Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Digital Mirror

Drych Digidol

Arlunydd Cyntefig Cymreig

(Llyfr lluniadu DV56)

 


Harbwr Aberystwyth. Llyfr Lluniadu 56, t. 12 (PA 6784) Mae mwyafrif lluniau'r gyfrol hon yn olygfeydd o ardal Aberystwyth a'r cyffiniau. Mwy na thebyg person lleol yw'r arlunydd anhysbys, ac mae ganddo (neu ganddi) ddawn sylweddol. Bu'r arlunydd yn gweithio rhwng tua 1830 a 1853.

Mae ei weithiau yn naïf eu testun a'u harddull. Er enghraifft, cawn y teimlad fod gan yr arlunydd fwy o ddiddordeb yn y testun nag yn y broses o arlunio. Yn ogystal, mae'r arlunydd yn gweithio mewn ffordd debyg i grefftwr brodwaith, gan roi pwyslais ar bob manylyn yn y darlun. Felly cawn berspectif gwrth-glasurol gyda ffigurau sy'n aml yn amrywio o ran maint.

Gwir ddiddordeb yr arlunydd oedd rhoi darlun o fywyd cefn gwlad Cymru. Mae ei waith yn dangos digwyddiadau ym mywyd y werin: bedyddio, priodi a chladdu. Hefyd mae'n cynnwys golygfeydd o bobl yn gweithio yn y caeau, ac yn casglu cregyn môr. Mae yna amryw luniau hefyd sy'n dangos pobl leol yn mwynhau'r wlad yn eu horiau hamdden gyda'u teuluoedd.

Yn ogystal â'r lluniau yn y llyfr lluniadu hwn, mae gan y Llyfrgell bortffolio o ddarluniau eraill gan yr Arlunydd Cyntefig Cymreig. Ceir enghreifftiau o'i waith hefyd yn Amgueddfa Caerfyrddin, Abergwili.

 

 

Darllen pellach

 

  • Paul Joyner. Artists in Wales c.1740-c.1851, Aberystwyth : The National Library of Wales, 1997.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 19-02-2007