Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

About NLW

Am LlGC

Gwirfoddoli - helpwch ni i gyflawni!


Logo Cronfa Loteri Fawr

Rydym yn awyddus iawn i agor ein drysau a rhoi cyfle i chwi weithio’n wirfoddol yn y Llyfrgell. Bydd gwirfoddolwyr yn ymwneud â phob math o brosiectau diddorol gan ychwanegu at werth yr hyn a gyflawnir gan ein staff ar hyn o bryd. O bryd i’w gilydd byddwn yn gofyn am gymorth arbenigol, ond ar gyfer llawer o'n prosiectau y cyfan sydd ei angen yw brwdfrydedd a pharodrwydd i ddysgu. O roi o’ch amser i ni byddwch chwi, fel ninnau, ar eich ennill.

 

 

Sut y medrwch chwi helpu?

 

Rhaglenni cyhoeddus – gall cyfleoedd gynnwys arwain criw o ymwelwyr ar daith tywys o gwmpas y Llyfrgell, cynorthwyo mewn gweithgareddau neu yn ein huned ar feysydd y gwyliau cenedlaethol, fel yr eisteddfodau a’r Sioe Fawr, neu helpu gyda’n harddangosfeydd drwy groesawu ac ymateb i ymholiadau a gofynion aelodau’r cyhoedd.

Tu ôl i'r llenni
– yn aml, dyma'r lle prysuraf, lle rydym yn rheoli, cadw a chynnal y casgliadau cenedlaethol. Gallwch roi trefn ar eitemau o’r casgliadau, eu glanhau, a’n helpu wrth baratoi ar gyfer catalogio ac archifo, creu rhestrau, lapio gwrthrychau’n ddiogel neu ymchwilio, gan fanteisio ar eich sgiliau a'ch gwybodaeth.

O bell – mae’r Llyfrgell yn y broses o ddatblygu cyfleoedd gwirfoddoli i’r rhai hynny nad ydynt yn medru ymweld ag adeilad y Llyfrgell; maes o law, bydd gwirfoddolwyr ar draws Cymru a thu hwnt yn medru cyfrannu at ein gwaith o’u cartrefi neu o ganolfannau lleol, fel llyfrgelloedd cyhoeddus.

 

 

Beth gewch chi o'r profiad?

 

  • Cyfleoedd i ddatblygu sgiliau a phrofiad o fewn y sector treftadaeth;
  • Hyfforddiant priodol;
  • Cwrdd â ffrindiau newydd sy’n mwynhau’r un diddordebau;
  • Cefnogi gwaith Llyfrgell Genedlaethol Cymru;
  • Profiad gwaith i ehangu eich CV.

 

 

Sut i gychwyn

 

Yn gyntaf ewch i Gweld ein cyfleoedd cyfredol a/neu Gweld ein cyfleoedd ar gyfer y dyfodol i weld a oes un sy'n apelio. Darllenwch y disgrifiad rôl yn fanwl yn enwedig y Gofynion a'r Ymroddiad.

 

Cyn gwneud cais meddyliwch dros y canlynol:

  • eich rhesymau dros wirfoddoli;
  • sut byddai gwirfoddoli'n gweithio gyda'ch ymrwymiadau eraill.

 

Ar ôl penderfynu pa rôl wirfoddoli sy'n gweddu orau i'ch sgiliau a'ch diddordebau llenwch y ffurflen gais. Fel arfer rhoddir gwybod i ymgeiswyr am hynt eu cais drwy e-bost.

 

Llawrlwytho’r ffurflen gais (.doc)

Llawrlwytho’r ffurflen gais (.pdf)

 

Os na welwch rywbeth at eich dant ymhlith y prosiectau cyfredol yna beth am gofrestru nawr ar gyfer prosiectau’r dyfodol, fel bod modd i ni gysylltu â chwi eto pan fyddo’r amser yn aeddfed.

 

Gydag unrhyw ymholiadau ac i gofrestru cysylltwch â:

 

Gwyneth Davies, Cydlynydd Gwirfoddolwyr

E-bost: gwyneth.davies@llgc.org.uk

Ffôn: (01970) 632991

Cofiwch mai 18 yw'r oed ifancaf i wirfoddoli – ond  does neb byth yn rhy hen i gychwyn!

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 24-06-2013