Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Ydych chi’n cofio bywyd heb Facebook a Twitter? Oeddech chi’n gwylio’r teledu 30 mlynedd yn ôl ar y noson pan gafodd S4C ei lansio? Ydych chi’n cofio gwrando am newyddion pwysig o’r rheng flaen ar y weiarles yn ystod yr Ail Ryfel Byd?
Drwy lygad ein prif gymeriad, Bryn Jones, bydd yr arddangosfa yn canolbywntio ar gasgliadau Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru ac yn arddangos clipiau gweledol a chlywedol eiconig o bob degawd o’r ganrif ddiwethaf. Cawn gipolwg ar rai o’r cerrig milltir hynny yn hanes cyfathrebu yng Nghymru sydd wedi newid y ffordd ry’n ni’n byw heddiw.
Drwy ddangos gwrthrychau wedi eu benthyg gan y Museum of Communication yn Fife, bydd yr arddangosfa yn eich tywys ar daith drwy amser gyda setiau radio a theledu cynnar, clipiau ffilmiau cartref a chlipiau sain o ddarllediadau radio cynnar yng Nghymru.
Delweddau o’r arddangosfa i’w gweld ar Facebook
Dilynwch ni ar Twitter - @dotdot_dash
Poster Dot Dot Dash - Pdf
Diwrnod Dot
Dydd Sadwrn 26 Ionawr 2013
11.00am – 3.00pm
Diwrnod yn llawn gweithgarwch am ddim i ddathlu ein harddangosfa Dot Dot Dash –Cymru’n Cyfathrebu. Rhywbeth at ddant y teulu oll!
Oeddechi chi'n rhan o'r dathliadau? Ceir gweld lluniau o'r digwyddiadau yma