Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

About NLW

Am LlGC

Swyddi TGCh


Nid oes swyddi ar gael yn yr adran TGCh ar hyn o bryd.

Yr Uned Ddatblygu Meddalwedd


Mae'r Uned Ddatblygu yn dîm agos a chyfeillgar o ddatblygwyr o gefndiroedd rhaglennu amrywiol. Rydym i gyd yn gweithio mewn swyddfa agored a mae cydweithio a rhannu syniadau yn ran allweddol o'n gwaith. Mae'n arferol i gael sesiynau ad-hoc i ddatrys problemau ar y cyd, a rydym yn annog ein gilydd i rannu a thrafod ein gwaith.

Rydym yn gyson yn chwilio am ffyrdd newydd o weithio i fod yn fwy effeithiol. Rydym wedi mabwysiadu agweddau o weithio ystwyth (Agile), mae gennym system rheoli fersiynau (SVN) i gadw'n amryw brosiectau, cadwrfa RPM i reoli gosod ein datblygiadau a rydym yn rhannu a rheoli datblygu drwy system Trac. Rydym yn ymdrechu i wella'n cynnyrch drwy ddefnyddio Datblygu drwy Brofi (Test Driven Development) ac Adolygu Cydradd (Peer Review), ond rydym hefyd yn ddynol a ddim yn llwyddo gwneud popeth yr hoffwn ei wneud. Os ydych chi'n credu y byddech yn mwynhau gweithio mewn tîm hwyl o ddatblygwyr blaengar gyda unigolion tebyg.

----------------------------------------------------------------------------------------------

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 11-03-2013