Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Digital Mirror

Drych Digidol

Casgliad John Thomas

Sut i chwilio ac arddangos y wybodaeth

 


Dewis chwilio Casgliad John Thomas


I gyfyngu eich chwiliad i Gasgliad John Thomas rhaid ichi yn y lle cyntaf ddewis yr opsiwn John Thomas o'r ddewislen sydd yn ymddangos o dan y blwch chwilio allweddair.
 

Arddangos eich canlyniadau

Ar ôl chwilio, bydd tudalen 'Canlyniadau Chwilio' yn ymddangos sydd yn cynnwys gwybodaeth gryno ynglyn â phob teitl sy'n ymddangos ynghyd a bodlun neu ddelwedd fechan.   I weld delwedd yn fwy o faint rhaid clicio ar y bodlun ac yna fe fydd eich porwr yn agor ffenest newydd i arddangos y ddelwedd yn fwy. I ddychwelyd i'r dudalen Canlyniadau Chwilio bydd rhaid i chi bwyso'r botwm 'Yn ôl' (back) ar eich porwr.

 
Chwilio eto

I chwilio o'r newydd dylech ddychwelyd at y dudalen chwilio Allweddair o fewn e-Adnoddau a chychwyn eto.  Cofiwch bod rhaid dewis opsiwn John Thomas o'r ddewislen sydd yn ymddangos o dan y blwch chwilio os am gyfyngu eich chwiliad unwaith eto.


Nodyn ynglŷn ag iaith y catalogio

Saesneg yw iaith catalogio yn y Llyfrgell Genedlaethol, felly rhaid defnyddio termau a ffurfiau Saesneg wrth chwilio'r gronfa.


Chwilio testun

I chwilio am ffotograff yn ôl testun penodol dylech gofio fod pum categori o destun wedi'u mynegeio: enw personol, enw corfforaethol, enw cyfarfod, enw lle a phwnc.


Chwilio am enw lle


Mae enwau lleoedd Cymru yn ymddangos yn y cofnod llyfryddol fel y maent yn ymddangos yng ngeiriadur daearyddol 1:50000 yr Arolwg Ordnans. Golyga hyn chwilio o dan ffurf Saesneg neu Seisnigedig yr enw yn hytrach na'r ffurf Gymraeg ond fe all mai'r ffurf Gymraeg yw'r un ddewisol i'w defnyddio wrth chwilio. Gallwch chwilio geiriadur daearyddol yr Arolwg Ordnans yma.

 

Esiamplau o chwilio am enw lle
CHWILIO Wrexham


(Bydd y chwiliad yn adfer pob cofnod llyfryddol sy'n cynnwys yr enw "Wrexham", yn ogystal â'r rhai lle mae wedi'i fynegeio fel enw lle.)

CHWILIO Blaenau Ffestiniog


Chwilio yn ol enw personol

Os ych chi'n chwilio am ffotograff o berson penodol bydd yn rhaid ichi chwilio am enw personol. Gallwch wneud hyn trwy osod enw'r person yn ei drefn arferol yn y blwch chwilio. Defnyddiwch y ffurf fwyaf adnabyddus ar enw'r person, gan gynnwys enwau barddol yn aml iawn yn hytrach na'r enw bedydd.

 Esiamplau o chwilio am enw
CHWILIO Mair Cybi
CHWILIO Aneurin Bevan


(Cofiwch mai chwilio enw yr ydych a bydd y chwiliad hwn yn adfer yr holl gofnodion sy'n cynnwys y geiriau "Aneurin" a "Bevan" lle bynnag y maent yn digwydd yn y cofnod. Fe fydd hyn yn adfer pob llun o Aneurin Bevan, ond fe all olygu eich bod yn adennill cofnodion sydd heb fod yn berthnasol i'ch ymholiad.)

 
Chwilio enw corfforaethol


Mae'r term enw corfforaethol yn cwmpasu rhychwant eang o destunau gan gynnwys cwmnïau, grwpiau cerddorol, pleidiau gwleidyddol, llywodraethau, cestyll, plastai, &c. Ond, nid yw'n bwysig ichi wybod pa gategori yr ydych chi'n chwilio amdano gan fod y chwilio yn digwydd ar draws pob testun yn awtomatig. Mae'r broses o chwilio am enw corfforaethol yn debyg i chwilio am enw personol rhowch yr enw yr ych chi'n chwilio amdano yn y blwch chwilio yn ei drefn arferol.

 

Esiamplau o chwilio am enw corfforaethol
CHWILIO National Federation of Women's Institutes
CHWILIO Chirk Castle


(Bydd y chwiliad hwn yn adfer yr holl gofnodion sy'n cynnwys y term mynegeio "Chirk Castle", ond cofiwch y bydd hefyd yn adfer pob cofnod llyfryddol sydd yn cynnwys y geiriau "Chirk" a "castle".)

 
Chwilio enw cyfarfod


Mae enw cyfarfod yn cynnwys digwyddiadau megis eisteddfod benodol neu fabolgampau.

Esiampl o chwilio am enw cyfarfod
CHWILIO Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerffili

 

Chwilio Pwnc


Wrth fynegeio'r ffotograffau defnyddiwyd Thesaurus for Graphic Materials I: Subject Terms (lctgm) Llyfrgell y Gyngres i reoli geirfa heblaw am achosion prin pan ddefnyddiwyd yr Art and architecture thesaurus (aat) neu Library of Congress subject headings (lcsh). Dylai'r defnyddiwr fod yn ymwybodol mai thesawrws Americanaidd yw hwn yn dilyn confensiynau a sillafiad Americanaidd. Er enghraifft i chwilio am lun o gar rhaid defnyddio'r term Automobile, ar gyfer rheilffyrdd fe ddylid defnyddio Railroads, ac ar gyfer porthladdoedd y ffurf Harbors, &c. Gellwch chwilio mynegai i'r thesawrws ar-lein, http://lcweb.loc.gov/rr/print/tgm1/toc.html, er mwyn dod o hyd i dermau i'w defnyddio wrth chwilio.


Esiamplau o chwilio pwnc
CHWILIO Weddings


Chwilio am ffurf neu genre


Mynegeiwyd ffotograffau yn ôl genre hefyd gan ddefnyddio Graphic Materials II: Genre and Physical Characteristic Terms (gmgpc) Llyfrgell y Gyngres fel geirfa wedi'i rheoli. Unwaith eto fe ddylai'r defnyddiwr gofio mai thesawrws Americanaidd yw hwn. Gellir chwilio'r mynegai i'r thesawrws ar lein, http://lcweb.loc.gov/rr/print/tgm2/toc.html, er mwyn dod o hyd i derm genre i chwilio amdano.

Esiamplau o chwilio ffurf neu genre

Chwilio Landscape photographs

Chwilio Group portraits


Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 03-04-2009