Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Cefndir y Prosiect:
Mae Isadran Gofal Casgliadau yr Adran Gwasanaethau Casgliadau, yn ymdrechu i warchod, cadw, diogelu ac arafu unrhyw ddirywiad sy’n effeithio ar gasgliadau’r Llyfrgell. Trwy gwblhau gweithgareddau Gofal Casgliadau, sy’n cynnwys camau cadwedigaeth, dulliau cadwraeth ataliol, triniaeth cadwraeth a chynnal casgliadau, mae’n bosibl cyfyngu ar y broses ddirywio ac ymestyn oes ein casgliadau.
Yn archif Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae casgliad mawr o gynlluniau adeiladu a lluniadau peirianyddol sydd o bwysigrwydd hanesyddol. Dros y blynyddoedd mae’r casgliad wedi cael ei gadw mewn lleoliadau anaddas. Bydd prosiect gwirfoddolwyr o fantais i’r casgliad oherwydd bydd llai o berygl iddo gael ei ddifrodi a bydd gwell mynediad ato. Bydd dulliau cadwraeth ataliol yn cael eu defnyddio a bydd staff cadwraeth yn darparu hyfforddiant.
Ar gyfer y prosiect arbennig hwn, rydym yn gobeithio gallu penodi gwirfoddolwyr gyda sgiliau a gwybodaeth arbennig a pherthnasol nad ydynt ar gael ymhlith y staff ar hyn o bryd.
Lleoliad: Uned Cadwraeth Ataliol
Prif dasgau: Bydd gweithgareddau penodol yn cynnwys:-
Gofynion:
Hanfodol
Manteisiol
Oriau ac ymrwymiad: I'w gytuno. Dyddiad cychwyn i'w gadarnhau.
----------------------------------------------------------------------------------------------
Cefndir y Prosiect:
Nôd y prosiect yw creu cofrestr o ddeunydd yn gysylltiedig â’r rheilffyrdd sydd yng Nghasgliad Cenedlaethol Ffotograffau Cymreig a chreu mynediad haws atynt i’r cyhoedd. Er bod rheilffyrdd yn bwnc ymchwil poblogaidd ers tro byd, mae prinder adnoddau wedi atal y Llyfrgell hyd yn hyn rhag paratoi rhestrau o’r ffotograffau yma. Gall gwirfoddolwr neu wirfoddolwyr hyfforddedig a fyddai’n gweithio o dan oruchwyliaeth sicrhau bod mynediad hwylus at y maes ymchwil poblogaidd hwn.
Mae nifer o ffotograffau sydd o ddiddordeb i haneswyr a’r rhai sy’n ymddiddori
mewn rheilffyrdd yn y Casgliad. Mae’r rhain yn cynnwys golygfeydd o orsafoedd rheilffordd, y trenau ac ati, a’r gweithwyr. Ond mae’r rhain wedi eu gwasgaru drwy’r casgliad o tua 4,800 o albymau, er ei bod yn bosibl gweld y rhan fwyaf trwy gofnodion electronig. Fodd bynnag, byddai cynllun i gasglu’r holl gofnodion hyn mewn un gronfa ddata, fyddai’n hawdd cael mynediad iddi, o fantais i’r casgliad.
Lleoliad: Casgliad Cenedlaethol Ffotograffau Cymreig, Gwasanaethau Casgliadau
Prif dasgau: Bydd gweithgareddau penodol yn cynnwys :-
Gofynion:
Hanfodol
Manteisiol
Oriau ac ymrwymiad: I’w gytuno. Dyddiad cychwyn i'w gadarnhau.