Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Digital Mirror

Drych Digidol

 

Llyfr Pasiwn y Teulu Vaux

(Llsgr. Peniarth 482D)

 

 

 

Cyflwyniad

Ysgrifennwyd llawysgrif Peniarth 482D ar femrwn gan un scrifydd, a hynny yn Llundain o bosibl, unai yn niwedd y 15fed ganrif, neu ar ddechrau’r ganrif ddilynol. Fel ag yn achos llawysgrif Peniarth 481D (Brwydrau Alecsander Fawr), mae’n un o lawysgrifau canol-oesol harddaf y Llyfrgell, ac yn enghraifft brin o oroesiad mewn rhwymiad gwreiddiol. Mae iddi bwysigrwydd hefyd oherwydd ei chyswllt posibl â’r brenhinoedd Harri VII a Harri VIII.

 

 

Cynnwys

Cynhwysa’r llawysgrif ddau destun Ffrangeg:

(a)    La Passion de Nostre Seigneur (‘Dioddefaint Ein Harglwydd’), hanes Dioddefaint Crist, wedi ei rannu’n 36 pennod. Testun yw hwn a gyfieithwyd yn wreiddiol ym 1398 ar gyfer Isabeau de Bavière (Isabelle o Bavaria), brenhines Ffrainc (ff. 1-185v);
(b)    Le miroir de la mhort (‘Drych marwolaeth’), cerdd grefyddol, mewn 92 o benillion, gan Georges Chastellain (1415-1475), croniclwr Dugiaid Bwrgwyn (ff. 186-205v).

Mae’r testun cyntaf yn dechrau gydag atgyfodiad Lasarus, ac yn gorffen gyda bucheddau chwedlonol Jwdas a Philat. Ei ddiben yw gwahodd y Cristion i fyfyrio ar ddioddefiannau Crist yn ystod cyfnod ei ddal, ei ymddangosiad gerbron yr awdurdodau, ei Groeshoeliad a’i Atgyfodiad. Mae’r ail destun yn galw ar i ddarllenwyr fyfyrio ar oferedd pleserau’r byd yn wyneb sicrwydd marwolaeth.

 

 

Darlun cyntaf 'La Passion de Nostre Seigneur' (f. 9)
Darlun cyntaf 'La Passion de Nostre Seigneur' (f. 9)

Delweddau

Ceir yn y llawysgrif 34 o fân-ddarluniau sylweddol eu maint, wedi eu heuro a’u lliwio, a’u llunio mewn arddull Fflandrysaidd. Mae 33 ohonynt yn darlunio’r Dioddefaint. Mae mân-ddarlun cyntaf y gyfrol (f. 9) yn dangos gŵr yn cyflwyno cyfrol i frenin, ac yn cynnwys arfbais frenhinol Lloegr (Ffrainc a Lloegr yn chwarterog). Mae herodraeth y delweddau yn awgrymu i’r gyfrol gael ei pharatoi ar gyfer Harri VII o Loegr. Awgryma’r darlun o fachgen ieuanc galarus (efallai’r Tywysog Harri, sef y brenin Harri VIII yn ddiweddarach) yn pwyso ar wely gwag wedi ei orchuddio mewn du yn y cefndir, ynghyd â’r ddwy ferch (efallai'r Dywysoges Margaret, 13 oed, a’i chwaer y Dywysoges Mary, 7 oed) mewn penwisgoedd duon o flaen lle tân i gyflwyniad y gyfrol fod yn gysylltiedig unai â marwolaeth Arthur, Tywysog Cymru ym 1502, neu farw ei fam, y Frenhines Elisabeth, ym 1503.

 

 

Rhwymiad

Dyma un o’r ychydig lawysgrifau canoloesol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd yn ei rhwymiad gwreiddiol. Fe’i rhwymwyd rhwng byrddau pren, a orchuddiwyd â melfed rhuddgoch, a’u haddurno â boglynnau efydd. Yn ôl pob tebyg, fe’i rhwymwyd yn Llundain ar ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg, ac mae’n debyg iawn i rwymiad llawysgrif Peniarth 481D.

