Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gellir prynu printiau ffotograffig, sleidiau a thryloywon fformat mwy o safon broffesiynol o eitemau yng nghasgliad Tirlun Cymru ar gyfer defnydd preifat yn unig drwy lenwi'r ffurflen isod. Fel arfer copïau ffotograffig digidol fyddant, ond ar gais penodol cwsmer gellir sicrhau printiau wedi'u prosesu'n gemegol.
Cyn y gellir cyhoeddi unrhyw eitem o'r casgliad mewn unrhyw gyfrwng mae'n rhaid sicrhau caniatâd y Llyfrgell Genedlaethol fel deiliaid yr hawliau atgynhyrchu. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'r Gwasanaeth Ymholiadau.
Gellir archebu trwy gwblhau ffurflen archeb ac arwyddo'r datganiad hawlfraint sy'n rhan ohoni. Yna rhaid dychwelyd y ffurflen at Wasanaethau Darllenwyr, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ABERYSTWYTH, SY23 3BU, ynghyd â'r taliad. Gellir argraffu copi o'r ffurflen archeb yma.
Rhaid talu am bob archeb ymlaen llaw.
Rhaid cwblhau ac arwyddo y datganiad hawlfraint cyn i unrhyw gopïau gael eu gwneud.
Ceir gwybodaeth am y math o gopiau y gall y Llyfrgell eu darparu ynghyd a'r prisiau wrth gysylltu â'r Gwasanaeth Ymholiadau