Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Cyhoeddwyd yr argraffiad ffolio yma o brintiadau gan John Chessell Buckler yn Llundain yn 1810 gan F.T. Sabin. Mae'n cynnwys golygfeydd o drefi a phentrefi yng ngogledd Cymru gan ganolbwyntio'n bennaf ar yr agweddau pensaernïol: eglwysi, cestyll, beddrodau a phlastai.
Yr oedd John Chessell Buckler (1793-1894) yn fab i ddrafftsmon topograffyddol a phensaernïol a oedd hefyd yn dwyn yr enw John Buckler (1770-1851). Yr oedd yn artist a fyddai'n ailgreu adeiladau'n fanwl ac oherwydd hynny yr oeddynt yn berffaith ar gyfer creu printiadau. Mae'n debyg y bu J. C. Buckler yn brentis i'w dad gan ei fod yn amhosibl gwahaniaethu rhwng gwaith y naill a'r llall. Canolbwyntiodd Buckler, fel ei dad, ar ddarlunio adeiladau gan lunio llawer o ddyfrlliwiau cain o blastai Prydeinig, adfeilion a safleoedd hynafol fel eglwysi. Mae ei ddarluniau'n gofnod manwl gywir o sut yr edrychai adeiladau ar adeg benodol mewn amser ac maent felly o ddiddordeb i unrhyw un sydd yn ymchwilio hanes ardal neu hynafiaethau. Bu'n gweithio fel pensaer hefyd a dyluniodd nifer o adeiladau pwysig, gan gynnwys Butleigh Court, Gwlad yr Haf, a Neuadd Gorawl Coleg Magdalen, Rhydychen. Cyhoeddodd nifer o lyfrau o brintiadau a chyhoeddiadau pensaernïol mwy cyffredinol yn ystod ei fywyd gan gynnwys:
Mae gan safle'r Gofrestr Archifau Genedlaethol restr o archifau'n ymwneud â Buckler : http://www.nra.nationalarchives.gov.uk/nra/searches/pidocs.asp?P=P36759