Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?

Dweud stori: Chaucer a Chwedlau Caergaint

29 Mawrth - 14 Mehefin 2014


Mewn cydweithrediad â Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (SACMC) ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor, bydd y Llyfrgell yn cynnal arddangosfa i ddathlu un o brif drysorau’r Llyfrgell Genedlethol: llawysgrif Hengwrt o Canterbury Tales Chaucer, llawysgrif sydd yn cael ei hystyried gan rai i fod y testun cynharaf o’r campwaith llenyddol hwn i oroesi.

 

 

 

Hawlfraint anhysbys

Dylan

 

28 Mehefin – 20 Rhagfyr 2014


Fel rhan o DylanThomas100, blwyddyn o ddathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas, bydd y Llyfrgell yn cynnal arddangosfa bwysig, ar raddfa fawr, ynghyd â chyfres o ddigwyddiadau comisiynedig newydd.

 

Bydd yr arddangosfa’n defnyddio sawl un o ofodau arddangos y Llyfrgell , gan gynnig cyfle unigryw i ddathlu bywyd a gwaith y llenor eiconig Cymreig, Dylan Thomas.  Bydd modd i ymwelwyr gymryd cipolwg i fyd Dylan; byd llawn barddoniaeth, storïau, dramâu a synfyfyrion, gan gael eu tywys o gwmpas y byd hwn gan Dylan ei hun.  Yn rhan o’r arddangosfa aml-gyfryngol hon, bydd llawysgrifau nad ydynt wedi’u harddangos o’r blaen o gasgliadau’r Llyfrgell ac ar fenthyg o’r Unol Daleithiau, yn ogystal â phrofiadau rhyngweithiol i bob oedran.


Drwy gydol y flwyddyn, bydd partneriaethau gyda’r ddawnswraig Eddie Ladd; Cwmni Theatr Arad Goch; y bardd Damian Walford Davies a’r arlulnwyr gweledol Pete Finnemore a Russell Roberts, yn cynnig persbectif ffres ar ryddiaith a barddoniaeth Dylan, ar Boathouse, Talacharn ac ar Caitlin Thomas.


Bydd sympoiswm gyhoeddus a fydd yn cael ei chynnal yn y Llyfrgell ar 5-6 Rhagfyr 2014, yn ddiweddglo addas i’n blwyddyn o weithgareddau, a bydd yn cynnwys dangosiad o addasiad ffilm 1972 Andrew Sinclair o Under Milk Wood ynghyd â chyfweliad rhwng y cyfarwyddwr a Damian Walford Davies, yn ogystal â nifer ddarlithiau gan siaradwyr gwadd ar ystod o bynciau yn ymwneud â’r astudiaeth o Dylan Thomas a’i waith.

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 01-10-2013