Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Digital Mirror

Drych Digidol

Tirlun Cymru - Chwilio'r Catalog


 

 

Dewis chwilio Casgliad Tirlun Cymru

 

I gyfyngu eich chwiliad i Gasgliad Tirlun Cymru rhaid ichi yn y lle cyntaf ddewis yr opsiwn Tirlun Cymru o'r ddewislen sydd yn ymddangos o dan y blwch chwilio allweddair.
 

 

Arddangos eich canlyniadau

 

Ar ôl chwilio, bydd tudalen 'Canlyniadau Chwilio' yn ymddangos sydd yn cynnwys gwybodaeth gryno ynglyn â phob teitl sy'n ymddangos ynghyd â bodlun neu ddelwedd fechan. I weld delwedd yn fwy o faint rhaid clicio ar y bodlun ac yna fe fydd eich porwr yn agor ffenest newydd i arddangos y ddelwedd yn fwy. I ddychwelyd i'r dudalen Canlyniadau Chwilio bydd rhaid i chi bwyso'r botwm 'Yn ôl' (back) ar eich porwr.

 

 

Chwilio eto

 

I chwilio o'r newydd dylech ddychwelyd at y dudalen chwilio Allweddair o fewn e-Adnoddau a chychwyn eto. Cofiwch bod rhaid dewis opsiwn Tirlun Cymru o'r ddewislen sydd yn ymddangos o dan y blwch chwilio os am gyfyngu eich chwiliad unwaith eto.

 

Nodyn ynglŷn ag iaith y catalog

 

Saesneg yw iaith y catalog yn y Llyfrgell Genedlaethol, felly rhaid defnyddio termau a ffurfiau Saesneg wrth chwilio'r gronfa.

 

 

Chwilio cronfa Tirlun Cymru yn ôl testun

 

Er mwyn chwilio yn ôl testun penodol dylech gofio fod 4 categori o destun wedi'u mynegeio: enw personol, enw corfforaethol, enw lle a phwnc.

 

 

Enw Personol

 

Os ydych chi'n chwilio am brint gan arlunydd penodol bydd rhaid i chi chwilio am enw personol. Gallwch wneud hyn drwy osod enw'r person yn ei drefn arferol yn y blwch chwilio.

 

Esiamplau o chwilio am enwau

CHWILIO Samuel Buck

CHWILIO John Williams

 

(Cofiwch mai chwilio am enw yr ydych a bydd y chwiliad hwn yn adfer yr holl gofnodion sy'n cynnwys y geiriau "John" a "Williams" lle bynnag maent yn digwydd yn y cofnod.)

 

 

Enw corfforaethol


Mae'r term enw corfforaethol yn cwmpasu rhychwant eang o destunau gan gynnwys cwmnïau, grwpiau cerddorol, pleidiau gwleidyddol, llywodraethau, cestyll, plastai, &c. Ond, nid yw'n bwysig ichi wybod pa gategori yr ydych chi'n chwilio amdano gan fod y chwilio yn digwydd ar draws pob testun yn awtomatig. Mae'r broses o chwilio am enw corfforaethol yn debyg i chwilio am enw personol - rhowch yr enw yr ydych chi'n chwilio amdano yn y blwch chwilio yn ei drefn arferol.

Esiamplau o chwilio am enw corfforaethol

CHWILIO Llandaff Cathedral
CHWILIO Cardiff Castle
(Bydd y chwiliad hwn yn adfer yr holl gofnodion sy'n cynnwys y term mynegeio "Cardiff Castle", ond cofiwch y bydd hefyd yn adfer pob cofnod llyfryddol sydd yn cynnwys y geiriau "Cardiff" a "castle".)

 


Enw lle


Mae enwau lleoedd Cymru yn ymddangos yn y cofnod llyfryddol fel y maent yn ymddangos yng ngeiriadur daearyddol 1:50 000 yr Arolwg Ordnans. Fel arfer, dylid chwilio am ffurf Saesneg neu Seisnig yr enw yn hytrach na'r ffurf Gymraeg ond mewn rhai achosion, y ffurf Gymraeg yw ffurf ddewisiol yr Arolwg Ordnans. Os felly, dylid defnyddio'r ffurf Gymraeg wrth chwilio.

 

Esiamplau o chwilio am enw lle

CHWILIO Aberdare

(Bydd y chwiliad yn adfer pob cofnod llyfryddol sy'n cynnwys yr enw "Aberdare", yn ogystal â'r rhai lle mae wedi'i fynegeio fel enw lle.)

CHWILIO Swansea

 


Pwnc


Wrth fynegeio'r printiau defnyddiwyd Thesaurus for Graphic Materials I: Subject Terms (lctgm) Llyfrgell y Gyngres i reoli geirfa heblaw am achosion prin pan ddefnyddiwyd yr Art and architecture thesaurus (aat) neu Library of Congress subject headings (lcsh). Dylai'r defnyddiwr fod yn ymwybodol mai thesawrws Americanaidd yw hwn yn dilyn confensiynau a sillafiad Americanaidd. Er enghraifft, i chwilio am lun o borthladd rhaid defnyddio'r term Harbor, ac ar gyfer rheilffyrdd fe ddylid defnyddio Railroads, &c. Gallwch chwilio mynegai i'r thesawrws arlein, http://lcweb.loc.gov/rr/print/tgm1/toc.html , er mwyn dod o hyd i dermau i'w defnyddio wrth chwilio.

Esiamplau o chwilio pwnc
CHWILIO Trees
CHWILIO Boats

 

 

Chwilio cronfa Tirlun Cymru am ffurf neu genre

 

Mynegeiwyd y printiau yn ôl genre hefyd gan ddefnyddio Graphic Materials II: Genre and Physical Characteristic Terms (gmgpc) Llyfrgell y Gyngres fel geirfa wedi'i reoli. Unwaith eto dylai'r defnyddiwr gofio mai thesawrws Americanaidd yw hwn. Gellir chwilio'r mynegai i'r thesawrws arlein, http://lcweb.loc.gov/rr/print/tgm2/toc.html, er mwyn dod o hyd i derm genre i chwilio amdano.

Esiamplau o chwilio ffurf neu genre
CHWILIO Intaglio prints

CHWILIO Chromolithographs

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 24-04-2008