Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru gasgliadau helaeth o gyhoeddiadau asiantaethau rhyngwladol, ac mae hi’n lyfrgell Adnau Rheolaidd (DL241) y Cenhedloedd Unedig. Mae’r casgliad yn dyddio’n nôl i’r 1920au ac yn cynnwys dogfennau a gyhoeddwyd gan ragflaenydd y Cenhedloedd Unedig, Cynghrair y Cenhedloedd.
Mae’r monograffau, blwyddlyfrau a chyfnodolion diweddar wedi eu catalogio’n llawn a gellir eu canfod drwy chwilio’r OPAC ond ni chofnodir daliadau cyn 1986 ar gyfer nifer o gyhoeddiadau monograff a chyfresol (gan gynnwys blwyddlyfrau a bwletinau ystadegol). Mae cyhoeddiadau o’r fath yn cael eu rhoi ar y silff yn ôl teitl yng Nghasgliad y Cenhedloedd Unedig a gellir eu pori ar gais. Mae’r gwaith i’w ychwanegu i’r OPAC yn parhau.
Ni chofnodir daliadau papurau gweithio y Cenhedloedd Unedig; mae cyhoeddiadau o’r fath yn cael eu rhoi ar y silff yn ôl rhif dogfen y Cenhedloedd Unedig.
Gellir archebu eitemau o flaen llaw oni bai bod darllenydd arall eisoes wedi gwneud cais am yr eitem.
Mae’r llyfrgell yn derbyn deunydd a gyhoeddwyd gan gyrff canlynol y Cenhedloedd Unedig, yn cynnwys cyfnodolion, monograffau a phapurau sesiynol:
Derbyniodd y Llyfrgell gyhoeddiadau'r Cyngor Ymddiriedolaeth hyd nes ei atal yn 1994.
Cyhoeddir adroddiadau blynyddol cyrff ac asiantaethau atodol y Cenhedloedd Unedig fel atodiadau i Gofnodion Swyddogol y Cynulliad Cyffredinol.
Derbynnir cyhoeddiadau monograff a chyfnodolion hefyd gan asiantaethau Cenhedloedd Unedig eraill megis Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), Sefydliad Morol Rhyngwladol (IMO), Swyddfa Llafur Rhyngwladol/International Labour Office (ILO), Banc y Byd, Y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) a Chronfa Blant y Cenhedloedd Unedig (UNICEF). Mae monograffau a chyfnodolion o’r Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol (IAEA) hefyd yn cael eu hadnau ynghyd â phapurau sesiynol y Gynhadledd Gyffredinol o Sesiwn 4 (1960).
Mae casgliad o bapurau Cynghrair y Cenhedloedd o’r cyfnod 1920-1939.
Mae’r Llyfrgell yn dal amrywiol ddogfennau o Gynulliad Seneddol Cyngor Ewrop o 1949
Mae’r Cynulliad Seneddol yn cwrdd 4 gwaith y flwyddyn ym mis Ionawr (Sesiwn 1af), Ebrill (2il Sesiwn) Mehefin (3ydd Sesiwn) a Hydref (4ydd Sesiwn) gyda’r Cofnod a Dogfennau Swyddogol a’r Papurau Gweithredol yn cael eu trefnu mewn cyfrolau yn ôl y sesiwn.
Mae’r Llyfrgell yn dal nifer o gyhoeddiadau cyfresol a monograff yn cynnwys adroddiadau a bwletinau ystadegol. Nid yw daliadau cyn 1986 ar gyfer nifer o gyhoeddiadau cyfresol a monograff (gan gynnwys blwyddlyfrau a bwletinau ystadegol) wedi eu cofnodi er bod cyhoeddiadau o’r fath yn cael eu rhoi ar y silff yn ôl teitl yng nghasgliad yr OECD.
Mae’r Llyfrgell yn dal papurau gan amrywiol cyrff yr OSCE gan gynnwys:
Nid yw’r papurau hyn ar gael yn OPAC eto.
Gellir cael mynediad i adnoddau allanol ar lein ar dudalen adnoddau allanol ar lein.