesbury yr Efengylau a'r Epistolau a arferid yn yr Eglwys tros y flwyddyn yn Gymraeg ym mhrint, a Syr John Prys yntau y Pader, y Credo a'r Deg Gorchymyn.1
Ac yn awr y rhoes Duw y print i'n mysg ni er amlhau gwybodaeth ei eiriau bendigedig ef, iawn inni, fel y gwnaeth holl Gristionogaeth heb law, gymryd than o'r daioni hwnnw gyda 'ynhwy, fal na bai ddiffrwyth rhodd cystal â hon i ni mwy nog i eraill.14
O bydd d yn lle yr ð o eisiau llythyrau o'r fath hynny y bu.17
1. [tt.3-5] Kymro yn danvon Annerch at y darlheawdyr. Yma y mae Siôn Prys yn canmol y brenin am roi i'r Cymry fendithion bydol [h.y. Deddfau Uno 1536 a 1543], ac y mae'n sicr ei fod am ganiatáu iddynt fendithion ysbrydol hefyd. Am hynny gweðys yw rhoi yngymraec beth or yscrythur lan, gan fod llawer o Gymry'n medru darllen Cymraeg and heb fedru darllen Saesneg neu Ladin (peth y mae Prys yn gresynu ato); nodir y darnau fel y Credo, y Pader, y Deg Gorchymyn, a'r gwydyeu gochladwy ar kampeu ar veradwy [sic] - sylwer mai dim ond y Pader a'r Deg Gorchymyn sydd yn y Beibl! Dywed Prys fod y rhain gyda lhawer o betheu da erailh yn yskrivennedic mewn bagad o hen lyfreu kymraeg, ond nid yw'r hen lyfrau hyn ar gael yn gyffredinol ymysg y bobl. Rhaid felly fanteisio ar y print (gw. uchod, t.8), ac er mor ddymunol fyddai petai pob Cymro'n medru Saesneg neu Ladin, eto nid felly'r oedd, a phechod fyddai gadael i'r Cymry uniaith fynd yn golledig oherwydd anwybodaeth o'r ffydd. Beiir y gwr eglwysig am yr anwybodaeth hon, and addefir fod gan leygwyr dawnus gyfrifoldeb hefyd, ac felly y mae Prys, o weld amddifadrwydd ysbrydol y Cymry (er eu bod yn gystal pobl â neb yn y bôn), yn cynnig y llyfr hwn iddynt er da[n]gos blas yðyn o velysper ewylhus duw ac er kadw eu henaidieu. Anogir y Cymry i ymateb, rhag bod Prys wedi llafurio'n ofer.
Llythyr annerch byr and llwythog yw hwn, ac y mae rhai o'i themâu'n ailymddangos dro ar ôl tro yn ystod cwrs y Dadeni Dysg Cymreig.
2. [tt.5-8] Rheol y aðnabod [sic] y Gwyðor issod. Y gwyðor. Rheol. Rheol aralh. Dyma adran 'A.B.C.' y llyfryn. Ceir nodyn rhagarweiniol, yna'r wyddor ei hun, yna nodyn hynod ddiddorol ar ynganiad a pherthynas ynganiad ag orgraff (ysywaeth, nid oedd gan Edward Whitchurch yr acenion dyrchafedig yr oedd yn rhaid i Brys wrthynt i gyflawni ei fwriadau), yna nodyn pellach ar ansawdd y cytseiniaid a'r llafariaid gyda sylwadau ar dreiglo, ynganu, sillafu ac acennu; cloir drwy ddadlau y byddai'r wyddor Roeg yn addasach ar gyfer y Gymraeg na'r wyddor Ladin, ond gan gydnabod na ellid bellach roi heibio'r hen arfer. Yr oedd gan Brys chwilen yn ei ben ynglyn ag addaster yr wyddor Roeg ar gyfer y Gymraeg, a daw ei wybodaeth am y drafodaeth academaidd gyfoes parthed ynganu Lladin a Groeg i'r amlwg fwy nag unwaith yn ystod yr adran fer hon.18
3. [tt.9-20] Y Calendr. Rhoddir tudalen i bob mis gan nodi'r prif seintiau, ynghyd â pheth gwybodaeth am arwyddion y sygnau yn ogystal. Y mae'r saint Seisnig ac Ewropeaidd yn y calendr yn cyfateb yn weddol (nid yn hollol) i'r rhai a geir yng nghalendr Primer 1545, ond fe fynnodd Prys ychwanegu atynt nifer mawr o seintiau Cymreig wedi'u codi, yn ôl pob tebyg, o hen galendr canoloesol na ellir bellach ddod o hyd iddo. Ar waelod y tudalen ar gyfer pob mis ceir cyfarwyddiadau amaethyddol hynod ddiddorol, na allwyd hyd yn hyn olrhain eu ffynhonnell. Efallai mai gwaith Prys ei hun oeddynt, wedi'u hysbrydoli o bosibl gan yr ysgythriadau o orchwylion y misoedd a oedd i'w gweld yn aml mewn Llyfrau Oriau a Llyfrau Plygain cynnar.19
4. [tt.21-4] Almanak dros ugaint mlyneð. Rheol y aðnabod [sic] y Pask [yn] dragwyðol, ynghyd â nodiadau atodol.
