Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

About NLW

Am LlGC

Staff


Mae’r rhaglen ymchwil yn cael ei harwain gan yr Athro Lorna Hughes, deiliad Cadair Casgliadau Digidol Prifysgol Cymru. Hon yw’r Gadair gyntaf mewn casgliadau digidol mewn Llyfrgell Genedlaethol.

 

Penodwyd Lorna yn Ionawr 2011. Cyn dechrau ar y swydd hon ym mis Ionawr 2011, bu’n gweithio yng Ngholeg y Brenin, Llundain, yn fwyaf diweddar fel Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan e-Ymchwil. Rhwng 2005 a 2008, bu’n Rheolwr Rhaglen ar Rwydwaith Dulliau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu yr AHRC. Y mae hefyd wedi gweithio yn y dyniaethau digidol ym Mhrifysgol Efrog Newydd, Prifysgol Talaith Arizona, Prifysgol Rhydychen a Phrifysgol Glasgow. Hi yw awdur Digitizing Collections (Hughes, 2004) a chyd-awdur Virtual Representations of the Past (Greengrass and Hughes, 2008).

 

Mae Lorna yn gymrawd ymchwil hŷn yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd.

 

Manylion cyswllt: lorna.hughes@llgc.org.uk, Twitter: @lornamhughes

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 28-09-2012