Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Dydd Llun – Dydd Gwener 9:30 – 18:00
Dydd Sadwrn 9:30 - 17:00
Am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch newidiadau i’n gwasanaethau yn yr adeilad ac arlein, gweler ein tudalen hysbysiadau i ymwelwyr.
Daw trysorau'r genedl yn fyw yn y ffilm fer newydd a gynhyrchwyd gan gwmni Wordley i'r Llyfrgell, sy'n hyrwyddo digido'r casgliadau at ddefnydd unrhyw un, unrhyw le yn y byd.
Trac sain y ffilm yw 'Danse Macabre' gan Camille Saint-Saëns.
Croeso i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, un o lyfrgelloedd mawr y byd.
Beth gewch chi yma?
Yn ein hadeilad yn Aberystwyth, fe gewch fynydd o wybodaeth am Gymru a’r byd – miliynau o lyfrau ar bob pwnc, miloedd o lawysgrifau ac archifau, mapiau, lluniau a ffotograffau, ffilmiau a cherddoriaeth a gwybodaeth electronig. Gallwch ddefnyddio’r rhain i gyd am ddim yn ein hystafelloedd darllen wedi i chi ddod yn ddarllenydd.
Dewch i’n gweld ni – does dim rhaid i chi fod yn ymchwilydd neu’n fyfyriwr. Ewch ar daith o amgylch ein hadeilad gwych, edrychwch ar yr arddangosfeydd, gwyliwch ffilmiau a mwynhau darlithoedd yn y Drwm, defnyddiwch ein cyfleusterau dysgu, porwch yn y siop a chael pryd yn ein bwyty Pen Dinas. Rydym yn croesawu pawb – hen ac ifanc, unigolion a grwpiau, o Gymru a thu hwnt. Y cyfan sydd yn rhaid i chi ddod gyda chi yw eich chwilfrydedd.
Ar ein gwefan fe welwch gasgliad cyfochrog y Drych Digidol. Yma gallwch ganfod cannoedd ar filoedd o gopïau electronig o lyfrau, llawysgrifau, archifau, lluniau a ffotograffau - unwaith eto, y cyfan ar gael yn rhad ac am ddim. Neu beth am ddod yn ddarllenydd a defnyddio ein llyfrgell electronig o gartref.
Dewch i fwynhau! A rhowch wybod beth yw eich barn, er mwyn ein helpu i wella ymhellach.

Roedd sôn yn y 18fed ganrif am gael llyfrgell genedlaethol i Gymru, ond dim ond yn 1873 y dechreuwyd ymgyrchu o ddifrif. Sefydlwyd pwyllgor i gasglu deunydd Cymreig a'i gadw yng Ngholeg y Brifysgol yn Aberystwyth.
Wedi hynny bu Cymry blaenllaw ac Aelodau Seneddol yn gweithio dros sefydlu Llyfrgell ac Amgueddfa Genedlaethol. Yn 1905 cafwyd addewid o arian gan y llywodraeth trwy'r Gyllideb. Penodwyd pwyllgor gan y Cyfrin Gyngor i benderfynu ar leoliad y ddau sefydliad. Dewiswyd Aberystwyth i'r Llyfrgell yn rhannol am fod casgliad yn y Coleg yn barod. Roedd y meddyg a'r casglwr Syr John Williams hefyd wedi dweud y byddai'n cyflwyno'i gasgliad i'r Llyfrgell petai hi'n cael ei sefydlu yn Aberystwyth. Penderfynwyd gosod yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.
Sefydlwyd y Llyfrgell a'r Amgueddfa trwy Siarter Frenhinol ar yr un diwrnod, sef 19 Mawrth 1907. Dechreuwyd codi adeilad y Llyfrgell ar Riw Penglais uwchben tref Aberystwyth yn 1911, a dechreuwyd ei ddefnyddio yn 1916.
Mae sawl estyniad wedi cael eu hychwanegu ers hynny. Yn 1996 cafodd storfa fawr newydd ei hagor, ac yn y blynyddoedd diwethaf mae llawer o addasu wedi bod ar ran flaen yr adeilad i'w wneud yn fwy agored a chroesawgar. Cafwyd Siarter Frenhinol newydd yn 2006.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r Llyfrgell, ei gwaith neu ei chasgliadau, mae croeso i chi gysylltu â’r tîm ymholiadau.