Y mae'r Almanac yn dangos dyddiad y Pasg am ugain mlynedd rhwng 10 Ebrill 1547 a 24 Ebrill 1566, tra bod y nodyn wrth ei gwt yn galluogi'r darllenydd i glandro dyddiad y Pasg at gyfer unrhyw flwyddyn a fyn. Esbonnir wedyn pam fod rhaid wrth flwyddyn naid bob pedair blynedd, beth yw perthynas cylchdro'r lleuad â chylchdro'r haul, a beth yw arwyddocâd y rhif euraid y ðychymmygoð Iwl Kesar gyntaf. Yna nodir y rhifau 1-23, 30, 40, 50, 60, 70, 80, 90, 100, 101, 102, 1000, 2000, 3000 a 10000 gan ddangos beth yw'r rhifolion Rhufeinig at eu cyfer a hefyd eu henwau yn Gymraeg. Gorffennir gyda sylw digon gogleisiol at yr 'awgrym', sef y gyfundrefn Arabaidd o gyfrif, gan fyfyrio ychydig ar rym y rhifol 0. Dyma'r math o ddeunydd a fyddai gyda hyn yn ymddangos yn rheolaidd yn Llyfrau Gweddi Gyffredin Saesneg 1549, 1552 a 1559, ac fe'i gwelir, fel y disgwylid, yn Lliver gweddj gyffredjn William Salesbury, 1567. Cyd-ddigwyddiad hapus yw fod almanac Prys yn gorffen yn 1566 ac un Salesbury'n dechrau yn 1567!
5. [tt.25-32] Credo, neu bynkey yr ffyð gatholic. Pater noster, ney weði yr arglwyð. Aue Maria. Krist y ðywad val hyn (loan 15:16, 16:23; Mathew 6:33]. Y deng air deðyf, ney yr dec gorchymmyn Duw. Krist a roes yn ni ðeu orchymmyn er kyflawny yr holh degair [sic] uchod [Luc 10:27]. Y gwydyeu gochladwy. Y saith pechod marwol. Y kampeu arveradwy. Kampeu da gwrthwyneb yr gwydieu vchod. Keingyeu syberwyt. xvi. Keingieu kenvigen. Keingyeu digasseð. Keingieu lhesgeð. ix. Keingyeu Aghawrdeb neu gebyðiaeth. xv. Keingyeu glythyneb, xii. Keingyeu Aniweirdeb. vii. Saith rinweð yr eglwys. Saith we[i]thred y drigareð.
Dyma'r deunydd crefyddol sy'n galon y llyfr, er nad yw mewn gwirionedd ond yn hawlio chwarter y gofod sydd ynddo. Yn dilyn Rheoliadau'r Pedwerydd Cyngor Lateran yn 1215, ac yn enwedig Gyfansoddiadau'r Archesgob John Peckham yn 1281, bu'n arferiad dysgu'r deunydd hwn yn y famiaith drwy wledydd Cred ac yn enwedig yn nhalaith Caergaint (a oedd yn cynnwys yr esgobaethau Cymreig). Y mae tystiolaeth o dridegau a phedwar-degau'r unfed ganrif ar bymtheg fod hyn yn cael ei wneud drwy'r Gernyweg yn esgobaeth Caer-wysg a thrwy'r Gymraeg yn esgobaeth Bangor. Y mae bron yn sicr fod Prys wedi codi'i ddeunydd, er wedi'i addasu ryw gymaint, o rai o'r bagad o hen lyfreu kymraeg y mae'n sôn amdanynt yn ei Annerch ac yr oedd yn berchen ar lawer ohonynt. Yn fwyaf arbennig, y mae ei ymdriniaeth â keingyeu y Saith Pechod Marwol (y 'Tree of Vices' fel y'u hadnabyddid yn Saesneg) wedi'i godi o'r testun cyfriniol Cymraeg o'r drydedd ganrif ar ddeg 'Ymborth yr enaid', er bod y deunydd wedi'i dalfyrru a'i ddiwygio i raddau gan Brys; arbennig o drawiadol yw'r ffaith fod Prys wedi dileu pob cyfeiriad at breladiaid yn ei destun gwreiddiol.20
6. [t.33] Beieu y ðiskynnoð o walh y pryntiwr wrth daro.
Y mwyaf diddorol o'r 'beiau' hyn (ar wahân i'r un a nodwyd eisoes, t.9) yw fod yr wythfed gorchymyn, Na wna ledrad, wedi'i adael allan, ond annheg â Phrys yw awgrymu fod a wnelo hyn â'i weithgareddau ynglyn â diddymu'r mynachlogydd!