Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Joseph Mallord William Turner (1775-1851),
Melin Aberdulais, Morgannwg, 1796-7,
dyfrlliw gyda phensil, 38 x 49.5 cm.
Mae'n debyg fod y darlun dyfrlliw wedi'i baentio yn 1796-7 yn seiliedig ar luniad a wnaeth Turner pan ar ymweliad รข de Cymru ym misoedd Mehefin a Gorffennaf yn 1795. Ar un o dudalennau'r llyfr lluniadu o dde Cymru mae Turner yn rhestru'r gweithiau y cafodd gomisiwn i'w gwneud. Un ohonynt yw llun o Aberdulais ar gyfer "Mr. Mitchell" yr oedd yr un person wedi comisiynu llun o Bont Llandeilo hefyd. Mae'r darlun hwnnw yng nghasgliad Amgueddfa ac O
Ymwelodd Turner ag Aberdulais ar ei drydedd daith yng Nghymru. Yr oedd Aberdulais yn grud diwydiant yng Nghymru. Yn 1584 sefydlwyd gwaith copr yma gan ddefnyddio dŵr yr afon i yrru peiriannau'r gwaith. Parhaodd diwydiant yn y fan am 300 mlynedd a mwy. Yn ei ddarlun mae Turner yn llwyddo i gynnwys holl fwrlwm bywyd diwydiannol yng nghanol tirlun. Fel hyn y mae Andrew Wilton yn mesur y darlun: "Of all Turner's views of watermills executed at this period - and Wales provided him with many - this is the most comprehensive in its survey of the life of such a place, with the least emphasis on picturesque charm for its own sake."
Mae'r felin erbyn hyn yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac ar agor i'r cyhoedd.
Prynwyd y darlun hwn gan y Llyfrgell Genedlaethol o dŷ arwerthiant Christie's ym mis Gorffennaf 1997. Gwnaed y pwrcas gyda chymorth grant oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri Wladol.