 

Y Fonesig Jane Guildford a hanes cynnar y llawysgrif

 

Ni lwyddwyd eto i adnabod nifer o addurniadau herodrol y gyfrol, a gallai ymchwil bellach ganfod pwy a’i comisiynodd.
Bu’r llawysgrif yn eiddo i’r Fonesig Jane (neu Joan) Guildford (née Vaux) (f. 206), y bu ei mam, Y Fonesig Katherine Vaux, brodor o Provence, yn foneddiges breswyl i Margaret o Anjou, gwraig Harri VI. Enwir Jane fel un o’r boneddigesau a fynychodd goroni Elisabeth o Gaerefrog ym 1487, ac roedd yn ddigon agos i’r teulu Brenhinol fel ag i Harri VII a’i Frenhines fynychu ei phriodas â Syr Richard Guildford (c.1450-1506) ym 1489. Erbyn 1494, dyrchafwyd Syr Richard yn Oruchwyliwr gweision y Brenin, ac mae’n bosibl mai ef yw’r unigolyn a welir yn cario gwialen ar flaen y mân-ddarlun ar f. 9. Ymddengys i’r Fonesig Jane wasanaethu'r Frenhines Elisabeth o Gaerefrog a Katherine o Aragon fel boneddiges breswyl. Cyd-deithiodd hefyd gyda’r Dywysoges Mary i Ffrainc ym 1514 ar gyfer ei phriodas â Louis XII.

 

Teulu Vaux

 

Ar f. 206 y llawysgrif, ceir enghraifft o lawysgrifen Syr Henry Guildford (1489-1532), mab Jane Guildford. Yn gyfaill i Erasmus, gweithredodd yntau fel Goruchwyliwr gweision y Brenin, ac roedd yn wrthrych portread gan Holbein. Ar farwolaeth Jane Guildford ym Medi 1538, gadawodd ei ‘book of French’ i’w nai, Thomas, Ail Farwn Vaux. Un o ysgutorion ei hewyllys oedd ei chefnder Syr William Penison, y gwelir ei enw wedi ei ysgrifennu ar f. 206 y llawysgrif. Mae arysgrif arall (f. iiv) yn cofnodi i’r gyfrol gael ei rhoi’n rhodd gan Thomas Vaux i Syr John Fermor (1516-1571), ei frawd yng nghyfraith. Daeth Fermor i’r amlwg mewn bywyd cyhoeddus fel Aelod Seneddol tros swydd Northampton ym 1553 a 1555, a hynny o dan y Frenhines Mari. Wedi hynny, bu teuluoedd Vaux a Fermor yn Reciwsantiaid Catholig, ac mae’n bosibl iddynt ddiogelu’r gyfrol hon yn ddirgel trwy weddill yr unfed ganrif ar bymtheg, a rhan gyntaf y ganrif ddilynol.

 

Unig ddarlun 'Le miroir de la mort' (f. 186)
Unig ddarlun 'Le miroir de la mort' (f. 186)

Hanes diweddar

 

Fel ag yn achos llawysgrif Peniarth 481D, mae’n bosibl i’r gyfrol ddod yn rhan o lyfrgell Syr Kenelm Digby (1603-1665), y bu i’w wyres briodi Richard Mostyn (1658-1735) o Benbedw, sir Fflint. Mae llyfrblat Penbedw yn y gyfrol yn dangos iddi fod yno ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, cyn iddi gael ei throsglwyddo, trwy olyniaeth a phriodas, i Beniarth, Meirionnydd. Ni chafodd ei chynnwys yng ngwerthiant llawysgrifau Peniarth i Syr John Williams ym 1904, ond fe brynwyd y llawysgrif yn ddiweddarach gan y dyngarwyr Miss Gwendoline a Miss Margaret Davies, Gregynog. Cyflwynasant hwy y llawysgrif yn rhodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ym 1921.

 

 

 

 

 

Llyfryddiaeth

  • Mary Williams, ‘French Manuscripts in the National Library of Wales’, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1 (1939-1940), 211-216.
  • Armel H. Diverres, ‘Le Miroir de Mort by Georges Chastellain’, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1 (1939-1940), 218-219.
  • Godfrey Anstruther, Vaux of Harrowden: a recusant family (Newport, Mon., 1953).
  • Edelgard E. DuBruck (gol.), La Passion Isabeau: une édition du manuscrit Fr. 966 de la Bibliothèque Nationale de Paris (New York, 1990).
  • George Chastelain, Le Miroir de la Mort, gol. Tania Van Hemelryck (Louvain-la-Neuve, 1995).

  • Erthygl Sean Cunningham ar ‘Sir Richard Guildford’ yn yr Oxford Dictionary of National Biography, http://www.oxforddnb.com/index.jsp
  • Erthygl L.L. Ford ar ‘Nicholas Vaux, first Baron Vaux’, yn yr Oxford Dictionary of National Biography, http://www.oxforddnb.com/index.jsp

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 15-06-2012