J M W Turner
Castell Dolbadarn
Joseph Mallord William Turner (1775-1851),
Castell Dolbadarn, 1799-1800,
olew ar banel, 46.5 x 34 cm.
Y darlun hwn o Gastell Dolbadarn yw astudiaeth ragbaratoawl Turner ar gyfer gwaith a arddangoswyd yn yr Academi Frenhinol yn 1802. Seiliwyd yr astudiaeth ar luniadau a brasluniadau a wnaed yn y castell yn 1798.
Mae'r panel yn esiampl gynnar bwysig o greadigrwydd a dull yr arlunydd o weithio. Yma y mae Turner wedi cyfuno brasluniau a wnaed yn awyr agored gyda themâu o hanes Cymru. Gwelir ffigur Owain Goch ynghyd â milwyr ffyddlon i'w frawd Llywelyn ap Gruffudd yn y blaendir - carcharwyd Owain yng Nghastell Dolbadarn gan ei frawd o 1255 hyd at 1277.
Gwelir tirwedd ardal Dolbadarn yn amlwg yn y campwaith cynnar hwn. Mae Turner wedi gwau ynghyd mwy nag un golwg o'r castell i greu tirlun sy ag awyrgylch, goleuni ac ymdeimlad o le. Ac ar yr un pryd ymdeimlir â rhyw dristwch na ellir ei esbonio. Gellir gweld y gwaith hwn fel un yn perthyn i'w ddarluniau rhamantus cynnar megis
Morning amongst the Coniston Fells, Cumberland a arddangoswyd yn yr Academi Frenhinol yn 1798.
Prynwyd y darlun hwn gan y Llyfrgell Genedlaethol o dŷ arwerthiant Sotheby's yn 1998. Gwnaed y pwrcas gyda chymorth grant oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri Wladol a grant oddi wrth Gronfa y Casgliadau Celf Cenedlaethol.