Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Cefndir y Prosiect:
Mae cadwedigaeth yn un o ddyletswyddau craidd y Llyfrgell. Mae Isadran Gofal Casgliadau yr Adran Gwasanaethau Casgliadau yn ymdrechu i warchod, cadw, diogelu ac atal unrhyw ddirywiad sy’n effeithio ar gasgliadau’r Llyfrgell. Trwy gwblhau gweithgareddau Gofal Casgliadau sy’n cynnwys camau cadwedigaeth, dulliau cadwraeth ataliol, triniaeth cadwraeth a chynnal casgliadau, mae’n bosibl cyfyngu ar y broses ddirywio ac ymestyn oes ein casgliadau.
Mae llwch a baw ar gasgliadau’n gallu peryglu’r cyfryngau; gall symud i flociau testun neu ar ddogfennau a ddefnyddir. Gall plâu biolegol fwydo ar lwch; gall y llwch hefyd gynnwys sborau llwydni, sy’n gallu egino a thyfu ar y cyfrwng. Mae tystiolaeth o lwch ar yr arwyneb yn arwydd o ddiffyg mewn agwedd bwysig o reoli casgliadau.
Gellir defnyddio dulliau syml, sych i lanhau cyfrolau a dogfennau a phapurau heb eu rhwymo. Gellir glanhau llwch a baw rhydd heb rwbio na defnyddio cyfarpar arbenigol. Bydd gwirfoddolwyr hyfforddedig yn gwneud y gwaith hwn, o dan oruchwyliaeth staff cadwraeth, a bydd yn wasanaeth gwerthfawr i egwyddorion gofal casgliadau.
Lleoliad: Uned Cadwraeth Ataliol
Prif dasgau: Bydd gweithgareddau penodol yn cynnwys:-
Gofynion:
Hanfodol
Manteisiol
Oriau ac ymrwymiad:
Mae’r prosiect yn cychwyn ar Awst 30ain. Bydd sesiynnau yn rhedeg am hanner diwrnod ar ddydd Mawrth a/neu dydd Iau – oriau penodol i’w cadarnhau.
----------------------------------------------------------------------------------------------
Cefndir y Prosiect:
Mae cartwnau Jon (William John Philpin Jones) yn gasgliad gwreiddiol o tua 5,500 o gartwnau materion cyfoes a gyhoeddwyd yn y Daily Mail yn y 1960au. Nid yw’r casgliad wedi ei gatalogio ar hyn o bryd, felly bydd creu cronfa ddata o fynegai chwiliadwy o destun y cartwnau a chofnodi y stori gyfatebol yn y papur newydd yn hwyluso gwaith archifydd neu gatalogydd maes o law.
Lleoliad: Adran Gwasanaethau Casgliadau
Prif dasgau:
Gofynion:
Hanfodol
Manteisiol
Oriau ac ymrwymiad: I’w gytuno. Cychwyn Awst, 2012
----------------------------------------------------------------------------------------------
Cefndir y Prosiect:
Mae’r casgliad hwn, sydd eisoes wedi’i gatalogio, yn cynnwys enwau criwiau dros 600 o longau a ymadawodd â phorthladd Aberystwyth rhwng 1850 a 1910. Roedd yn orfodol llunio rhestr o’r fath ddwywaith y flwyddyn ar gyfer pob llong a hwyliai ar foroedd gwledydd Prydain. Ceir hefyd fanylion am y llongau, eu perchnogion a thrigfannau’r morwyr. Y mae’n ffynhonnell achyddol a morwrol gwerthfawr iawn. Fodd bynnag, nid oes modd dod o hyd i enwau'r morwyr o’r catalog.
Prif amcan y prosiect felly fydd creu cronfa ddata y bydd modd ei chwilio, megis enwau morwyr, ei swydd, enwau porthladdoedd, llongau blaenorol, dyddiadau hwylio’r llong a’r dyddiad a’r rheswm dros adael gwasanaeth y llong.
Bydd y prosiect gwirfoddol hwn yn creu arf darganfod adnoddau grymus a gwerthfawr iawn nid yn unig i achyddion ond hefyd i ymchwilwyr eraill, gan gynnwys dysgwyr o’r sector addysg uwch.
Lleoliad: Adran Gwasanaethau Casgliadau
Prif dasgau:
Gofynion:
Hanfodol
Manteisiol
Oriau ac ymrwymiad: I’w cytuno. Gobeithir cychwyn y prosiect ym Medi, 2012.
----------------------------------------------------------------------------------------------
Cefndir y Prosiect:
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn cynnal ystod eang o arddangosfeydd (sy’n seiliedig yn bennaf ar gasgliadau’r Llyfrgell a gwaith celf gan artistiaid gwadd), gan gynnwys un arddangosfa graddfa fawr thematig flynyddol. Cynhelir yr arddangosfa hon am gyfnod o 6 mis yn Oriel Gregynnog; un o orielau mwyaf Cymru. Yn ogystal â hyn, y mae gan y Llyfrgell fannau arddangos eraill o fewn yr adeilad, sy’n llai eu maint, ac a ddefnyddir ar gyfer arddangosfeydd llai.
Y mae rhai o’n harddangosfeydd yn barhaol ac eraill yn rhai a newidir yn aml, o ran eu cynnwys. Arddangosir deunydd a gweithiau ar ffurfiau traddodiadol (ar waliau ac mewn casys) a thrwy ddulliau technoleg fodern.
Lleoliad: Yr orielau a leolir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Prif dasgau:
Gofynion:
Hanfodol
Manteisiol
Oriau ac ymrwymiad: I’w cytuno. Cychwyn yn Hydref, 2012.